Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Wythnos 3 (Stephanie Mogridge)

Wythnos 3 yw ein cyfweliad â Stephanie sy’n gweithio i Fanc TSB yn yr adran Gwasanaethu Morgeisi. Er ei bod yn teimlo ei bod wedi cael gafael eithaf da ar lythrennedd data yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, hoffai petai wedi dysgu mwy am ei lles a hunaniaeth ddigidol.

Os hoffech ddysgu mwy am eich hunaniaeth a’ch lles ddigidol eich hun, beth am ymuno â dwy o’n sesiynau fel rhan o’r Ŵyl Sgiliau Digidol (6-10 Tachwedd ’23), Improving your digital footprint and your online shadow a Exploring your digital wellbeing.

*Cliciwch yma i ddarllen yr holl blogbyst eraill yn ein Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA*

Fersiwn testun:

 Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? – 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Seicoleg a Throseddeg

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? “Rwy’n gweithio mewn Gwasanaethau Morgais ar gyfer TSB Banking felly yn cymryd taliadau ac yn ateb ymholiadau cwsmeriaid.”

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich swydd? –

Cyfathrebu a Chydweithio – “Rydyn ni’n defnyddio Teams gryn dipyn o ddydd i ddydd, er enghraifft mae gennyn ni hwb rydyn ni i gyd yn ei ddefnyddio i gyfathrebu â’n gilydd os oes ymholiad gan gwsmeriaid nad ydyn ni’n gwybod yr ateb iddo a gallwn ni weld oes unrhyw un arall wedi profi’r mater a bod ateb ganddyn nhw. Rydyn ni hefyd yn defnyddio hen ddigon ar yr ebost i gyfathrebu â chwsmeriaid a chydweithio gyda’r tîm taliadau i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n gywir.”

Dysgu digidol – “Bob tri neu bedwar mis rydyn ni’n cael hyfforddiant ar-lein trwy hwb y cwmni fel y gallwn ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ein sgiliau digidol a dod o hyd i wybodaeth a’i defnyddio. Felly ar hyn o bryd mae gennyn ni un i sicrhau ein bod ni’n defnyddio’r systemau Microsoft yn gywir.”

Llythrennedd gwybodaeth a data – “Mae gennyn ni lot o daenlenni Excel gyda data cwsmeriaid i weithio gyda nhw i sicrhau eu bod nhw’n cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac i baru data a gwybodaeth gyda’r adran daliadau.”

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Mae’n debyg mai dim ond gwella hyfedredd technegol yn gyffredinol achos bod bywyd yn eitha ar-lein erbyn hyn. Hefyd mynd dros hunaniaeth a lles digidol oherwydd rwy’n credu ein bod ni wir wedi ymdrin ag ochr y data ac ochr dechnegol pethau, ond nid sut i ddefnyddio’ch proffil ar-lein i’ch helpu i gael swydd a sut i bortreadu’ch hun.

Ble wnaethoch chi ddysgu’r sgiliau digidol hyn?

“Cafodd llawer o feddalwedd sylfaenol Microsoft ei gyflwyno yn y brifysgol ac roeddwn i hefyd yn gweithio pethau allan ar fy mhen fy hun a gyda fy ffrindiau ac yna dysgodd fy nghyflogwr lawer o’r stwff sy’n benodol i’r swydd drwy ddefnyddio eu hyfforddiant ar-lein.”

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*