TipDigidol 28: Sut i ychwanegu sylwadau mewn dogfennau cydweithredol ar-lein 📃

Ydych chi’n bwriadu gweithio ar brosiect grŵp cydweithredol gyda’ch cyfoedion neu a ydych chi am i gydweithiwr roi sylwadau i chi heb olygu’r ddogfen yn barhaol?

Heddiw, byddwn yn edrych ar sut i ychwanegu sylwadau mewn dogfennau cydweithredol ar-lein y gall nifer o bobl eu golygu. Trwy ddefnyddio’r nodwedd sylwadau, gall eraill ddeall eich syniadau y tu ôl i unrhyw newidiadau, gofyn unrhyw gwestiynau a chynnig dewisiadau amgen heb effeithio ar y brif ddogfen.

Gyda’r nodwedd sylwadau, mae yna amryw o nodweddion y gallwch chi fanteisio arnynt – ateb sylwadau, ymateb i sylwadau, a’u datrys trwy’r adnodd marcio newidiadau.

Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad byr:

D.S. Recordiwyd y fideo hwn yn Microsoft SharePoint. Fodd bynnag, mae’r broses gyda SharePoint a OneDrive yn debyg iawn i’w gilydd.

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Datblygwch eich Sgiliau Cyfathrebu Digidol 📱

A ydych chi eisiau dysgu sut i wella eich sgiliau cyfathrebu digidol, ac yn enwedig sut i ddefnyddio Instagram i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?

Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Instagram for your Business/Social Enterprise – with Kacie Morgan, ar Ddydd Mercher 24 Ebrill (14:10-15:00). Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal ar-lein dros MS Teams a gallwch ymuno yma.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â aberpreneurs@aber.ac.uk.

Sbarduno syniadau newydd gydag Ayoa 🌟

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Fel dysgwr gweledol, rwy’n gweithio orau pan allaf osod fy holl syniadau mewn un lle. Roeddwn i’n arfer gwneud hyn gyda beiro a phapur ond nawr, gydag Ayoa gallaf wneud hyn ar-lein! Mae Ayoa ar gael ar-lein ac fel ap ffôn, ac mae’n caniatáu ichi greu mapiau meddwl am ddim. Mae’n wasanaeth amlieithog, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg lle gallwch greu cymaint o fapiau meddwl ag yr hoffech i helpu gyda sawl prosiect gwahanol neu hyd yn oed os oes un cynllun yr hoffech ei hollti ymhellach. 

Mae’r nodweddion a ddarperir yn yr ap yn cynnwys y gallu i gychwyn map meddwl o’r newydd neu ddewis o blith un o’r templedi a grëwyd ymlaen llaw. O fewn hyn mae gennych reolaeth lawn dros nodweddion y gellir eu haddasu er enghraifft, gallwch ychwanegu canghennau diderfyn o’ch teitl canolog a chod lliw yn ôl eich prosiect a’r hyn sy’n gwneud synnwyr i chi! Gallwch hefyd olygu maint y ffont a’r testun yn ogystal â maint a siâp pob blwch a newid lliw pob cangen. Os byddwch chi’n penderfynu bod angen i gyfres o syniadau a changhennau fod yn lliw gwahanol, gallwch newid y rhain trwy’r nodwedd “plant” a fydd wedyn yn newid yr holl fformatio ar hyd y gangen hon.

Mae yna nodweddion ychwanegol hefyd megis gallu mewnosod ymatebion emoji i bob cangen a gallu mewnosod neu uwchlwytho delweddau a allai helpu i sbarduno syniadau pellach neu atgyfnerthu pwyntiau. Gallwch ychwanegu nodiadau at bwyntiau penodol i ychwanegu mwy o wybodaeth. Os hoffech rannu’ch map meddwl ag eraill, gallwch ei allforio fel JPEG a PNG a bydd pob map meddwl yr ydych chi’n ei greu yn cael ei gadw i’ch hafan Ayoa.

