Ydych chi erioed wedi gweithio ar ddogfen Excel fawr ac wedi sgrolio i lawr i ddod o hyd i ffigur, ond wedyn wedi gorfod sgrolioân Ă´l i fyny iâr brig eto iâch atgoffaâch hun beth oedd pennawd y golofn honno?!
Mae nodwedd hynod o ddefnyddiol yn Excel a all eich helpu gyda hyn, syân galluogi i chi rewi un neu fwy o resi a cholofnau. Gallwch ddefnyddioâr nodwedd yn Excel drwy glicio ar Gweld > Rhewiâr Cwareli.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae rhewi colofnau a rhesi:
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch iân Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Ydych chi erioed wedi teimlo bod eich ffĂ´n yn eich rheoli chi mwy nag yr ydych chiân rheoli eich ffĂ´n? Dynaân union yr oeddwn iân ei deimlo, nes i mi gyrraedd croesffordd y llynedd. Yn rhwystredig oherwydd yr ymdrechion aflwyddiannus i leihau fy amser ar sgrin a’r teimlad o fod yn sownd mewn byd digidol, cychwynnais ar daith ddadwenwyno digidol trwy gydol mis Rhagfyr â gallwch ddarllen amdani yma.
Yn y blogbost hwn, byddaf yn rhannu fy mhrofiad, yr uchafbwyntiau a’r isafbwyntiau, a’r gwersi a ddysgais o adennill rheolaeth dros fy arferion digidol.
đ Newidiadau cadarnhaol o’m detocs
Llai, nid mwy, o unigrwydd. Wnes i erioed sylweddoli faint yr oedd cyfryngau cymdeithasol yn draenio fy matri cymdeithasol. Ar Ă´l peth amser hebddo, roeddwn i’n ei chael hi’n haws mynd allan a rhyngweithio â phobl, ac yn sicr ni wnes i golli’r ofn fy mod yn colli allan.
Gwell ymwybyddiaeth emosiynol. Roeddwn i’n meddwl bod defnyddio fy ffĂ´n yn helpu i reoleiddio fy emosiynau, ond dim ond tynnu sylw ydoedd. Ar Ă´l addasiad annymunol, gallwn gydnabod a phrosesu fy nheimladau’n fwy iach.
Trefn bore newydd. Roeddwn i’n meddwl nad oedd gen i un, ond fy nhrefn boreol oedd defnyddio fy ffĂ´n. Ar Ă´l i mi stopio, roeddwn i’n ei chael hi’n haws gwneud pethau eraill, megis ysgrifennu yn fy nyddiadur gyda phaned o de.
Cynhyrchiant a chreadigrwydd diymdrech. Gallwn wneud llawer yn yr eiliadau bach hynny pan fyddwn fel arfer yn codi fy ffĂ´n. Roedd fy meddwl yn glir hefyd i feddwl am fy natrysiadau fy hun yn hytrach na chwilio amdanynt ar-lein.
Gorffwys gwell. Roedd ansawdd fy nghwsg yn gwella, ac roedd seibiannau bach yn ystod y dydd yn fwy hamddenol.
Byw iâr funud. Roedd hiân haws mwynhauâr cyfnodau bach bob dydd ac roedd amser fel petaiân arafu.
đ Rhai o’r anfanteision a’r heriau a brofais
Ymfudodd fy arferion digidol i apiau eraill. Am gyfnod, roeddwn i’n ei chael hi’n anodd peidio â disodli’r cyfryngau cymdeithasol gyda YouTube neu hyd yn oed sgrolio trwy fy lluniau neu negeseuon. Roedd ap ScreenZen yn ddefnyddiol iawn â Darllenwch fy adolygiad o’r ap yma.
Y cyfnod addasu. Am beth amser, roeddwn i’n teimlo’n anniddig ac yn ddiflas ac yn crefu i gael defnyddio fy ffĂ´n trwy’r amser. Roedd angen i mi ail-ddysgu sut i dreulio fy amser a bod yn amyneddgar.
Yr anghyfleustra. Roeddwn i’n synnu faint oedd angen i mi ddefnyddio fy ffĂ´n i wirio’r amser, gosod y larwm neu’r amserydd, defnyddio dilysu aml-ffactor, neu dalu am bethau.
