Archwiliwch ein casgliadau Sgiliau Digidol newydd yn LinkedIn Learning

Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau digidol ymhellach? Ydych chi’n ei chael hi’n anodd dod o hyd i gyrsiau a fideos o LinkedIn Learning sy’n gysylltiedig â’r sgiliau penodol hynny rydych chi am eu datblygu? Os felly, efallai mai ein casgliadau sgiliau digidol newydd yw’r hyn sydd ei angen arnoch!

Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim i LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein. Darllenwch ein postiad blog blaenorol i ddarganfod mwy am y llwyfan.

Rydym wedi datblygu 30 o gasgliadau newydd (15 i fyfyrwyr a 15 i staff) i’ch cefnogi i ddod o hyd i’r cynnwys mwyaf priodol o LinkedIn Learning er mwyn i chi allu datblygu amrywiaeth o sgiliau digidol. Mae pob casgliad yn cynnwys 9 adnodd a gall y rhain amrywio o fideos byr 3 munud i gyrsiau mwy manwl.

Dyma enghraifft o 6 adnodd y byddwch chi’n dod o hyd iddyn nhw, ac o ba gasgliad y maent yn dod ohono:

Editing and Proofreading made simple (cwrs 39 munud)

Casgliad: Llythrennedd Gwybodaeth i Fyfyrwyr

Distractions caused by devices (fideo 4 munud)

Casgliad: Lles Digidol i Fyfyrwyr

SPSS Statistics Essential Training (cwrs 6 awr)

Casgliad: Hyfedredd Digidol i Fyfyrwyr

Organising your Remote Office for Maximum Productivity (cwrs 26 munud)

Casgliad: Cynhyrchiant Digidol i Staff

Foundations of Accessible E-learning (cwrs 51 munud)

Casgliad: Addysgu Digidol i Staff

Team Collaboration in Microsoft 365 (cwrs 1.5 awr)

Casgliad: Cydweithio Digidol i Staff

Os ydych am ddod o hyd i adnoddau ychwanegol i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau digidol, edrychwch ar ein Llyfrgell Sgiliau Digidol myfyrwyr a lansiwyd gennym yr wythnos diwethaf (bydd y llyfrgell staff ar gael ym mis Mehefin 2023).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y casgliadau LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*