Cyflwyno nodweddion newydd yn LinkedIn Learning

Mae LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein y mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim iddo, wedi rhyddhau tair nodwedd newydd a chyffrous yn ddiweddar. Edrychwch ar y wybodaeth a’r canllawiau isod i ddysgu sut i fanteisio i’r eithaf ar y nodweddion newydd hyn.

Nodwedd newydd 1: Canllawiau Rôl

Yn ddiweddar mae LinkedIn Learning wedi rhyddhau Canllawiau Rôl. Bydd y rhain yn eich galluogi i archwilio a dod o hyd i gynnwys sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa. Er enghraifft, os ydych yn dyheu i fod yn Wyddonydd Data, gallwch ddilyn y canllaw rôl Gwyddonydd Data i ddod o hyd i gyrsiau, llwybrau dysgu, mewnwelediadau sgiliau, a gofodau grŵp cymunedol sy’n gysylltiedig â’r rôl benodol hon.

Edrychwch ar y fideo isod (dim sain) i ddysgu sut i gael mynediad i’r Canllawiau Rôl, a gallwch hefyd gael gwybod mwy amdanynt trwy’r ddolen hon Canllawiau rôl LinkedIn Learning.

Nodwedd newydd 2: GitHub Codespaces

Mae LinkedIn Learning hefyd wedi rhyddhau GitHub Codespaces, sy’n caniatáu i chi ymarfer meistroli’r ieithoedd rhaglennu cyfrifiadurol gorau a phynciau cysylltiedig eraill megis Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Mae LinkedIn Learning wedi datblygu dros 50 o gyrsiau sy’n cynnwys ymarfer ymarferol trwy integreiddio â GitHub Codespaces, sy’n amgylchedd datblygu yn y cwmwl. Gallwch gael mynediad at bob un o’r 50+ o gyrsiau yma, neu dechreuwch drwy edrych ar y dewis o gyrsiau isod:

Screenshot of Hands-On Introduction to Python course
Screenshot of Practice It: Java Course
Screenshot of 8 Git Commands your should know course

Nodwedd newydd 3: Gosod Nodau Gyrfa

Gallwch bersonoli’r cynnwys y mae LinkedIn Learning yn ei argymell i chi hyd yn oed ymhellach drwy osod Nodau Gyrfa i chi’ch hun. Y ddwy brif fantais o osod nodau gyrfa yw:

  • Eich cysylltu â chyfleoedd datblygu gyrfa yn seiliedig ar y nodau yr ydych wedi’u gosod i chi’ch hun
  • Eich helpu i feithrin amrywiaeth o sgiliau a fydd yn eich helpu i gyflawni eich nodau

Gallwch osod eich Nodau Gyrfa trwy glicio ar Fy Nysgu Ac yna Fy Nodau, ac edrych ar y Canllaw defnyddiol hwn i’ch helpu chi i fanteisio i’r eithaf ar y nodwedd newydd hon.

Screenshot showing the Career Goal function and the questions asked

Am unrhyw gymorth neu ymholiadau am y nodweddion newydd hyn, neu ar gyfer unrhyw gwestiynau cyffredinol am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*