Newyddion Ffug a Llên-ladrad: Atal y lledaeniad! Rhan 1 – Trechu Newyddion Ffug

Post Blog gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Nithio’r grawn oddi wrth yr us
Gyda miliynau o wefannau ar gael i ddefnyddwyr y Rhyngrwyd, fe allai fod yn anodd dweud pa rai sy’n gyfreithlon. Am bob erthygl o ffynhonnell newyddion gyfreithlon, mae llawer mwy o erthyglau sy’n anghyfreithlon. Gall rhannu newyddion ffug niweidio eich enw da ar-lein, eich hygrededd, a’ch statws academaidd. Wrth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o erthyglau newyddion ffug yn ogystal â defnyddio erthyglau a ffynonellau cyfreithlon yn gywir. Bydd y blog hwn yn rhoi awgrymiadau defnyddiol i chi ar sut i gyflawni’r ddau nod a fydd yn gwneud eich taith academaidd ychydig yn haws.

Beth yw ‘newyddion ffug?’
Mae yna sawl diffiniad o newyddion ffug ond y diffiniad sy’n cael ei dderbyn yn fwyaf cyffredinol yw unrhyw stori newyddion sy’n ffug a/neu’n fwriadol gamarweiniol. Rhai o ddibenion newyddion ffug yw creu ymateb, gwthio naratif gwleidyddol, neu at ddibenion digrif. Mae’n hawdd cynhyrchu’r math hwn o newyddion ar y Rhyngrwyd gan y gall unrhyw un gyhoeddi unrhyw beth y maen nhw ei eisiau waeth beth fo’r gwirionedd neu beth fo’u cymwysterau. Mae hefyd yn dod yn fwyfwy anodd i’w ganfod gan ei bod hi’n hawdd cuddio gwefan fel ffynhonnell newyddion gyfreithlon ac mae’r cynnydd mewn technoleg yn ei gwneud hi’n haws gwneud mathau eraill o newyddion, megis adroddiadau byw, yn gyfreithlon, fel y byddwch yn ei ddysgu yn y blog hwn.

Read More

Cyfle i drafod galluoedd digidol yn Fforwm Academi’r UDDA

Rydym yn falch iawn o gael ein croesawu gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (UDDA) i arwain dwy sesiwn ar Alluoedd Digidol fel rhan o’u rhaglen Fforwm yr Academi y flwyddyn academaidd hon. Mae Fforwm yr Academi yn rhoi llwyfan i staff a myfyrwyr rannu arferion da wrth ddysgu ac addysgu. Am gyhoeddiadau a mwy o wybodaeth am sesiynau sydd ar y gweill, gallwch ddilyn Blog Fforwm Academi’r UDDA.

Cynhelir Rhan 1 ar Ddydd Mercher 7 Rhagfyr (2-3:30pm). Yn ystod y sesiwn hon gwahoddir staff i rannu’r gwahanol arferion sydd ganddynt ar hyn o bryd i gefnogi eu myfyrwyr i deimlo’n hyderus ac yn alluog wrth ddefnyddio technolegau digidol amrywiol, yn ogystal â’r heriau sydd ynghlwm â hyn, a’r dulliau o oresgyn y rhain.

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff a chadwch olwg am fanylion Rhan 2, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan! Ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Tîm Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk).

Awgrymiadau Da a Thechnoleg i Gefnogi Myfyrwyr sy’n Byw’n Annibynnol

Post Blog gan Urvashi Verma (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Wrth i’r Wythnos Groeso ddod i ben yn ddiweddar, gobeithio bod pawb wedi ymgyfarwyddo â’u hamserlenni newydd. Mae hyn yn golygu newid arferion a ffordd o fyw i gyd-fynd ag amserlen y brifysgol. I fyfyriwr sy’n byw yn annibynnol am y tro cyntaf, gall y newidiadau hyn fod yn anoddach fyth. O reoli arian i fyw gyda phobl newydd, nid yw bob amser yn chwarae plant. Er enghraifft, pan ddechreuais i fyw yn annibynnol am y tro cyntaf, fe wnes i droi fy holl ddillad gwyn yn binc llachar!

Drwy’r post blog hwn, rydw i’n mynd i rannu gyda chi awgrymiadau defnyddiol o fy mhrofiadau fy hun, ac yn enwedig yr apiau a thechnolegau gwahanol sydd wedi fy helpu i deimlo’n fwy cyfforddus yn byw’n annibynnol.

Cael digon o gwsg

Gall sicrhau eich bod chi’n cael digon o gwsg tra hefyd yn jyglo eich bywyd rhwng dosbarthiadau, aseiniadau a gwaith beri straen mawr ar y dechrau a gall gymryd rhywfaint o amser i ddod i arfer â hyn. Ceisiwch gynnal cylch cysgu gyson drwy fynd i gysgu ar yr un amser bob nos.