Mae’r nodweddion hyn oll ar gael ar y fersiwn am ddim o Ayoa sydd am ddim yn barhaol. Mae yna hefyd fersiwn y gellir ei brynu o Ayoa (Ayoa unlimited) sydd â nodweddion ychwanegol megis y gallu i gydweithredu’n fyw ar fap meddwl yn ogystal â rhannu mapiau meddwl gydag eraill yn yr ap ei hun. Byddwch hefyd yn cael mynediad at wahanol fathau o fyrddau gan gynnwys byrddau gwyn a byrddau tasgau. 

Am fwy o wybodaeth, gweler AYOA nawr ar: https://www.ayoa.com/cy/

6 Awgrym i gael Cyfarfodydd Ar-lein Llwyddiannus 💻

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae cyfarfodydd ar-lein wedi dod yn rhan annatod o fywyd academaidd a phroffesiynol. P’un a ydych yn mynychu darlith rithiol, yn cydweithio ar brosiect grŵp, neu’n mynychu cyfweliad am swydd, mae gwybod sut i lywio cyfarfodydd ar-lein yn effeithiol yn hanfodol i lwyddo.

Yn y blogbost hwn rwyf am rannu rhai awgrymiadau i’ch helpu i lywio cyfarfodydd ar-lein, a gallwch chi hefyd edrych ar y dudalen hon i gael cwestiynau Cyffredin a chanllawiau hyfforddi ar ddefnyddio MS Teams.

1) Paratowch fel y byddech chi’n paratoi ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb

Mae cyfarfodydd ar-lein yn darparu’r cyfleustra o beidio â gorfod gadael eich cartref. Daw hyn gyda’r demtasiwn o neidio allan o’r gwely 5 munud cyn dechrau’r cyfarfod. Er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi’r cyfle gorau i’ch hun lwyddo:

  • Gwisgwch fel y byddech chi’n gwisgo ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb
  • Rhowch ychydig o amser i’ch hun i baratoi’n feddyliol i osgoi teimlo eich bod yn rhuthro.
  • Manteisiwch ar y cyfle i fynd dros eich nodiadau, paratoi unrhyw gwestiynau neu gasglu unrhyw ffeiliau y mae angen i chi eu rhannu.

2) Cysylltwch yn gynnar

  • Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatrys unrhyw broblemau technegol. Profwch eich meddalwedd, rhag ofn y bydd angen ei diweddaru, sy’n golygu y byddai angen i chi ailgychwyn yr ap neu’r ddyfais.
  • Gallwch ddefnyddio’r amser ychwanegol hwn i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r holl nodweddion sydd ar gael yn MS Teams, megis y blwch sgwrsio, codi-eich-llaw, rhannu sgrin a nodweddion capsiynau byw.

3) Curadwch eich deunydd gweledol

Dyma’r prif awgrymiadau ar gyfer gwneud argraff gadarnhaol, broffesiynol:

  • Dewiswch liniadur dros ffôn neu lechen os yw’n bosibl. Gall hyn helpu gyda sefydlogrwydd delwedd, yn ogystal â chaniatáu i chi gymryd nodiadau yn haws. Os na allwch gael gafael ar liniadur, ystyriwch ddefnyddio stand ar gyfer eich dyfais.
  • Gosodwch eich camera ar lefel y llygad, gan y bydd hyn yn arwain at y ddelwedd fwyaf naturiol.
  • Edrychwch ar y camera yn hytrach na’r sgrin wrth siarad, yn enwedig mewn cyfarfodydd grŵp. Dyma’r peth agosaf i gyswllt llygaid ag y gallwch ei gael.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych oleuadau da.
  • Dewiswch y cefndir iawn. Dilynwch y Cwestiwn Cyffredin hwn i gael cyfarwyddiadau ar sut i ychwanegu cefndir rhithiol.
Screenshot showing the various virtual background that can be added in MS Teams
Opsiynau ar gyfer cynnwys cefndir rhithiol yn MS Teams

4) Optimeiddiwch eich sain

  • Dewiswch ystafell â charped a dodrefn, os yw’n bosibl. Bydd hyn yn arwain at sain gynhesach, mwy naturiol heb effaith adlais.
  • Os yw’n bosibl, defnyddiwch glustffonau yn lle’r meicroffon adeiledig i helpu i wella ansawdd eich sain.
  • Diffoddwch eich meicroffon pan nad ydych chi’n siarad i atal unrhyw sŵn diangen.

