Hyfforddiant Galluoedd Digidol: Ionawr 2023

Orange banner with Aberystwyth University Logo, and Digital Capabilities Training text

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu pa adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i asesu a datblygu eich galluoedd digidol? Neu, efallai bod diddordeb gennych chi mewn dysgu mwy am sut y gallwch gefnogi’ch myfyrwyr i ddatblygu eu galluoedd digidol?

Byddwn ni’n cynnal nifer o sesiynau hyfforddi i staff drwy gydol mis Ionawr. Os nad oes modd ichi fynychu’r sesiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk a gallwn drefnu sgwrs i chi ag aelod o’n tîm.

Sesiynau cyfrwng Cymraeg:

Sesiynau cyfrwng Saesneg:

Yn olaf, hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd, ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i’ch cefnogi yn y flwyddyn newydd!

Ail gyfle i weld ein Trafodaeth Banel – ‘Cefnogi datblygiad galluoedd digidol myfyrwyr’

Daeth degfed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth, a gynhaliwyd rhwng 12 a 14 Medi 2022, â’r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o’r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i’r dulliau cyffrous ac arloesol sy’n cael eu defnyddio wrth addysgu.

Fe wnaethom ni gynnal trafodaeth banel (Cefnogi datblygiad galluoedd digidol myfyrwyr) ar ddiwrnod olaf y gynhadledd, gyda Saffron Passam (Yr Adran Seicoleg), Megan Williams (Ysgol Fusnes Aberystwyth) a Panna Karlinger (Ysgol Addysg), sef y staff academaidd gwych a oedd yn rhan o gynllun peilot yr Offeryn Darganfod Digidol gyda myfyrwyr y llynedd.

Aelodau’r Panel: Megan Williams (chwith-uchaf), Saffron Passam (dde-uchaf), Panna Karlinger (gwaelod-ganol). Hwylusydd y Panel: Sioned Llywelyn (gwaelod-chwith)

Os na welsoch chi ein trafodaeth banel, gallwch wylio recordiad ohoni yma. Fe wnaethom roi crynodeb byr o’r cynllun peilot a rhannodd Saffron, Megan a Panna sylwadau gwerthfawr ar yr hyn a weithiodd yn dda, a ddim cystal, iddynt yn ystod y cynllun peilot. Fe wnaethon nhw hefyd rannu eu cynghorion gorau i helpu myfyrwyr i ddefnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol, a buom hefyd yn trafod yr heriau a’r llwyddiannau ehangach wrth geisio gwreiddio sgiliau megis galluoedd digidol o fewn y cwricwlwm.

Adnoddau a Chefnogaeth Bellach:

Os byddwch chi’n cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol eleni, gweler y gronfa newydd o Adnoddau Addysgu i Staff (bydd angen mewngofnodi). Gallwch hefyd drefnu ymgynghoriad gydag aelod o’n tîm drwy anfon e-bost at digi@aber.ac.uk.

Hyfforddiant i Staff: Galluoedd Digidol

Cychwyn arni gyda’ch galluoedd digidol!

Rydym ni’n cynnig hyfforddiant i staff gydag Offeryn Darganfod Digidol Jisc i helpu i wella eich sgiliau a’ch galluoedd digidol. Byddwn yn rhoi trosolwg o alluoedd digidol, gan weithio drwy hunan-asesiad yr Offeryn Darganfod Digidol a thrafod pa adnoddau sydd ar gael i chi yn ogystal â pha mor bwysig yw galluoedd digidol ar gyfer staff Prifysgol Aberystwyth.

Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:

  • 12 Hydref 2022 (14:00 – 14:45): Getting started with your digital capailities.
  • 18 Hydref 2022 (10:00 – 10:45): Cychwyn arni gyda’ch galluoedd digidol.
  • 20 Hydref 2022 (15:00 – 15:45): Getting started with your digital capabilities.

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Tîm Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).

Hyfforddiant i Staff Academaidd: Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol

Bydd yr Offeryn Darganfod Digidol ar gael i bob myfyriwr Blwyddyn Sylfaen a Blwyddyn Gyntaf o ddechrau blwyddyn academaidd 2022/23. Byddwn yn cynnal sesiynau hyfforddi yn ystod mis Medi a Hydref ar gyfer staff academaidd a fydd yn cefnogi eu myfyrwyr i adolygu eu hadroddiadau Offeryn Darganfod Digidol, a bydd yn hwyluso sgyrsiau gyda myfyrwyr am alluoedd digidol.

Bydd sesiynau ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar y dyddiadau canlynol:

  • 15 Medi 2022 (11:00-12:00): Introduction to the Digital Discovery Tool
  • 15 Medi 2022 (15:00-16:00): Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol
  • 19 Medi 2022 (10:00-11:00): Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol
  • 21 Medi 2022 (14:00-15:00): Introduction to the Digital Discovery Tool
  • 4 Hydref 2022 (11:00-12:00): Introduction to the Digital Discovery Tool
  • 7 Hydref 2022 (14:00-15:00): Cyflwyniad i’r Offeryn Darganfod Digidol

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff ac ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â Sioned Llywelyn, Swyddog Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk). 

1 Awst: Dyddiad cau ar gyfer lawrlwytho adroddiadau Offeryn Darganfod Digidol

Mae’r platfform presennol ar gyfer yr Offeryn Darganfod Digidol yn cael ei ddiweddaru ar 1 Awst 2022. Os ydych wedi defnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol o’r blaen ac wedi derbyn adroddiad, rhaid ei lawrlwytho cyn 1 Awst 2022 os ydych am gadw copi ohono. 

Dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: Sut mae cael mynediad i’m hadroddiad Offeryn Darganfod Digidol a’i lawrlwytho fel ffeil PDF? 

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am lawrlwytho eich adroddiad, cysylltwch â digi@aber.ac.uk.  

Beth yw Galluoedd Digidol?

Mae’n bosib eich bod chi wedi clywed am alluoedd digidol yn barod, neu efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â’r term cysylltiedig, sgiliau digidol. Gyda sefydliad diweddar Prosiect Galluoedd Digidol newydd y Brifysgol, mae’n debygol y byddwch chi’n clywed llawer mwy am alluoedd digidol dros y misoedd nesaf.

Beth yw galluoedd digidol?

Yn ôl Jisc, mae galluoedd digidol yn arfogi unigolion i allu byw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas ddigidol. Yn sgil y pandemig, mae’r amser y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei dreulio ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol – drwy weithio, dysgu, addysgu a rhyngweithio gydag eraill ar-lein.

Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i ddysgu mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.

Read More