Dechrau pennod newydd – Apiau i helpu eich arferion darllen 📖

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Gyda datblygiad ffonau a thechnoleg mae ap ar gyfer popeth erbyn hyn – gan gynnwys darllen! Fel darllenydd brwd rwy’n hoffi herio fy hun gydag amcanion blynyddol, trafod llyfrau gyda chyd-ddarllenwyr a chyflawni ystadegau darllen. Gyda fy nhri hoff ap darllen – mae hyn i gyd yn bosibl!  

  1. Goodreads  

Mae Goodreads yn wych ar gyfer tracio eich deunydd darllen cyfredol a chadw ar y trywydd iawn ar gyfer eich amcanion darllen.  

  • Gosodwch her ddarllen flynyddol i chi’ch hun a bydd Goodreads yn dweud wrthych a ydych chi ar y trywydd iawn. 
  • Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd. 
  • Cewch fathodyn os byddwch yn cyrraedd eich nod. 
  • Gallwch weld llyfrau yr ydych wedi’u darllen yn y blynyddoedd diwethaf. 
  • Gallwch greu silffoedd darllen ar gyfer eich anghenion megis “eisiau darllen”. 
  • Sganiwch gloriau llyfrau yn hytrach na chwilio amdanynt. 
  • Darganfyddwch lyfrau newydd yn seiliedig ar eich darlleniadau diweddar, cyhoeddiadau newydd a llyfrau sy’n trendio.  
  1. StoryGraph 

Mae StoryGraph yn rhoi ystadegau manwl i chi am eich arferion darllen. 

  • Gosodwch eich amcanion darllen blynyddol – naill ai nifer y llyfrau, nifer y tudalennau neu’r ddau! – a chewch wybod a ydych ar y trywydd iawn. 
  • Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd. 
  • Gallwch weld eich ystadegau darllen fesul mis, blwyddyn ac amrywiaeth o statws darllen megis ‘wedi darllen’, ‘heb orffen’, ‘i’w ddarllen’ a mwy. 
  • Gweld graffiau ar gyfer:  
    • Hwyliau 
    • Cyflymder 
    • Nifer y tudalennau 
    • Ffuglen/ffeithiol 
    • Genre 
    • Y llyfrau a ddarllenwyd wedi’u rhannu ar draws misoedd.  
  1. Fable 

Ymunwch â chlybiau llyfrau a darllenwch gydag eraill gan ddefnyddio Fable.  

  • Gosodwch eich amcanion darllen blynyddol.  
  • Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd. 
  • Ymunwch â chlwb llyfrau a darllen gydag eraill. 
  • Crëwch glwb llyfrau a dod o hyd i gymuned.  
  • Cymerwch gwis hwyliau i’ch helpu i ddod o hyd i’ch llyfr nesaf.  
  • Creu rhestr ‘i’w ddarllen’ yn seiliedig ar eich llyfrau darllen.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*