TipDigidol 90 – Rhoi hwb i’ch CV gyda Code First Girls 💻

Ydych chi’n ystyried gyrfa ym maes technoleg? Mae Code First Girls yn cynnig cyrsiau ar-lein rhad ac am ddim mewn codio ar gyfer menywod a phobl anneuaidd, beth bynnag fo’ch pwnc.

Ystyriwch symud i dechnoleg o ddisgyblaeth arall neu ategu eich astudiaethau cyfrifiadurol gyda sgiliau i’w harddangos ar eich CV ac mewn cyfweliadau.

Dechreuwch gyda sesiwn Rhagflas o Dechnoleg, neu ystyriwch gyrsiau i ddechreuwyr a hyfforddiant mwy dwys.

Mae’r gymuned Code First Girls hefyd yn cynnig cyfleoedd i gysylltu â chyd-ddysgwyr, dod o hyd i fentoriaid ac ystyried llwybrau diwydiant.

Barod i ddechrau arni? Edrychwch ar y cyrsiau am ddim!

Tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol i gael awgrymiadau digidol eraill.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*