Colli allan. Mae llawer o ddigwyddiadau, megis gigs lleol neu ddigwyddiadau clybiau a chymdeithasau, yn cael eu hysbysebu ar-lein yn unig. Roeddwn iân cael gwybod am lawer o gyfleoedd ar Ă´l iddynt ddigwydd, a hyd yn oed wrth chwilio’n rhagweithiol, roedd y rhan fwyaf o ganlyniadau chwilio yn mynd â mi i wefannau cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn aml yn golygu mewngofnodi i gael mynediad at y cynnwys llawn.
Fy nghyngor i’r rhai sydd â diddordeb mewn gwneud detocs digidol
Nid oes rhaid iddo fod yn berffaith. Hyd yn oed os oes angen i chi ddefnyddio dyfeisiau ar gyfer gwaith / astudio neu os ydych yn baglu o ran eich ymrwymiadau, maeân dal yn bosibl – gallwch chi elwa yn fawr o’r profiad o hyd.
Addasu wrth i chi fynd. Efallai y bydd angen i chi addasu eich disgwyliadau os nad yw pethau’n mynd yn union fel y cynlluniwyd, nid methiant yw hyn. Dathlwch lwyddiannau bach a dod o hyd i’r hyn sy’n teimlo’n dda i’ch helpu i adeiladu arferion cynaliadwy.
Nid yw’n ddedwyddwch llwyr, ond nid ywân ddiflastod llwyr chwaith. Bydd adegau pan fyddwch chi eisiau rhoi’r gorau iddi ac adegau pan na fyddwch chi’n difaru dim. Bydd eich profiad a phopeth rydych chi’n ei ddysgu amdanoch chi’ch hun yn unigryw, ac efallai taw hyn ywâr peth mwyaf gwerthfawr.
Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)
Dydd GĹľyl Dewi Hapus!
Maeân hynod o bwysig bod dewis gan bawb i weithio ar eu cyfrifiadur yn yr iaith y dymunant. Ar Ddydd GĹľyl Dewi, rwyf am rannu rhai o fy hoff awgrymiadau gyda chi ar gyfer gwneud gweithio yn Gymraeg ar eich cyfrifiadur yn llawer mwy hwylus.
Awgrym 1: Newid iaith eich cyfrifiadur iâr Gymraeg
Un oâr pethau cyntaf gallwch wneud yw newid iaith arddangos eich cyfrifiadur. Bydd hyn yn addasu rhyngwyneb eich cyfrifiadur a bydd eiconau fel Gosodiadau (Settings) a Chwilotwr Ffeiliau (File Explorer) yn ymddangos yn Gymraeg.
Awgrym Ychwannegol: A wyddoch chi y gallwch chi hefyd addasu iaith arddangos eich ffĂ´n symudol? Dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol ar gyfer eich ffonau Android neu Apple.
Awgrym 2: Newid iaith meddalwedd penodol i’r Gymraeg
Os nad ydych eisiau newid iaith eich cyfrifiadur, mae hefyd opsiwn i chi newid iaith meddalwedd penodol, a gallwch wneud hyn yn unrhyw raglen Microsoft Office (e.e. Word, Outlook, PowerPoint, ayyb). Mae gennych chiâr opsiwn i newid yr iaith arddangos ac i newid eich iaith awduro a phrawf ddarllen. Dilynwch y cyfarwyddiadau canlynol i ddysgu sut i newid iaith meddalwedd penodol.
Awgrym 3: Defnyddio app to bach
Traân ysgrifennu yn Gymraeg, ydych chi erioed wedi defnyddio botwm symbolau i ddod o hyd i acenion neu do bach ar gyfer llythrennau? Does dim angen i chi wneud hynny mwyach!
Gallwch lawrlwytho meddalwedd to bach ar eich cyfrifiadur gwaith oâr ganolfan feddalwedd neu ar eich cyfrifiadur personol, wedyn daliwch allwedd Alt Gr i lawr a theipioâr llafariad rydych chiân dymuno cael to bach arni:
StrĂ´c Allweddol
Symbol
Alt Gr + a
â
Alt Gr + e
ĂŞ
Alt Gr + o
Ă´
Alt Gr + i
ĂŽ
Alt Gr + y
š
Alt Gr + w
Ĺľ
Alt Gr + u
Ăť
Awgrym 4: Newid iaith prawf ddarllen eich dogfennau
Os nad ydych chi wedi newid iaith awduro a phrawf ddarllen meddalwedd penodol (gweler awgrym 2), yna gallech addasu iaith prawf ddarllen dogfennau unigol er mwyn sicrhau bod gwallau sillafu a gwallau gramadegol syml yn cael eu amlygu.
