Croeso i’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr ar gyfer ’23-24!

Banner with Student Digital Champion

Croeso cynnes i’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr a ymunodd â’r Tîm Sgiliau Digidol ar ddechrau mis Medi! Fe fydd y tri yn gweithio gyda ni drwy gydol y flwyddyn academaidd i annog myfyrwyr ar draws y brifysgol i ddatblygu eu sgiliau digidol ac i roi mewnwelediadau gwerthfawr i’r cymorth y mae myfyrwyr ei eisiau.


Noel Czempik

“Helo! Noel ydw i ac rwy’n fyfyriwr Geneteg israddedig sydd â diddordeb arbennig mewn meddygaeth bersonol. Rwyf hefyd yn gerddor ac yn mwynhau bod yn greadigol yn y gwaith, boed hynny mewn labordy neu stiwdio recordio. Mae fy niddordebau’n cynnwys peintio, dylunio mewnol, cerddoriaeth fyw, teithiau ffordd, teithiau natur, chwilota a choginio. Rwyf hefyd yn casglu recordiau a ffigurynnau ysbrydion.

Fe wnes i gais am rôl Pencampwr Digidol Myfyrwyr er mwyn cymryd rhan mewn gwaith creadigol ac ystyrlon a datblygu fy sgiliau digidol ymhellach. Rwy’n angerddol am brofiad myfyrwyr yn y brifysgol ac yn chwilfrydig ynghylch goblygiadau iechyd a chymdeithasol bywyd digidol. Edrychaf ymlaen at gefnogi’r Tîm Sgiliau Digidol, yn arbennig wrth gefnogi lles digidol.”


Joel Williams

“Helo, Joel Williams ydw i, rydw i’n fyfyriwr yn y 3edd flwyddyn yn astudio Daearyddiaeth. Fy meysydd o ddiddordeb yw folcanoleg ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar sut mae’r ddau yn effeithio ar bobl. Fe wnes i gais i fod yn Bencampwr Digidol Myfyrwyr oherwydd roedd yn rhoi cyfle i mi adeiladu ar fy sgiliau digidol fy hun a gwella’r profiad i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ers fy ail flwyddyn rwyf wedi bod yn Gynrychiolydd Academaidd ar gyfer fy adran. Rwyf wedi mwynhau’r rôl hon yn fawr gan ei bod wedi galluogi i mi a’m cyfoedion leisio ein barn i’r Brifysgol ac yna gweld canlyniadau pendant hyn. Mae fy niddordebau’n cynnwys, tynnu lluniau tirweddau a bywyd gwyllt, nofio (fel arfer mewn pwll nofio), a than yn ddiweddar roeddwn i’n chwarae pêl-droed Americanaidd i’r Brifysgol.”


Laurie Stevenson

“Helo, Laurie ydw i ac rydw i yn fy mhedwaredd flwyddyn yn astudio gradd Cadwraeth Bywyd Gwyllt. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Tîm Sgiliau Digidol eto eleni fel Pencampwr Digidol Myfyrwyr sy’n dychwelyd. Fe wnes i fwynhau’r rôl y llynedd yn fawr iawn a sut y gwnaeth fy helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chreadigrwydd digidol yn ogystal â’m gwthio y tu hwnt i’m cilfan gysurus wrth arwain grwpiau ffocws a chynnal cyfweliadau. Rwy’n gobeithio parhau i ddysgu sgiliau newydd eleni ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ochr yn ochr â dau bencampwr newydd!”


🔔 Dilynwch ein categori Pencampwyr Digidol Myfyrwyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gynnwys cyffrous y bydd y pencampwyr yn ei gyhoeddi ar ein blog drwy gydol y flwyddyn, a hefyd ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Gwasanaethau Gwybodaeth!

TipDigi 4 – Cyfle i wella eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned, gyda’r Forest App 🌱

Ydych chi eisiau cynyddu eich cynhyrchiant wrth helpu’r blaned? Bydd y Forest App yn helpu i leihau oedi ac amhariadau a rhoi’r cymhelliant ychwanegol i chi aros yn gynhyrchiol, trwy dyfu coed ac ennill darnau arian rhithwir i ddatgloi planhigion newydd gan ddibynnu ar ba mor hir yr ydych chi wedi aros yn gynhyrchiol.

Wrth i’ch coedwig dyfu, gallwch weld sut olwg sydd ar eich dosbarthiad amser penodol dros amser, gyda siartiau manwl amrywiol wedi’u cynnwys yn yr ap. 

Gyda’r Forest App yn partneru â sefydliad plannu coed go iawn, pan fydd defnyddwyr yn gwario eu darnau arian rhithwir ar blannu coed newydd, gall tîm Forest App roi cyfraniad i’r sefydliad plannu coed go iawn i greu archebion plannu!

Gallwch lawrlwytho’r Forest App drwy’r Storfa Apiau ar ddyfeisiau iOS ac Android.

Am ragolwg cyflym, edrychwch ar y sgrin luniau uchod i weld sut gall yr Forest App edrych ar eich dyfais symudol.