5) Lleihewch ymyriadau

  • Dewiswch fannau preifat, tawel dros fannau cymunedol neu gyhoeddus.
  • Diffoddwch unrhyw negeseuon hysbysu a rhowch wybod i eraill nad ydych eisiau cael eich tarfu os oes angen.
  • Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi adael y cyfarfod (e.e. os bydd rhywun yn canu cloch y drws), os felly gadewch i’r bobl yn y cyfarfod wybod trwy adael neges fer yn y blwch sgwrsio.

6) Meddyliwch am beth yr ydych yn ei rannu

Os oes angen i chi rannu’ch sgrin yn ystod y cyfarfod, mae bob amser yn well rhannu ffenestr benodol yn hytrach na’ch sgrin gyfan, ond efallai y bydd adegau pan na ellir osgoi hyn. Yn yr achos hwn:

  • Caewch unrhyw dabiau amherthnasol.
  • Mudwch neu gaewch raglenni i osgoi hysbysiadau neu naidlenni eraill. Neu, trowch y modd ‘peidio â tharfu’ ymlaen.
  • Symudwch, ailenwch, neu ddilëwch unrhyw lyfrnodau neu ffeiliau sensitif
  • Ystyriwch ddileu eich cwcis a’ch hanes chwilio os yw’ch porwr yn dangos chwiliadau blaenorol neu’n defnyddio awto-lenwi.

Dechrau pennod newydd – Apiau i helpu eich arferion darllen 📖

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Gyda datblygiad ffonau a thechnoleg mae ap ar gyfer popeth erbyn hyn – gan gynnwys darllen! Fel darllenydd brwd rwy’n hoffi herio fy hun gydag amcanion blynyddol, trafod llyfrau gyda chyd-ddarllenwyr a chyflawni ystadegau darllen. Gyda fy nhri hoff ap darllen – mae hyn i gyd yn bosibl!  

  1. Goodreads  

Mae Goodreads yn wych ar gyfer tracio eich deunydd darllen cyfredol a chadw ar y trywydd iawn ar gyfer eich amcanion darllen.  

  • Gosodwch her ddarllen flynyddol i chi’ch hun a bydd Goodreads yn dweud wrthych a ydych chi ar y trywydd iawn. 
  • Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd. 
  • Cewch fathodyn os byddwch yn cyrraedd eich nod. 
  • Gallwch weld llyfrau yr ydych wedi’u darllen yn y blynyddoedd diwethaf. 
  • Gallwch greu silffoedd darllen ar gyfer eich anghenion megis “eisiau darllen”. 
  • Sganiwch gloriau llyfrau yn hytrach na chwilio amdanynt. 
  • Darganfyddwch lyfrau newydd yn seiliedig ar eich darlleniadau diweddar, cyhoeddiadau newydd a llyfrau sy’n trendio.  

Read More

TipDigidol 18 – Mynegwch eich hun ag Emojis gyda’r llwybr byr cudd ar y bysellfwrdd 🥳🤩💖

Mae emojis wedi dod yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym yn cyfathrebu, a gallant fod yn wych ar gyfer mynegi ein hemosiynau gydag un nod yn unig! 🥰🤣🙄🤯😴

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn fwy cyfarwydd â defnyddio emojis ar ein ffonau symudol 📱, ond bydd adegau pan fyddwn eisiau cynnwys emojis wrth ddefnyddio ein gliniaduron neu gyfrifiaduron. Yn hytrach na chwilio ar y we am yr emoji sydd ei angen arnoch, beth am ei gyrchu’n uniongyrchol o’ch bysellfwrdd!

