Beth yw Galluoedd Digidol?

Mae’n bosib eich bod chi wedi clywed am alluoedd digidol yn barod, neu efallai eich bod yn fwy cyfarwydd â’r term cysylltiedig, sgiliau digidol. Gyda sefydliad diweddar Prosiect Galluoedd Digidol newydd y Brifysgol, mae’n debygol y byddwch chi’n clywed llawer mwy am alluoedd digidol dros y misoedd nesaf.

Beth yw galluoedd digidol?

Yn ôl Jisc, mae galluoedd digidol yn arfogi unigolion i allu byw, dysgu a gweithio mewn cymdeithas ddigidol. Yn sgil y pandemig, mae’r amser y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ei dreulio ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol – drwy weithio, dysgu, addysgu a rhyngweithio gydag eraill ar-lein.

Gwyliwch y fideo byr hwn gan Brifysgol Derby i ddysgu mwy am bwysigrwydd galluoedd digidol.

Read More

Croeso i’r Blog Galluoedd Digidol newydd!

Dr Sioned Llywelyn – Swyddog Galluoedd Digidol

Bwriad y blog hwn yw cyflwyno’r newyddion diweddaraf am y cyfleoedd a’r datblygiadau ym Mhrosiect Galluoedd Digidol newydd Prifysgol Aberystwyth, prosiect a sefydlwyd ym mis Awst 2021. Mae’r Prosiect Galluoedd Digidol yn cwympo o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth ac rydym yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau i fyfyrwyr a staff i’ch helpu i asesu, cynllunio a datblygu eich galluoedd digidol.

Fel rhan o’r prosiect newydd hwn, penodwyd Dr Sioned Llywelyn yn Swyddog Galluoedd Digidol a bydd hi’n gweithio ochr yn ochr â staff a myfyrwyr i’w helpu i ddatblygu eu galluoedd digidol. I gysylltu â Sioned, anfonwch e-bost at digi@aber.ac.uk.

Cadwch lygad allan am ein blog nesaf lle byddwn yn cyflwyno gwybodaeth am Fframwaith Galluoedd Digidol Jisc, fframwaith yr ydym yn ei ddilyn yn agos fel rhan o’r prosiect hwn. Cofiwch hefyd y gallwch danysgrifio i’n blog!