Curo Straen Arholiadau gyda Thechnoleg 💻

Ysgrifennwyd y blogbost hwn gan Jeffrey Clark, Pencampwr Digidol Myfyrwyr

Banner with Student Digital Champion

Y teimlad yna o suddo…

Gyda’r arholiadau ar y trothwy mae’n siŵr eich bod i gyd yn teimlo’r pwysau. Weithiau gall y pwysau yna fod yn llethol ac arwain at gyfnodau o straen a phryder difrifol. Ddylai myfyrwyr ddim gorfod teimlo hynny! Yn y blog hwn, rwyf i am drafod ambell awgrym ac ap defnyddiol a allai eich helpu chi a myfyrwyr eraill i fynd i’r afael â straen yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Taro cydbwysedd âš–

Dyma enghraifft o sut y byddwn i’n trefnu diwrnod adolygu nodweddiadol ar Microsoft Teams

Mae’n gwbl normal teimlo lefelau isel neu ganolig o straen yn ystod eich cyfnod yn y brifysgol. Mae llawer yn digwydd! O ddarllen ac ysgrifennu traethodau i gymdeithasu gyda ffrindiau mae’n hawdd cael eich llethu o bryd i’w gilydd. Hyd yn oed os ydych chi’n wirioneddol fwynhau eich gradd, gall fod yn straen dod o hyd i amser i ymdopi â’ch modiwlau i gyd. Dyna pam rwy’n argymell rheoli eich amser a threfnu’r hyn rydych chi’n ei wneud yn hytrach na chael eich rheoli ganddo. Mae apiau fel Microsoft To-Do wedi bod yn hynod o ddefnyddiol i fi gan fy mod i’n brysur drwy’r amser. Ap rheoli tasgau am ddim yn y cwmwl yw Microsoft-To-Do sydd ar gael ar gyfer cyfrifiaduron pen desg, dyfeisiau Android ac Apple. Mae’r ap yn cynnwys rhai nodweddion defnyddiol ar gyfer sicrhau eich bod ar y trywydd iawn fel calendr y gellir ei deilwra a nodiadau atgoffa y gallwch eu trefnu yn ôl eich dewis. Mae Microsoft Teams hefyd yn cynnwys calendr y gellir ei deilwra sy’n ddefnyddiol i drefnu cyfarfodydd yn ogystal â sicrhau eich bod yn cadw’n gyfredol gyda’ch tasgau prifysgol. Mae rheoli eich amser yn lleihau straen drwy leihau pethau na allwch eu rhagweld a rhoi’r gallu i chi weithio GYDA therfynau amser yn lle bod YN EU HERBYN.

Cyngor da arall ar gyfer lleihau straen arholiadau yw canolbwyntio ar un peth ar y tro. Wrth adolygu, talwch sylw i un modiwl y dydd yn unig, os gallwch chi.  Mae hyn yn ei gwneud yn haws cofio gwybodaeth ar y modiwl rydych chi’n ei astudio fydd yn gwneud sefyll arholiad llawer yn haws. Os oes rhaid i chi astudio modiwlau niferus, cofiwch roi saib ystyrlon i’ch hun yn ystod eich astudiaethau. Mae seibiau’n bwysig wrth astudio am unrhyw gyfnod. Mae cynnwys seibiau yn eich amserlen yn allweddol ar gyfer lleihau straen ac osgoi ‘llosgi allan’, y byddwn yn trafod hyn yn fanylach yn nes ymlaen yn y post hwn.

Read More

Casgliadau LinkedIn Learning i gefnogi myfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer eu harholiadau

Wrth i dymor yr arholiadau agosáu, rydym wedi paratoi ambell gasgliad ar Linkedin Learning i’ch helpu i gael gwared ar y straen arholiadau, ac i’ch helpu i adolygu’n fwy effeithiol.

Mae gan y casgliad hwn rai awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i adolygu ac astudio ar gyfer eich arholiadau.

Gall tymor yr arholiadau fod yn gyfnod heriol i fyfyrwyr. Mae’r casgliad hwn yn cynnig rhai strategaethau a chyngor er mwyn ichi allu rheoli eich straen adeg yr arholiadau.

Mae gan holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth fynediad am ddim i LinkedIn Learning. Gweler ein cyfarwyddiadau mewngofnodi ac atebion i rai Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu yn ystod amser arholiadau.