Gwyliwch y fideo canlynol i ddysgu sut i newid iaith prawf ddarllen eich dogfennau.
Awgrym 5: Gwirio eich testun gyda Cysill
Mae Cysill yn rhan o becyn meddalwedd iaith Cysgliad y gallwch ei lawrlwytho iâch cyfrifiadur. Bydd Cysill yn caniatĂĄu i chi adnabod o chywiro gwallau Cymraeg yn eich testun, ac mae’n cynnwys thesawrws defnyddiol.
Darllenwch TipDigidol 2 lle rydyn niân rhoi cyfarwyddiadau i lawrlwytho a defnyddio fersiwn ap ac ar-lein Cysill.
Awgrym 6: Adnoddau Ieithyddol ychwanegol
Gallwch hefyd ddod o hyd i lu o gronfeydd terminoleg ar-lein. Dyma rhai oâr rhai mwyaf poblogaidd:
TermCymru â cronfa derminoleg syân cael ei chynnal aâi chadw gan Wasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru.
Yn ogystal ââr adnoddau sydd wediâu crybwyll uchod, mae gwybodaeth helaeth ar dudalen we Canolfan Gwasanaethauâr Gymraeg ar adnoddau ieithyddol.
Cymorth Bellach đŹ
Os hoffech chi siarad â aelod oâr TĂŽm Sgiliau Digidol am ddefnyddio eich cyfrifiadur yn Gymraeg, ac am unrhyw gymorth gydag unrhyw un oâr awgrymiadau uchod, mae croeso mawr i chi gysylltu â ni drwy e-bost (digi@aber.ac.uk), neu alw heibio iân sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol wythnosol yn Llyfrgell Hugh Owen.
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
âââââ
Rating: 4.5 out of 5.
Prif fanteision: Am ddim. Gallwch addasu gosodiadau ar gyfer gwahanol apiau. Mae’n ysbrydoledig.
Prif anfanteision: Mae’n cymryd ychydig o amser iâw osod i fyny.
Beth yw ScreenZen?
Mae ScreenZen yn ap hyblyg sy’n grymuso defnyddwyr i osod ffiniau gyda’u dyfeisiau. Yn wahanol i atalyddion apiau traddodiadol sy’n cyfyngu mynediad yn gyfan gwbl, mae ScreenZen yn cyflwyno dull newydd trwy gynyddu’r rhwystr i fynediad. Trwy roi amser a lle meddyliol i ddefnyddwyr wneud penderfyniadau ymwybodol am eu defnydd digidol, mae ScreenZen yn naturiol yn meithrin ymwybyddiaeth ofalgar wrth ryngweithio â thechnoleg ac, felly, gwell lles digidol.
Mae’r ap yn gwbl rad ac am ddim ac ar gael ar gyfer defnyddwyr Apple ac Android.
Beth yw prif nodweddion ScreenZen?
Yr hyn sy’n gosod ScreenZen ar wahân yw ei addasrwydd rhyfeddol, a’i brif nodweddion yw:
CaniatĂĄu i chi ddewis amser aros penodol cyn i chi agor pob ap.
Torri ar eich traws wrth i chi ddefnyddio apiau dethol ar Ă´l amser penodol (gallwch osod amseroedd gwahanol ar gyfer eich apiau amrywiol).
Eich torri i ffwrdd pan fyddwch wedi cyrraedd eich terfyn amser dyddiol neu derfyn codi (h.y. sawl gwaith yr ydych chiân agor ap bob dydd) a hyd yn oed eich atal rhag newid y gosodiadau i fynd o gwmpas hyn.
Arddangos neges ysgogol neu eich atgoffa am weithgareddau mwy gwerthfawr i chi.
Cyflwyno mwy o ymwybyddiaeth ofalgar i’ch arferion digidol trwy eich annog i wneud gweithgareddau anadlu wrth aros i’r ap ddatgloi, sydd hefyd yn eich annog i ailwerthuso’ch angen i ddefnyddio’r ap rydych chi’n ceisio ei agor.
Iâr rhai syân llawn cymhelliant, cyrchu pyliau ac ystadegau eraill i olrhain eich cynnydd a’ch annog i aros ar y trywydd iawn, ond dim ond ar gyfer yr apiau rydych chi’n eu dewis, fel y gallwch chi ddarllen e-lyfrau o hyd neu ddefnyddio’ch hoff ap myfyrdod heb boeni am golli’ch pwl!
Fy meddyliau terfynol ar ScreenZen
A fyddaf yn parhau i ddefnyddio ScreenZen? Yn bendant!
Fy hoff beth am yr ap hwn yw ei fod yn ei gwneud hi’n haws alinio fy newisiadau digidol â fy ngwerthoedd a’m harferion a gall fod yn ddefnyddiol i unrhyw un. P’un a yw’n well gennych derfynau llym neu ddim ond eisiau meithrin ymwybyddiaeth o’ch arferion digidol, mae ScreenZen yn darparu’r dewisiadau amrywiol hyn. Mae’r nodweddion addasu yn golygu ei bod yn cymryd amser i’w osod, ond ar Ă´l ei osod, gwelais fod yr ap hwn yn ychwanegiad gwerthfawr at gefnogi fy lles digidol.
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae cyfarfodydd ar-lein wedi dod yn rhan annatod o fywyd academaidd a phroffesiynol. P’un a ydych yn mynychu darlith rithiol, yn cydweithio ar brosiect grĹľp, neuân mynychu cyfweliad am swydd, mae gwybod sut i lywio cyfarfodydd ar-lein yn effeithiol yn hanfodol i lwyddo.
Yn y blogbost hwn rwyf am rannu rhai awgrymiadau i’ch helpu i lywio cyfarfodydd ar-lein, a gallwch chi hefyd edrych ar y dudalen hon i gael cwestiynau Cyffredin a chanllawiau hyfforddi ar ddefnyddio MS Teams.
1) Paratowch fel y byddech chiân paratoi ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb
Mae cyfarfodydd ar-lein yn darparu’r cyfleustra o beidio â gorfod gadael eich cartref. Daw hyn gyda’r demtasiwn o neidio allan oâr gwely 5 munud cyn dechrau’r cyfarfod. Er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi’r cyfle gorau iâch hun lwyddo:
Gwisgwch fel y byddech chiân gwisgo ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb
Rhowch ychydig o amser i’ch hun i baratoiân feddyliol i osgoi teimlo eich bod yn rhuthro.
Manteisiwch ar y cyfle i fynd dros eich nodiadau, paratoi unrhyw gwestiynau neu gasglu unrhyw ffeiliau y mae angen i chi eu rhannu.
2) Cysylltwch yn gynnar
Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatrys unrhyw broblemau technegol. Profwch eich meddalwedd, rhag ofn y bydd angen ei diweddaru, syân golygu y byddai angen i chi ailgychwyn yr ap neuâr ddyfais.
Gallwch ddefnyddio’r amser ychwanegol hwn i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r holl nodweddion sydd ar gael yn MS Teams, megis y blwch sgwrsio, codi-eich-llaw, rhannu sgrin a nodweddion capsiynau byw.
3) Curadwch eich deunydd gweledol
Dyma’r prif awgrymiadau ar gyfer gwneud argraff gadarnhaol, broffesiynol:
Dewiswch liniadur dros ffĂ´n neu lechen os ywân bosibl. Gall hyn helpu gyda sefydlogrwydd delwedd, yn ogystal â chaniatĂĄu i chi gymryd nodiadau yn haws. Os na allwch gael gafael ar liniadur, ystyriwch ddefnyddio stand ar gyfer eich dyfais.
Gosodwch eich camera ar lefel y llygad, gan y bydd hyn yn arwain at y ddelwedd fwyaf naturiol.
Edrychwch ar y camera yn hytrach na’r sgrin wrth siarad, yn enwedig mewn cyfarfodydd grĹľp. Dymaâr peth agosaf i gyswllt llygaid ag y gallwch ei gael.
Gwnewch yn siĹľr bod gennych oleuadau da.
Dewiswch y cefndir iawn. Dilynwch y Cwestiwn Cyffredin hwn i gael cyfarwyddiadau ar sut i ychwanegu cefndir rhithiol.
4) Optimeiddiwch eich sain
Dewiswch ystafell â charped a dodrefn, os ywân bosibl. Bydd hyn yn arwain at sain gynhesach, mwy naturiol heb effaith adlais.
Os ywân bosibl, defnyddiwch glustffonau yn lle’r meicroffon adeiledig i helpu i wella ansawdd eich sain.
Diffoddwch eich meicroffon pan nad ydych chi’n siarad i atal unrhyw sĹľn diangen.
5) Lleihewch ymyriadau
Dewiswch fannau preifat, tawel dros fannau cymunedol neu gyhoeddus.
Diffoddwch unrhyw negeseuon hysbysu a rhowch wybod i eraill nad ydych eisiau cael eich tarfu os oes angen.
Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi adael y cyfarfod (e.e. os bydd rhywun yn canu cloch y drws), os felly gadewch i’r bobl yn y cyfarfod wybod trwy adael neges fer yn y blwch sgwrsio.
6) Meddyliwch am beth yr ydych yn ei rannu
Os oes angen i chi rannu’ch sgrin yn ystod y cyfarfod, mae bob amser yn well rhannu ffenestr benodol yn hytrach na’ch sgrin gyfan, ond efallai y bydd adegau pan na ellir osgoi hyn. Yn yr achos hwn:
Caewch unrhyw dabiau amherthnasol.
Mudwch neu gaewch raglenni i osgoi hysbysiadau neu naidlenni eraill. Neu, trowch y modd âpeidio â tharfuâ ymlaen.
Symudwch, ailenwch, neu ddilĂŤwch unrhyw lyfrnodau neu ffeiliau sensitif
Ystyriwch ddileu eich cwcis a’ch hanes chwilio os yw’ch porwr yn dangos chwiliadau blaenorol neu’n defnyddio awto-lenwi.
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Mae bod yn gyfrifol am eich hunaniaeth ddigidol bellach yn bwysicach nag erioed. Diogelwch eich preifatrwydd, cryfhewch eich diogelwch, a datglowch gyfleoedd proffesiynol posibl gyda’r canllaw byr isod.
1. Adolygu eich Gosodiadau Preifatrwydd
Manteisiwch ar offer sy’n eich galluogi i arddangos eich cynnwys fel ag y maeân weladwy i’ch cynulleidfa, addasu gosodiadau preifatrwydd ar gyfer negeseuon unigol neu addasu pa wybodaeth y gellir ei defnyddio i chwilio’ch proffil. Gallwch ddarllen yr erthygl honi gael mwy o wybodaeth am y gosodiadau preifatrwydd sydd ar gael ar y gwefannau cyfryngau cymdeithasol mwyaf poblogaidd.
2. Rhannu’n Feddylgar
Peidiwch â dibynnu ar breifatrwydd yn unig. Meddyliwch cyn postio, gan ystyried yr effaith bosibl ar eich enw da a’ch diogelwch. Byddwch yn ofalus o gynnwys y gellid ei gamddehongli neu ei ddarllen allan o’i gyd-destun, a pheidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol sensitif yn ddiangen.
3. Monitro’ch Ăl Troed Digidol
Chwiliwch am eich enw ar-lein yn rheolaidd i asesu’r wybodaeth sydd ar gael. Ystyriwch osod rhybuddion ar gyfer cyfeiriadau neu gynnwys newydd sy’n gysylltiedig â’ch enw.
4. Curadu Eich Cynnwys
Aliniwch gynnwys a rennir â’r ddelwedd ddigidol yr hoffech. DilĂŤwch neu ddiweddarwch wybodaeth syân hen neuân amherthnasol
5. Adeiladu Presenoldeb Ar-lein Proffesiynol
Arddangoswch sgiliau a chyflawniadau ar lwyfannau proffesiynol, gan gynnal tĂ´n a delwedd broffesiynol wrth gyfathrebu. Er enghraifft, gallwch ychwanegu tystysgrif ddigidol ar gyfer cyrsiau LinkedIn Learning rydych chi wedi’u cwblhau ar eich proffil LinkedIn personol. Ar gyfer llwyfannau amlbwrpas, ystyriwch greu proffiliau ar wahân at ddefnydd personol a phroffesiynol. Os oes gennych ddiddordeb mewn adeiladu proffil LinkedIn, mae recordiad o sesiwn LinkedIn y Gwasanaethau Gyrfaoedd ar gael yma.