Ar Windows a Mac, gallwch gyrchu’ch bysellfwrdd emoji mewn eiliadau trwy ddewis:

  • Windows – Bysell Windows + “.” (botwm atalnod llawn)
  • Mac – Bysell Command + Control + bar gofod

Gwyliwch y fideo isod i weld sut mae’r llwybr byr hwn yn gweithio ar ddyfais Windows.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigi 10 – Taflu syniadau newydd gan ddefnyddio’r bwrdd gwyn yn MS Teams 💡

Oes angen i chi daflu syniadau newydd â’ch cymheiriaid ar gyfer aseiniad grŵp? Neu efallai fod gennych brosiect gwaith yr hoffech drafod syniadau newydd ar ei gyfer â’ch cydweithwyr? Mae’r bwrdd gwyn yn Microsoft Teams yn adnodd gwych ar gyfer hynny ac mae’n cynnig ystod o dempledi i chi ddewis ohonynt.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae dechrau arni, neu cliciwch ar y ddolen hon os hoffech wylio’r fideo â chapsiynau caeedig.

Byddwn hefyd yn dangos sut i ddefnyddio’r bwrdd gwyn yn ystod ein sesiwn Mastering group work with online tools and strategies prynhawn yma (7 Tachwedd, 15:00-16:00) fel rhan o’r Ŵyl Sgiliau Digidol! Gallwch ymuno â’r sesiwn hon yn uniongyrchol o raglen yr ŵyl.

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Syniadau ac awgrymiadau Microsoft PowerPoint 💡

Blogbost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Fel Microsoft Word, mae PowerPoint yn rhaglen Microsoft arall yr ydych chi fwy na thebyg wedi’i defnyddio o’r blaen. Gall cynllunio ar gyfer rhoi cyflwyniad fod yn dasg frawychus i rai, oherwydd nid yn unig y mae’n rhaid i chi siarad o flaen eich cyd-fyfyrwyr, ond bydd eich cyflwyniad PowerPoint hefyd yn cael ei arddangos ar sgrin fawr. Ond, peidiwch â phoeni oherwydd bydd gan y blogbost hon rai awgrymiadau a thriciau gwerthfawr i’ch helpu i droi cyflwyniad da yn gyflwyniad GWYCH!

Awgrym 1: Mewnosod data Excel i PowerPoint

Os yw’ch cyflwyniad yn gofyn i chi ddangos data o ddogfen Microsoft Excel sy’n bodoli eisoes, mae ffordd hawdd o’i arddangos o fewn PowerPoint.

This image has an empty alt attribute; its file name is Picture1-1.png
  1. Ar y sleid yr ydych am i’ch data ymddangos arni, ewch i Insert > Object
  2. O’r ffenestr Insert Object, dewiswch Create from file > Browse > yna dewiswch y ffeil Microsoft Excel lle mae’r siart yr hoffech ei chynnwys wedi’i lleoli > OK
  3. Bydd hyn yn mewnosod y data a’r siart yn awtomatig o’ch dogfen Microsoft Excel
  4. Gallwch olygu’r data hwn yn uniongyrchol yn eich dogfen PowerPoint trwy glicio ddwywaith ar y siart ar eich sleid
  5. Cliciwch y tu allan i’r siart pan fyddwch chi wedi gorffen, a bydd PowerPoint yn cynhyrchu siart gyda’ch data Excel!
This image has an empty alt attribute; its file name is Picture2-1024x574.png

Awgrym 2: Mewnosod fideo YouTube i PowerPoint

Read More

Datblygwch eich Sgiliau Cyfathrebu Digidol

A ydych chi eisiau dysgu sut i wella eich sgiliau cyfathrebu digidol, ac yn enwedig sut i ddefnyddio Instagram i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?

Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Use Instagram for your Business/Social Enterprise – with Kacie Morgan, ar 5 Medi (18:00-19:00). Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal ar-lein dros MS Teams.

I sicrhau eich lle, neu ar gyfer unrhyw ymholiadau, cysylltwch â aberpreneurs@aber.ac.uk.