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Lansiad safle Blackboard newydd ‘Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG’

Rydym yn falch o gyhoeddi lansiad Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG, safle Blackboard Learn Ultra newydd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi staff addysgu newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Mae’r safle hwn yn dwyn ynghyd yr holl gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol o Wasanaethau Gwybodaeth y bydd ei hangen ar staff addysgu newydd, gan sicrhau eu bod yn cael eu paratoi’n ‘ddigidol’ ar gyfer addysgu. P’un ai yw hynny’n arweiniad ar ddefnyddio OneDrive i storio gwaith; sut i osod modiwl newydd yn Blackboard Learn Ultra; neu ddod o hyd i ganllawiau ar gipio darlithoedd.

Gyda rhestr wirio ddefnyddiol a mynediad awtomatig i bawb drwy Blackboard Learn Ultra, gobeithiwn y bydd y safle’n arbed amser gwerthfawr i staff, yn ogystal â bod yn adnodd defnyddiol i holl staff adrannol. 

Edrychwch ar y cyflwyniad i’r safle Blackboard i ddysgu sut mae cychwyn arni.

Ar Ddydd Mercher 11 Hydref (2-3yh), hoffem wahodd staff addysgu newydd i ymuno â ni am baned yn D54, Hugh Owen (cyfarwyddiadau ar sut i ddod o hyd i’r ystafell). Bydd yn gyfle i staff addysgu newydd gwrdd â’i gilydd, yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr o Wasanaethau Gwybodaeth. Nid oes angen i chi archebu lle ar gyfer y digwyddiad.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech roi adborth am y safle, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk). 

TipDigi 3 – Trefnu eich Outlook 📧

Oes gennych chi ormod o negeseuon e-bost yn dod i mewn i’ch blwch post? Ydych chi’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i e-bost penodol sydd ei angen arnoch, neu a ydych chi ar goll yn eich holl negeseuon e-bost? 

Mae’n amser rhoi trefn ar bethau! 

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi greu is-ffolderi yn Outlook i helpu i drefnu’ch negeseuon e-bost?  

Gallwch ddefnyddio’r ffolderi hyn i glirio’ch mewnflwch fel mai dim ond negeseuon e-bost heb eu darllen neu bwysig sydd ar ôl. Gallwch hefyd ddefnyddio hyn i grwpio negeseuon e-bost gyda’i gilydd a fydd yn ei gwneud hi’n haws dod o hyd iddynt yn y dyfodol. Gallwch chi ddewis enwau i’r ffolderi a gallwch hyd yn oed greu is-ffolderi o fewn y ffolderi hyn.  

Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau isod: 

Yn syml: 

  • Ewch i’ch mewnflwch 
  • Cliciwch fotwm de’r llygoden a dewiswch ffolder newydd

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Angen gweithredu: Staff gyda chynnwys LinkedIn Learning wedi’i ymgorffori yn eu modiwlau Blackboard Learn Ultra

O Ddydd Mercher 27 Medi 2023, byddwn yn galluogi fersiwn newydd o’r offeryn sy’n caniatáu i staff ymgorffori cynnwys LinkedIn Learning o fewn eu modiwlau yn Blackboard Learn Ultra. Mae nifer o fanteision i alluogi’r fersiwn newydd hon. Fodd bynnag, bydd hyn yn golygu y bydd angen i staff sydd eisoes wedi ymgorffori cynnwys LinkedIn Learning yn eu modiwlau presennol, ddilyn ychydig o gamau cyn ac ar ôl y dyddiad hwn.

O 27 Medi 2023 gall yr holl staff ymgorffori cynnwys LinkedIn Learning yn eu modiwlau Blackboard Learn Ultra gan ddefnyddio’r fersiwn newydd o’r offeryn – mae cyfarwyddyd pellach ar gael o’r Cwestiynau Cyffredin hwn.

Beth sydd angen i mi ei wneud os oes gen i gynnwys LinkedIn Learning wedi’i ymgorffori yn fy modiwlau Blackboard Learn Ultra presennol?

  1. Cyn Dydd Mercher 27 Medi, bydd angen i chi nodi pa gyrsiau LinkedIn Learning rydych chi eisoes wedi’u hymgorffori yn eich modiwlau.
  2. Yna, gallwch ddileu’r cyrsiau hyn o’ch modiwl.
  3. O Ddydd Mercher 27 Medi, bydd angen i chi ail-ychwanegu’r cyrisau hyn gan ddefnyddio’r fersiwn newydd o’r offeryn (sut ydw i’n gwneud hynny?)

Noder: O 27 Medi ymlaen, bydd unrhyw gynnwys LinkedIn Learning sydd wedi’i ymgorffori gan ddefnyddio’r hen fersiwn o’r offeryn yn ymddangos fel dolenni sydd wedi torri i fyfyrwyr.

Beth yw manteision y fersiwn newydd?

