Wrth i ni agosáu at ddechrau cyfnod yr arholiadau, rydym wedi rhestri amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i wneud y gorau o dechnoleg wrth i chi baratoi ac adolygu ar gyfer eich arholiadau.
Gall tymor yr arholiadau fod yn gyfnod heriol i fyfyrwyr. Mae’r casgliad hwn yn cynnig rhai strategaethau a chyngor er mwyn ichi allu rheoli eich straen adeg yr arholiadau
Blogbost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Mae’r rhyngrwyd yn lle gwych i gysylltu â ffrindiau, gweithio ar brosiectau, a gwneud arian hyd yn oed. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd i geisio cymryd eich arian CHI! Yn anffodus, mae dulliau twyllo’n dod yn fwyfwy datblygedig ond peidiwch â phoeni, rydw i yma i helpu! Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar e-byst twyll, beth ydyn nhw, sut i’w hadnabod a beth i’w wneud pan fyddwch chi’n eu derbyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen tudalen Prifysgol Aberystwyth ar e-byst sbam cyn darllen y blogbost hwn.
Beth yw e-bost gwe-rwydo?
E-bost sydd wedi ei gynllunio i geisio cael eich data personol sensitif yw e-bost gwe-rwydo. Gallai’r data fod ar ffurf eich cyfeiriad, gwybodaeth cerdyn credyd, neu eich manylion banc hyd yn oed! Mae e-byst gwe-rwydo fel arfer yn cael eu gwneud i edrych fel e-byst busnes cyfreithlon fel yr enghraifft isod.
Delwedd o Wikimedia Commons
Mae’n hawdd gweld sut y gallai rhywun gael ei dwyllo gan e-bost gwe-rwydo fel hwn. Yn gyntaf, mae’r e-bost yn rhoi gwybod i’r sawl y mae’n ei dargedu y gallai ei gyfrif banc fod wedi’i beryglu, sy’n annog y darllenwr i weithredu ar frys. Yn ail, does dim byd yn amheus am y cyswllt ar yr olwg gyntaf. Felly sut y gallwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng e-bost busnes cyfreithlon ac e-bost gwe-rwydo?
Mae LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein y mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim iddo, wedi rhyddhau tair nodwedd newydd a chyffrous yn ddiweddar. Edrychwch ar y wybodaeth a’r canllawiau isod i ddysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar y nodweddion newydd hyn.
Nodwedd newydd 1: Canllawiau Rôl
Yn ddiweddar mae LinkedIn Learning wedi rhyddhau Canllawiau Rôl. Bydd y rhain yn eich galluogi i archwilio a dod o hyd i gynnwys sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa. Er enghraifft, os ydych yn dyheu i fod yn Wyddonydd Data, gallwch ddilyn y canllaw rôl Gwyddonydd Data i ddod o hyd i gyrsiau, llwybrau dysgu, mewnwelediadau sgiliau, a gofodau grŵp cymunedol sy’n gysylltiedig â’r rôl benodol hon.
Edrychwch ar y fideo isod (dim sain) i ddysgu sut i gael mynediad i’r Canllawiau Rôl, a gallwch hefyd gael gwybod mwy amdanynt trwy’r ddolen hon Canllawiau rôl LinkedIn Learning.
Nodwedd newydd 2: GitHub Codespaces
Mae LinkedIn Learning hefyd wedi rhyddhau GitHub Codespaces, sy’n caniatáu i chi ymarfer meistroli’r ieithoedd rhaglennu cyfrifiadurol gorau a phynciau cysylltiedig eraill megis Deallusrwydd Artiffisial (AI).
Mae LinkedIn Learning wedi datblygu dros 50 o gyrsiau sy’n cynnwys ymarfer ymarferol trwy integreiddio â GitHub Codespaces, sy’n amgylchedd datblygu yn y cwmwl. Gallwch gael mynediad at bob un o’r 50+ o gyrsiau yma, neu dechreuwch drwy edrych ar y dewis o gyrsiau isod:
Nodwedd newydd 3: Gosod Nodau Gyrfa
Gallwch bersonoli’r cynnwys y mae LinkedIn Learning yn ei argymell i chi hyd yn oed ymhellach drwy osod Nodau Gyrfa i chi’ch hun. Y ddwy brif fantais o osod nodau gyrfa yw:
Eich cysylltu â chyfleoedd datblygu gyrfa yn seiliedig ar y nodau yr ydych wedi’u gosod i chi’ch hun
Eich helpu i feithrin amrywiaeth o sgiliau a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau
Gallwch osod eich Nodau Gyrfa trwy glicio ar Fy Nysgu Ac yna Fy Nodau, ac edrych ar y Canllaw defnyddiol hwn i’ch helpu chi i fanteisio i’r eithaf ar y nodwedd newydd hon.
Am unrhyw gymorth neu ymholiadau am y nodweddion newydd hyn, neu ar gyfer unrhyw gwestiynau cyffredinol am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).
Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau digidol ymhellach? Ydych chi’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyrsiau a fideos o LinkedIn Learning sy’n gysylltiedig â’r sgiliau penodol hynny rydych chi am eu datblygu? Os felly, efallai mai ein casgliadau sgiliau digidol newydd yw’r hyn sydd ei angen arnoch!
Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim i LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein. Darllenwch ein postiad blog blaenorol i ddarganfod mwy am y llwyfan.
Rydym wedi datblygu 30 o gasgliadau newydd (15 i fyfyrwyr a 15 i staff) i’ch cefnogi i ddod o hyd i’r cynnwys mwyaf priodol o LinkedIn Learning er mwyn i chi allu datblygu amrywiaeth o sgiliau digidol. Mae pob casgliad yn cynnwys 9 adnodd a gall y rhain amrywio o fideos byr 3 munud i gyrsiau mwy manwl.