I gael rhagor o wybodaeth am reoli eich hunaniaeth ddigidol, gallwch wylio Sesiwn y Gwasanaethau Gyrfaoedd ar y pwnc hwn o’r Ĺ´yl Sgiliau Digidol.
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Gyda datblygiad ffonau a thechnoleg mae ap ar gyfer popeth erbyn hyn – gan gynnwys darllen! Fel darllenydd brwd rwy’n hoffi herio fy hun gydag amcanion blynyddol, trafod llyfrau gyda chyd-ddarllenwyr a chyflawni ystadegau darllen. Gyda fy nhri hoff ap darllen – mae hyn i gyd yn bosibl!
Goodreads
Mae Goodreads yn wych ar gyfer tracio eich deunydd darllen cyfredol a chadw ar y trywydd iawn ar gyfer eich amcanion darllen.
Gosodwch her ddarllen flynyddol i chi’ch hun a bydd Goodreads yn dweud wrthych a ydych chi ar y trywydd iawn.
Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd.
Cewch fathodyn os byddwch yn cyrraedd eich nod.
Gallwch weld llyfrau yr ydych wedi’u darllen yn y blynyddoedd diwethaf.
Gallwch greu silffoedd darllen ar gyfer eich anghenion megis “eisiau darllen”.
Sganiwch gloriau llyfrau yn hytrach na chwilio amdanynt.
Darganfyddwch lyfrau newydd yn seiliedig ar eich darlleniadau diweddar, cyhoeddiadau newydd a llyfrau syân trendio.
Ydych chi erioed wedi copĂŻo a gludo cynnwys o weddalen neu ddogfen arall i ddogfen Word newydd a chanfod bod hyn yn gwneud smonach oâch fformatio? Yn ffodus, mae dewisiadau ychwanegol ar wahân iâr opsiwn gludo sylfaenol (ctrl+v) a all helpu i ddatrys hyn!
Dechreuwch drwy ddewis lleâr hoffech ludo eich cynnwys a chliciwch fotwm deâr llygoden. Yna fe gewch nifer o opsiynau gludo gwahanol (bydd yr opsiynau sydd ar gael yn seiliedig ar y math o gynnwys yr ydych wediâi gopĂŻo).
Dyma grynodeb oâr 4 dewis gludo mwyaf cyffredin:
Cadwâr Fformatio
Bydd hyn yn cadw fformatioâr testun yr ydych wediâi gopĂŻo (boed hynny o weddalen, dogfen arall, neu ffynhonnell arall).
Cyfuno Fformatio
Bydd yr opsiwn hwn yn newid fformatioâr testun fel ei fod yn cyd-fynd â fformatioâr testun oâi amgylch.
Defnyddio Arddull y Gyrchfan
Maeâr opsiwn hwn yn fformatioâr testun a gopĂŻwyd fel ei fod yn cyd-fynd â fformat y testun lleâr ydych chiân gludo eich testun.
Cadwâr Testun yn Unig
Maeâr opsiwn hwn yn hepgor unrhyw fformatio presennol AC unrhyw elfennau nad ydynt yn destun yr ydych wediâu copĂŻo (e.e. delweddau neu dablau).
 I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch iân Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!Â
Mae emojis wedi dod yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym yn cyfathrebu, a gallant fod yn wych ar gyfer mynegi ein hemosiynau gydag un nod yn unig! đĽ°đ¤Łđđ¤Żđ´
Bydd y rhan fwyaf ohonom yn fwy cyfarwydd â defnyddio emojis ar ein ffonau symudol đą, ond bydd adegau pan fyddwn eisiau cynnwys emojis wrth ddefnyddio ein gliniaduron neu gyfrifiaduron. Yn hytrach na chwilio ar y we am yr emoji sydd ei angen arnoch, beth am ei gyrchu’n uniongyrchol o’ch bysellfwrdd!
