Grym Lles Digidol: Cyflwyno ein Cyfres Lles Digidol 

Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Un o ganolbwyntiau’r Pencampwyr Digidol Myfyrwyr eleni yw ystyried y strategaethau a’r rhaglenni yr ydyn ni wedi’u defnyddio i gynyddu ein lles digidol. Bydd y gyfres hon yn pwyso a mesur beth yw lles digidol a bydd yn cynnwys postiadau a ffeithluniau sy’n trafod lleihau straen llygaid, dadwenwyno digidol, amgylchedd gwaith a llawer mwy! 

Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu drwy gydol y flwyddyn gyda sawl neges dymhorol, gan gynnwys heriau ar gyfer y Nadolig a’r Pasg. Gallwch hefyd ddefnyddio’r casgliadau LinkedIn Learning rydyn ni wedi’u curadu os hoffech wybod mwy rhwng postiadau, a gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf gyda’r holl negeseuon newydd o fewn y gyfres hon drwy’r dudalen hon ar ein blog Sgiliau Digidol. 

I gyd-fynd â’r blogbost rhagarweiniol hwn, rydym wedi creu Canllaw i fyfyrwyr ar drechu straen llygaid cyfrifiadurol! (fersiwn testun gyda dolenni isod)

Fersiwn testun:

Canllaw i Fyfyrwyr ar drechu Straen Llygaid CyfrifiadurolGan y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr

Dyma rai awgrymiadau rydw i wedi’u defnyddio i helpu i wneud defnyddio cyfrifiaduron yn brofiad mwy pleserus trwy gydol fy ngradd. Mae mwy o wybodaeth ar y Blog Sgiliau Digidol.

Rheol 20-20-20

  • Bob 20 munud
  • Cymerwch egwyl o 20 eiliad
  • Canolbwyntiwch ar wrthrych 20 troedfedd i ffwrdd
  • Amrantwch lawer yn ystod yr egwyl hon

Lleihau Golau Glas

  • Defnyddiwch feddalwedd i leihau golau glas
  • Defnyddiwch sbectol hidlo golau glas

Galluogi Modd Tywyll

  • Galluogwch y modd tywyll yn y gosodiadau system ar MacOS a Windows
  • Newidiwch raglenni Office 365 i’r modd tywyll
  • Defnyddiwch osodiadau ac ategion i newid rhaglenni eraill i’r modd tywyll

digi@aber.ac.uk

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*