TipDigidol 31: Lleihau eich holl ffenestri agored yn gyflym 💥

Mae hyn yn awgrym cyflym iawn, ond gobeithio ei fod yn ddefnyddiol! Efallai y bydd adegau lle bydd angen i chi leihau’r holl ffenestri ac apiau sydd ar agor ar sgrin eich cyfrifiadur neu liniadur. Efallai eich bod ar fin dechrau cyflwyno ac eisiau cael gwared ar yr holl ffenestri agored? Neu efallai eich bod eisiau cael gwared ar yr holl annibendod a mynd yn ôl i’ch bwrdd gwaith?

Gallwch chi bwyso’r bysellau Windows + D i leihau pob ap a ffenestr sydd ar agor a bydd yn mynd â chi’n ôl i’r bwrdd gwaith. Os ydych chi am ailagor pob ffenestr ac ap, pwyswch yr un bysellau eto!

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Fy mhrofiad gyda Code First Girls 💻

Blogbost gan Jia Ping Lee (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Rwy’n cofio dod ar draws Code First Girls trwy eu cyfryngau cymdeithasol yn ystod haf 2023, ac yna nes i ddysgu am bartneriaeth newydd Prifysgol Aberystwyth gyda nhw. Er nad oedd gen i unrhyw brofiad blaenorol o godio ac nad oedd gennyf lawer o wybodaeth am fyd technoleg, cefais fy synnu pa mor hawdd oedd hi i edrych trwy’r cyrsiau yr oedd Code First Girls yn eu cynnig ac ni waeth pa lefel o godio sydd gennych – mae cwrs priodol ar gael i chi.

Gan fy mod yn ddechreuwr llwyr gyda ieithoedd codio, cefais gipolwg ar eu cyrsiau rhagarweiniol o’r enw MOOC (cyrsiau ar-lein agored enfawr Code First Girls). Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i gyflwyno a darparu sgiliau technoleg lefel dechreuwyr a helpu i feithrin hyder mewn maes o’ch dewis. Yr hyn yr oeddwn i’n meddwl oedd yn wych am y cyrsiau hyn oedd sut yr oeddent yn cael eu trefnu a’u cyflwyno. Gyda MOOC Sprints, roeddent yn rhedeg dros 4 wythnos gydag 1 sesiwn fyw awr o hyd yr wythnos ac ar ôl i’r Sprint ddod i ben, roedd cyfle i brofi eich gwybodaeth a phrofi datrys problemau’r byd go iawn gyda Heriau MOOC a chael tystysgrif cwblhau ar ôl pasio cwisiau’r sesiwn. Profais amrywiaeth o’r cyrsiau cyflwyno a gynigir gan gynnwys codio, datblygu gwe a datrys problemau gyda Python. Gan fy mod yn gallu adolygu’r hyn a ddysgais ar fy nghyflymdra fy hun ar ôl dosbarthiadau, nid oedd mor llethol ag yr oeddwn i’n ei feddwl i ddechrau, ac roedd tiwtoriaid y cwrs bob amser ar gael i gysylltu â nhw pe bai angen cymorth neu arweiniad ychwanegol arnaf.

Ar ôl mwynhau cymryd y camau cyntaf tuag at feithrin rhywfaint o hyder technolegol, rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu o’r cyrsiau rhagarweiniol a symud ymlaen i’r lefel nesaf. Rwy’n credu mai’r wers bwysicaf yr wyf wedi’i dysgu o’r profiad hwn yw peidio byth â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd sydd y tu allan i’ch cilfan gysurus. I ddechrau, gall y byd codio ymddangos yn frawychus ac yn anodd ei ddeall, yn enwedig os nad ydych wedi dysgu amdano o’r blaen. Ond gyda Code First Girls, maen nhw yma i helpu i’n harwain a’n cefnogi i gyflawni’r sgiliau gorau sydd eu hangen arnom i gael cyfleoedd cyffrous yn y dyfodol!

Cymerwch olwg ar y blogbost hyn lle dewch o hyd i 5 reswm pam y dylech fanteisio ar bartneriaeth Prifysgol Aberystwyth gyda Code First Girls. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl gyfleoedd ar wefan Code First Girls.

Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â’r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gan gynnwys heriau a chyrsiau codio gyda CoderPad a GitHub yn LinkedIn Learning.

Gwnewch y mwyaf o dechnoleg wrth i chi baratoi ar gyfer eich arholiadau 💻📚

Wrth i ni agosáu at ddechrau cyfnod yr arholiadau, rydym wedi rhestri amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i wneud y gorau o dechnoleg wrth i chi baratoi ac adolygu ar gyfer eich arholiadau.

(Mewngofnodwch gyda’ch e-bost a chyfrinair PA)

(Mewngofnodwch gyda’ch e-bost a chyfrinair PA)

Edrychwch hefyd ar y Cwestiynau a Holir yn Aml am yr arholiadau, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch unrhyw un o’r adnoddau sydd wedi’u rhestri uchod, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

TipDigidol 30 – Creu ffolderi ar eich ffôn i’ch helpu i gadw trefn 📁

Ydych chi’n aml yn cael eich llethu gan yr holl annibendod ac apiau nad ydynt yn cael eu defnyddio sy’n adeiladu ar eich ffôn?

Gyda Tip Digidol 30, gallwn edrych ar sut i greu ffolderi ar eich ffôn a chategoreddio eich apiau yn ôl math i’ch helpu i gadw trefn. Gallai categorïau ffolder enghreifftiol gynnwys teithio, cyllid, ffordd o fyw, adloniant, cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy!

Gwyliwch y fideos isod am arddangosiad byr:

D.S. Bydd y fideos yn cynnwys enghraifft ar gyfer dyfeisiau IOS ac enghraifft ar gyfer dyfeisiau Android.

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Creu eich proffil ar LinkedIn: Rock your Profile 🤘🏻

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Sylwer mai dim ond trwy gyfrwng y Saesneg y ceir holl ddarpariaethau LinkedIn ar hyn o bryd.   

Wrth i ddiwedd y flwyddyn academaidd agosáu, efallai eich bod yn dechrau meddwl am ragolygon swyddi a’ch gyrfaoedd yn y dyfodol a ble i ddechrau ar y daith hon.  Mae LinkedIn bellach yn cynnig gweminarau “Rock your Profile” i’ch helpu i ddysgu sut i adeiladu proffil diddorol sy’n apelio at eich cynulleidfa ddelfrydol yn ogystal â thynnu sylw at nodweddion allweddol ac arferion gorau ar gyfer adeiladu proffil atyniadol.  Mae’r gweminarau hyn ar gael ar wahanol adegau o’r dydd, cofrestrwch yma nawr:  Rock Your Profile (linkedin.com).  

Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig adolygu proffiliau CV a LinkedIn a rhoi cyngor ar eu gwella.  Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau hyn drwy alw heibio yn bersonol i Lyfrgell Hugh Owen Lefel D yn ystod y tymor.  Mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd ar gael drwy e-bost yn: gyrfaoedd@aber.ac.uk.  Fel arall, mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd yn cynnal sesiynau ar sut i greu CV a phroffil LinkedIn yn llwyddiannus. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu hysbysebu ar y porth gyrfaoedd: www.aber.ac.uk/gyrfaoeddABER.  Cawsom hefyd sesiwn am sut i ddefnyddio LinkedIn yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol y gallwch ei weld yma:  Sut i ddefnyddio LinkedIn – Gŵyl Sgiliau Digidol 2023 (6 – 10 Tachwedd) (aber.ac.uk).  Gallwch weld rhagor o adnoddau ar LinkedIn drwy’r fideos isod: