Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Wythnos 4 (Myfyriwr Ffiseg Raddedig)

Ein proffil olaf ar gyfer y semester hwn yw myfyriwr Ffiseg raddedig sydd wedi cael gyrfa gyffrous ers gadael Prifysgol Aberystwyth yn 2002 ac sydd bellach yn dysgu rhaglennu cyfrifiadurol ac yn gobeithio dod o hyd i yrfa newydd yn y maes hwnnw.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae gennym lawer o adnoddau i’ch helpu i ddysgu pethau newydd fel rhaglennu cyfrifiadurol, er enghaifft yr heriau CoderPad yn LinkedIn Learning. Yn ogystal â hyn, wythnos nesaf byddwn yn cyhoeddi blog dilynol a fydd yn rhoi manylion yr holl adnoddau sydd ar gael i chi i wella’ch sgiliau digidol felly cadwch lygad am hynny! 

*Cliciwch yma i ddarllen yr holl blogbyst eraill yn ein Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA*

Fersiwn testun:

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Ffiseg

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? Dwi wedi dysgu Saesneg yn Japan ac wedi gwneud PhD mewn Ffiseg ym Mhrifysgol Leeds. Ar hyn o bryd dwi’n dysgu rhaglennu cyfrifiadur i fy hunan a dwi’n gobeithio dod o hyd i yrfa yn hynny.

Pa sgiliau digidol ydych chi wedi’u defnyddio yn y gwaith? –

Creu’n ddigidol – “pan oeddwn i’n dysgu Saesneg byddwn i’n creu a dylunio deunydd gwersi drwy ddefnyddio pethau fel MS PowerPoint.”

Dysgu digidol – “Yn ystod fy PhD dysges i lawer iawn o sgiliau digidol newydd a defnyddio llawer o raglenni a meddalwedd newydd, yn enwedig wrth ddadansoddi a thrin data”.

Hyfedredd digidol – “yn fy ngwaith addysgu ac yn fy PhD roeddwn i’n dibynnu ar offer a meddalwedd digidol i gyflawni tasgau o ddydd i ddydd felly mae gen i hyfedredd digidol da. Pan ddechreues i fy ngradd israddedig yn Aberystwyth dyna’r tro cyntaf imi anfon neges ebost erioed felly dwi wedi dysgu lot ers hynny.”

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Dwi wastad wedi bod â diddordeb mewn cyfrifiadura ac felly dwi’n teimlo’n eithaf medrus yn enwedig ar ôl gwneud Safon Uwch mewn cyfrifiadureg. Fe godes i’r rhan fwyaf o sgiliau digidol cyn graddio ond efallai byddai’r gallu i ddysgu sgiliau rhaglennu cyfrifiadur ar sail y llwyfannau oedd ar gael ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi ei gwneud hi’n haws dod o hyd i swydd yn y maes nawr.”

Ydych chi wedi sylwi ar unrhyw wendidau cyffredin yn sgiliau digidol y rhai mewn maes tebyg â chi?

“Ddim mewn gwirionedd gan fod y rhan fwyaf o raddedigion ffiseg yn ymddangos yn eithaf da gyda thechnoleg ond dwi’n gweld patrwm o ran y berthynas rhwng pa mor dueddol yw pobl tuag at dechnoleg gyfrifiadura ac os nad oes gan bobl ddiddordeb ynddo y cyfan maen nhw’n ei wneud yw codi’r peth lleia sydd ei angen arnyn nhw.”

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*