Technoleg: Byddwn yn argymell ap am ddim o’r enw Sleep Cycle: Sleep Recorded. Bydd yr ap hwn yn eich helpu i gofnodi eich patrwm cysgu, a gallwch ei ddefnyddio i’ch deffro ar yr adeg gywir yn unig drwy ddefnyddio cloc larwm deallus.

Read More

Ail gyfle i weld ein Trafodaeth Banel – ‘Cefnogi datblygiad galluoedd digidol myfyrwyr’

Daeth degfed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth, a gynhaliwyd rhwng 12 a 14 Medi 2022, â’r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o’r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i’r dulliau cyffrous ac arloesol sy’n cael eu defnyddio wrth addysgu.

Fe wnaethom ni gynnal trafodaeth banel (Cefnogi datblygiad galluoedd digidol myfyrwyr) ar ddiwrnod olaf y gynhadledd, gyda Saffron Passam (Yr Adran Seicoleg), Megan Williams (Ysgol Fusnes Aberystwyth) a Panna Karlinger (Ysgol Addysg), sef y staff academaidd gwych a oedd yn rhan o gynllun peilot yr Offeryn Darganfod Digidol gyda myfyrwyr y llynedd.

Aelodau’r Panel: Megan Williams (chwith-uchaf), Saffron Passam (dde-uchaf), Panna Karlinger (gwaelod-ganol). Hwylusydd y Panel: Sioned Llywelyn (gwaelod-chwith)

Os na welsoch chi ein trafodaeth banel, gallwch wylio recordiad ohoni yma. Fe wnaethom roi crynodeb byr o’r cynllun peilot a rhannodd Saffron, Megan a Panna sylwadau gwerthfawr ar yr hyn a weithiodd yn dda, a ddim cystal, iddynt yn ystod y cynllun peilot. Fe wnaethon nhw hefyd rannu eu cynghorion gorau i helpu myfyrwyr i ddefnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol, a buom hefyd yn trafod yr heriau a’r llwyddiannau ehangach wrth geisio gwreiddio sgiliau megis galluoedd digidol o fewn y cwricwlwm.

Adnoddau a Chefnogaeth Bellach:

Os byddwch chi’n cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol eleni, gweler y gronfa newydd o Adnoddau Addysgu i Staff (bydd angen mewngofnodi). Gallwch hefyd drefnu ymgynghoriad gydag aelod o’n tîm drwy anfon e-bost at digi@aber.ac.uk.

Cadw’n Ddiogel Ar-lein: Gwybodaeth Sylfaenol

Post Blog gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Peryglon y Rhyngrwyd

Does dim dwywaith nad yw’r Rhyngrwyd yn rhan o’n bywydau bob dydd. O’n swyddi i’r cyfryngau cymdeithasol, mae llawer ohonom wedi ein cysylltu â’r we mewn rhyw ffurf neu’i gilydd. Am ei fod mor gyffredin, mae’n hawdd ei ddefnyddio mewn ffordd hamddenol a diofal. Gall fod yn hawdd anghofio y gall ein cyswllt â’r Rhyngrwyd fod yn gwneud niwed i’n diogelwch ar-lein ac oddi ar-lein. Wrth i dechnoleg a defnydd o’r rhyngrwyd ddatblygu i’r fath raddau, daw’r peryglon i’ch diogelwch hefyd yn fwy soffistigedig. Bydd y blog-bost hwn yn edrych ar rai ffyrdd o gadw’n ddiogel ar-lein gartref neu ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Read More

Beth yw Lles Digidol?

Post blog gan Urvashi Verma (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Mae lles digidol yn ymwneud, yn syml, â’r effaith y mae technoleg yn ei chael ar les cyffredinol pobl. Os ydym yn chwilio am ddiffiniad manylach, lles digidol yw gallu unigolyn i ofalu am ei ddiogelwch, perthnasau, iechyd, a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith mewn cyd-destunau digidol. Yn y byd sydd ohoni, rydym wedi dod yn ddibynnol ar dechnoleg ar gyfer popeth. Er bod defnyddio technoleg yn beth llesol, ac er y gall defnyddio technoleg yn effeithlon ddatrys sawl problem, gall unrhyw fath o gamddefnydd neu orddefnydd ohoni arwain at sgil-effeithiau. Yn ôl rhai darnau o waith ymchwil, mae straen, ein cymharu ein hunain ag eraill a’n rheolaeth ar amser yn cael effaith ar ein lles yn gyffredinol. Mae’n arwain at waeth lles meddyliol, yn bennaf ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 24 oed. Mae’n fwy tebygol y bydd problemau iechyd meddwl yn datblygu, a’r rheini ar sawl ffurf, gan gynnwys unigrwydd, gorbryder ac iselder.

Read More