Dyma enghraifft o 6 adnodd y byddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw, ac o ba gasgliad y maent yn dod ohono:
Os ydych am ddod o hyd i adnoddau ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol, edrychwch ar ein Llyfrgell Sgiliau Digidol myfyrwyra lansiwyd gennym yr wythnos diwethaf (bydd y llyfrgell staff ar gael ym mis Mehefin 2023).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y casgliadau LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).
Fe gyhoeddon ni bostiad blog yn gynharach yr wythnos hon yn eich cyflwyno i’n Llyfrgell Sgiliau Digidol newydd. Mae’r Llyfrgell Sgiliau Digidol yn cynnwys chwe chasgliad o adnoddau PA ac allanol i gefnogi myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a presennol.
Rydym wedi bod yn lansio’r casgliadau hyn ar sianeli cyfryngau cymdeithasol GG drwy gydol yr wythnos hon, ond gallwch hefyd edrych ar y delweddau isod i ddarganfod yr ystod o sgiliau digidol y gallech chi eu dysgu ym mhob un o’r chwe chasgliad.
Bydd y Llyfrgell Sgiliau Digidol ar gyfer staff yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau yn defnyddio’r Llyfrgell Sgiliau Digidol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).
Rydym wedi bod yn gweithio ar ddod â chasgliad o adnoddau PA ac allanol at ei gilydd i helpu myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a presennol. Mae’r adnoddau hyn yn cynnwys eich addysgu am eich ôl troed digidol; a’ch helpu i wella’ch lles a’ch hunaniaeth ddigidol trwy ddarparu adnoddau i helpu gyda straen arholiadau a gwybodaeth am ‘gwe-gwrteisi’ (ymddygiad ar-lein).
Ond yn ogystal â hyn, mae gan ein Llyfrgell Sgiliau Digidol adnoddau i helpu gyda’ch addysg a’ch datblygiad digidol. Mae gennym ni adnoddau ar gyfer defnyddio meddalwedd penodol, er enghraifft sut i godio gyda Python, yn ogystal â defnyddio meddalwedd dylunio graffeg a golygu delweddau fel Adobe Photoshop a Canva.
Rydym hefyd wedi cadw mewn cof y gallech chi fod eisiau gwella rhai o’ch sgiliau digidol presennol ac felly rydym wedi cynnwys adnoddau i’ch helpu i ddysgu syniadau a thriciau newydd mewn meddalwedd cyfarwydd fel Microsoft Excel, PowerPoint, Teams, a llawer mwy!
Bydd y Llyfrgell Sgiliau Digidol ar gyfer staff yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau yn defnyddio’r Llyfrgell Sgiliau Digidol, e-bostiwch digi@aber.ac.uk.
Rydym yn falch iawn o gael ein croesawu yn ôl gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (UDDA) i arwain ail sesiwn ar sgiliau digidol fel rhan o’u rhaglen Fforwm yr Academi y flwyddyn academaidd hon.
Mae Fforwm yr Academi yn rhoi llwyfan i staff a myfyrwyr rannu arferion da wrth ddysgu ac addysgu. Am gyhoeddiadau a mwy o wybodaeth am sesiynau sydd ar y gweill, gallwch ddilyn Blog Fforwm Academi’r UDDA.
Fe gyflwynom ni’r sesiwn gyntaf ar 7 Rhagfyr, a gallwch ddarllen crynodeb o’n trafodaeth. Yn ystod ein ail sesiwn, a fyddwn yn cynnal ar-lein ar Ddydd Mercher 19 Ebrill (10:00-11:30), byddwn yn adeiladu ar ein trafodaeth o’r sesiwn gyntaf ac yn archwilio ymhellach sut y gallwn gefnogi ein myfyrwyr i wneud y mwyaf o dechnoleg.
Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff. Ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).
Ar Ddydd Mawrth 28.03.23 (12:00-14:00), bydd yr adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn cynnal seminar wyneb yn wyneb i helpu ymchwilwyr i benderfynu a yw eu syniad am ap yn ymarferol a sut i fynd ati i wneud iddo ddigwydd.
Bydd y seminar yn cael ei arwain gan yr Athro Chris Price o’r Adran Gyfrifiadureg.
Helo bawb, fy enw i yw Shân Saunders, a fi yw’r cydlynydd datblygu sgiliau a galluoedd digidol newydd. Cwblheais fy ngradd israddedig ac MPhil yn Aberystwyth ac ers graddio yn 2022 rwyf wedi bod eisiau gweithio ym maes barn a boddhad myfyrwyr. Rydw i hefyd wedi bod yn aelod o dîm Dy Lais ar Waith ers mis Medi 2021. Rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r tîm sgiliau digidol ers mis Awst 2022 a hyd yma rwyf wedi gweithio ar Adnodd Darganfod Digidol JISC a’r Llyfrgell Sgiliau Digidol. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ar yr Ŵyl Sgiliau Digidol ym mis Tachwedd 2023 a thrafod yn gyffredinol yr hyn rydym yn ei gynnig i fyfyrwyr a sut y gallwn wella’r modd yr ydym yn cyflwyno ein hadnoddau. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at y cyfle i gynnal mwy o grwpiau ffocws a hyfforddiant gyda myfyrwyr a staff sy’n ymwneud â sgiliau ac adnoddau digidol.
Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Y thema eleni yw #CofleidioTegwch, ac mae’n rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae hefyd yn alwad i ni weithredu gan gofleidio tegwch yn llawn.
Dyma ddetholiad o fideos LinkedIn Learning byr, i gyd dan 5 munud, sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Gallwch gael mynediad i’r fideos hyn am ddim gyda’ch cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth.