Ail gyfle i drafod sgiliau digidol yn Fforwm Academi’r UDDA

Rydym yn falch iawn o gael ein croesawu yn ôl gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (UDDA) i arwain ail sesiwn ar sgiliau digidol fel rhan o’u rhaglen Fforwm yr Academi y flwyddyn academaidd hon.

Mae Fforwm yr Academi yn rhoi llwyfan i staff a myfyrwyr rannu arferion da wrth ddysgu ac addysgu. Am gyhoeddiadau a mwy o wybodaeth am sesiynau sydd ar y gweill, gallwch ddilyn Blog Fforwm Academi’r UDDA.

Fe gyflwynom ni’r sesiwn gyntaf ar 7 Rhagfyr, a gallwch ddarllen crynodeb o’n trafodaeth. Yn ystod ein ail sesiwn, a fyddwn yn cynnal ar-lein ar Ddydd Mercher 19 Ebrill (10:00-11:30), byddwn yn adeiladu ar ein trafodaeth o’r sesiwn gyntaf ac yn archwilio ymhellach sut y gallwn gefnogi ein myfyrwyr i wneud y mwyaf o dechnoleg.

Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff. Ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Seminar YBacA (28 Mawrth): Apiau symudol ar gyfer ymchwil, cymorth neu elw

Person Holding Silver Android Smartphone with apps displayed on the screen

Ar Ddydd Mawrth 28.03.23 (12:00-14:00), bydd yr adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn cynnal seminar wyneb yn wyneb i helpu ymchwilwyr i benderfynu a yw eu syniad am ap yn ymarferol a sut i fynd ati i wneud iddo ddigwydd.

Bydd y seminar yn cael ei arwain gan yr Athro Chris Price o’r Adran Gyfrifiadureg. 

Am ragor o wybodaeth, ac i archebu eich lle, ewch i dudalen y digwyddiad.

Aelod Tîm Newydd!

Helo bawb, fy enw i yw Shân Saunders, a fi yw’r cydlynydd datblygu sgiliau a galluoedd digidol newydd. Cwblheais fy ngradd israddedig ac MPhil yn Aberystwyth ac ers graddio yn 2022 rwyf wedi bod eisiau gweithio ym maes barn a boddhad myfyrwyr. Rydw i hefyd wedi bod yn aelod o dîm Dy Lais ar Waith ers mis Medi 2021. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r tîm sgiliau digidol ers mis Awst 2022 a hyd yma rwyf wedi gweithio ar Adnodd Darganfod Digidol JISC a’r Llyfrgell Sgiliau Digidol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar yr Ŵyl Sgiliau Digidol ym mis Tachwedd 2023 a thrafod yn gyffredinol yr hyn rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr a sut y gallwn wella’r modd yr ydym yn cyflwyno ein hadnoddau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at y cyfle i gynnal mwy o grwpiau ffocws a hyfforddiant gyda myfyrwyr a staff sy’n ymwneud â sgiliau ac adnoddau digidol.

Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2023 #CofleidioTegwch

Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Y thema eleni yw #CofleidioTegwch, ac mae’n rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae hefyd yn alwad i ni weithredu gan gofleidio tegwch yn llawn.

Female students talking whilst walking on campus

Dyma ddetholiad o fideos LinkedIn Learning byr, i gyd dan 5 munud, sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Gallwch gael mynediad i’r fideos hyn am ddim gyda’ch cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth.

  1. What is equity? (3m 48e)
  2. Equity in the workplace (2m 18e)
  3. Inclusive and equitable behaviours (3m 44e)
  4. The challenge of equity (4m 23e)
  5. Equity makes organisations stronger (5m 43e)
  6. Why you should care about allyship (3m 6e)
  7. How equity fosters fairness (4m 52e)
  8. Equitable leadership (3m 7e)

Myfyrwyr 📣 Beth ydych chi’n feddwl o LinkedIn Learning?

Bydd y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnal grwpiau ffocws awr o hyd ym mis Mawrth i gasglu adborth gan fyfyrwyr ar eu profiadau o ddefnyddio LinkedIn Learning. Byddwch yn derbyn taleb gwerth £10 am awr o’ch amser.

Cynhelir y grwpiau ffocws hyn ar-lein ar y dyddiadau canlynol:

  • Dydd Mawrth 14 Mawrth, 11:00-12:00
  • Dydd Gwener 17 Mawrth, 15:00-16:00
  • Dydd Mercher 22 Mawrth, 11:00-12:00
  • Dydd Mercher 22 Mawrth, 15:00-16:00

I gymryd rhan, llenwch y ffurflen fer hon i gofrestru. Mae hefyd croeso i chi gysylltu â digi@aber.ac.uk gydag unrhyw gwestiynau.