Ar Windows a Mac, gallwch gyrchu’ch bysellfwrdd emoji mewn eiliadau trwy ddewis:
Windows â Bysell Windows + “.” (botwm atalnod llawn)
Mac â Bysell Command + Control + bar gofod
Gwyliwch y fideo isod i weld sut maeâr llwybr byr hwn yn gweithio ar ddyfais Windows.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch iân Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Maeâr rhan fwyaf ohonon niân defnyddio dyfeisiau digidol bob dydd, ac yn debyg i fannau ffisegol, yn aml maen nhwân gallu mynd yn anniben, syân effeithio ar ein llesiant aân cynhyrchedd. Yn y blog hwn, rwyf iân rhannuâr strategaethau mwyaf effeithiol ar gyfer adennill fy mannau digidol.
Paratoi eich Taith i Ddileu Annibendod
Ceisiwch edrych ar eich annibendod gyda chwilfrydedd yn hytrach na beirniadu. Bydd hyn yn eich helpu i gadwân gadarnhaol a deall eich arferion digidol yn well. Dychmygwch yr effaith cadarnhaol y bydd dileu annibendod yn ei gael ar eich llesiant.
Disgwyliwch iâr broses gymryd amser. Gall sortio drwy gynnwys digidol sydd wedi cronni dros flynyddoedd fod yn frawychus, ond mae mesur maint yr her a neilltuo digon o amser a lle yn gallu ei wneud yn rhwyddach.
Dechreuwch gyda chamau cyflym fydd yn cael effaith enfawr gydag ymdrech bitw. Bydd hyn yn adeiladu momentwm ac yn golygu y cewch eich grymuso i ymdrin ââr tasgau anoddach.
Ystyriwch unrhyw deithiau hirach sydd ar y gweill fel cyfleoedd i wneud cynnydd ar eich antur dileu annibendod.
Gall penderfynu beth iâw gadw a beth iâw ddileu fod yn heriol. Holwch eich hun beth fyddaiân digwydd pe bai popeth yn diflannu.
Camau Cyflym: Gweithredoedd Bach Syân Gallu Gwneud Gwahaniaeth Mawr
Mae pob un oâr tasgau 5-10 munud hyn yn fuddiol ar ei phen ei hun, ond wrth i chi weithio drwyâr rhestr, bydd eu heffaith yn cynyddu.
Glanhau eich bwrdd gwaith: DilĂŤwch ffeiliau diangen a dewch o hyd i le iâr gweddill er mwyn cyrraedd gwynfyd y ddesg rithwir wag.
Dileu annibendod eich apiau: Efallai y byddwch yn synnu wrth weld y nifer o apiau ar eich ffĂ´n neu fwrdd gwaith nad ydych chiân sylwi arnyn nhw mwyach. Dadosodwch unrhyw apiau nad ydych chiân eu defnyddio i wneud mwy o le a chael gwared ar bethau syân tynnu sylw.
Addasu eich sgrin gartref: Gosodwch yr apiau rydych chiân dymuno eu defnyddioân amlach mewn lle hygyrch a chuddiwch y rhai syân tynnu sylw mewn ffolderi. Ystyriwch ychwanegu llwybrau byr at restrau fel rhestr siopa, syniadau am anrhegion neu syniadau busnes, syân osgoi ychwanegu at yr annibendod gyda phob syniad athrylithgar newydd.
Addasu eich bar tasgau aâch bar mynediad cyflym: DilĂŤwch neu dad-biniwch nodweddion sydd ddim yn ddefnyddiol i weithredu eich systemau
Glanhau eich ffolder lawrlwythiadau: DilĂŤwch ffeiliau diangen a chopĂŻau dyblyg i ryddhau lle.
Dileu annibendod yn eich porwr: DilĂŤwch unrhyw estyniadau a llyfrnodau sydd ddim yn cael eu defnyddio i symleiddio eich profiad pori a phiniwch y pethau yr hoffech chi eu defnyddioân amlach. Ystyriwch lanhau eich cwcis aâch cache i ddiogelu eich preifatrwydd, ond cofiwch y gallech gael eich allgofnodi neu y caiff eich hoffterau eu dileu ar rai safleoedd.
Glanhau eich sgrinluniau: Maeâr ffolder sgrinluniauân aml yn cynnwys ffeiliau un-defnydd.