  • Bydd ymgorffori cynnwys yn arbed amser i staff, gan y bydd yn tynnu teitl a disgrifiad y cynnwys trwyddo i’ch modiwl yn awtomatig.
  • Gall staff chwilio am gynnwys LinkedIn Learning yn uniongyrchol o Blackboard Learn Ultra.
  • Yn flaenorol, dim ond cyrsiau LinkedIn Learning oedd yn gallu cael eu hymgorffori o fewn modiwlau, ond mae’r fersiwn newydd yn caniatáu i fathau eraill o gynnwys o LinkedIn Learning, gan gynnwys fideos, ffeiliau sain, a Llwybrau Dysgu, gael eu hymgorffori.
  • Bydd myfyrwyr yn gallu gweld y cynnwys yn uniongyrchol yn Blackboard Learn Ultra, heb orfod mewngofnodi i LinkedIn Learning ar wahân.

O 27 Medi 2023 bydd pob aelod o staff yn gallu ymgorffori cynnwys LinkedIn Learning o fewn eu modiwlau Blackboard Learn Ultra gan ddefnyddio’r fersiwn newydd o’r offeryn – mae cyfarwyddyd pellach ar gael o’r Cwestiwn Cyffredin hwn.

Mae’r fideo isod (dim sain) yn dangos pa mor hawdd fydd hi i fyfyrwyr gael mynediad at gynnwys LinkedIn Learning o fewn Blackboard Learn Ultra os ydynt wedi’u hymgorffori gan ddefnyddio’r offeryn newydd.

Ar gyfer unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud ag ymgorffori cynnwys LinkedIn Learning yn Blackboard, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

TipDigi 2 – Gwiriwch eich testun Cymraeg drwy ddefnyddio ap Cysill 📝

Mae Cysill yn rhan o becyn meddalwedd iaith y gallwch ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur o’r enw Cysgliad, a bydd Cysill yn medru adnabod a chywiro gwallau Cymraeg yn eich testun. Gallwch ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o Cysill, ond gallwch wirio’ch testun yn llawer haws drwy lawrlwytho’r ap (sut ydw i’n gwneud hynny?).

Ar ôl i chi lawrlwytho ap Cysill, edrychwch ar y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:

  • Agorwch ap Cysill a’ch dogfen Word (neu ble bynnag mae eich testun Cymraeg)
  • Amlygwch y testun rydych chi am i Cysill ei wirio
  • Teipiwch Ctrl + Alt+ W ar eich bysellfwrdd (bydd hyn yn copïo a gludo eich testun yn uniongyrchol i mewn i Cysill)
  • Gwiriwch yr holl wallau y mae’r ap yn awgrymu bod angen newid
  • Cliciwch Cywiro os ydych chi’n hapus â chywiriad y mae’r ap yn ei awgrymu
  • Unwaith y byddwch wedi gweithio trwy’r holl awgrymiadau, bydd yr ap yn copïo a gludo’r testun wedi’i gywiro yn awtomatig yn ôl i’ch dogfen Word

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Hyfforddiant Sgiliau Digidol: Semester 1 ’23-24

A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu pa adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i asesu a datblygu eich sgiliau digidol? Neu, efallai bod diddordeb gennych chi mewn dysgu mwy am sut y gallwch gefnogi’ch myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau digidol?

Byddwn ni’n cynnal nifer o sesiynau hyfforddi i staff drwy gydol Semester 1. Os nad oes modd ichi fynychu’r sesiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk a gallwn drefnu sgwrs i chi ag aelod o’n tîm.

Sesiynau cyfrwng Cymraeg:

Sesiynau cyfrwng Saesneg:

Datblygwch eich sgiliau digidol bob wythnos gyda’n TipiauDigi newydd! TipDigi 1 – Llyfrnodi eich hoff dudalennau gwe 🔖

Bob wythnos byddwn yn postio TipDigi defnyddiol i’ch helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg. I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Ydych chi eisiau gallu dod o hyd i’r union dudalen we rydych chi’n chwilio amdani heb wastraffu amser yn mynd trwy sawl tudalen we wahanol? Ar gyfer tudalennau gwe rydych chi’n ymweld â nhw’n aml, gallwch eu llyfrnodi a hyd yn oed greu ffolderi ar gyfer gwahanol gategorïau o lyfrnodau, sy’n golygu na fydd raid i chi lywio drwy’r rhyngrwyd i ddod o hyd i’r dudalen we benodol honno eto! 

Dilynwch y camau hyn i lyfrnodi tudalen we: 

  • Agorwch eich dewis o borwr rhyngrwyd 
  • Chwiliwch am y dudalen we yr hoffech ei llyfrnodi 
  • Cliciwch ar y Eicon seren sydd wedi’i leoli ar ochr dde bar cyfeiriad y dudalen we 
  • Dewiswch enw ar gyfer y dudalen we yr hoffech chi ei llyfrnodi a chliciwch ar Iawn (Done) 

I reoli eich llyfrnodau: 

  • Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y bar llyfrnodau a dewiswch Rheolwr Llyfrnodau (Bookmarks manager) 
  • I greu ffolder newydd ar gyfer eich tudalennau gwe, cliciwch fotwm de’r llygoden ar y bar llyfrnodau a dewis Ychwanegu ffolder (Add folder)