Syniadau ac Awgrymiadau Microsoft Excel (Rhan 2)💡

Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Cyhoeddais Ran 1 o’r blogbost hwn yn gynharach yr wythnos hon, lle cyflwynais 5 syniad ac awgrymiad i’ch helpu i wneud y gorau o Excel, ac mae’r blogbost hyn yn cynnwys 5 awgrym pellach! Os ydych chi eisiau dysgu mwy am Excel, ewch i’m casgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning.

Awgrym 6: Ychwanegu nifer o resi neu golofnau ar yr un pryd

Os hoffech chi ychwanegu mwy nag un rhes neu golofn ar yr un pryd bydd yr awgrym hwn yn arbed yr amser o orfod gwneud hyn fesul un.

  • Amlygwch nifer y rhesi neu’r colofnau yr hoffech eu hychwanegu
  • Cliciwch fotwm de’r llygoden arnynt
  • Dewiswch Mewnosod o’r gwymplen sy’n ymddangos

Awgrym 7: Ychwanegu pwyntiau bwled

Nid yw dod o hyd i’r botwm i ychwanegu’r rhain mor hawdd ag y mae ar Microsoft Word ond yn ffodus mae yna gwpwl o ffyrdd i wneud hyn.

Opsiwn 1 – Os oes gennych fysellfwrdd rhifiadol:

  • Dewiswch y gell lle rydych chi am ychwanegu eich pwynt bwled
  • Mewnbynnwch ALT+7 i mewn i’r gell
  • Dylai eich pwynt bwled ymddangos (os nad ydyw, rhowch gynnig ar opsiwn 2)

Opsiwn 2 – Yr ail opsiwn yw i:

  • Ddewis y gell lle rydych chi am ychwanegu eich pwynt bwled
  • Mewnbynnwch =CHAR(149) i mewn i’r gell (bydd hyn yn ychwanegu dim ond y pwynt bwled)
  • Os ydych chi am ychwanegu testun ar ôl y pwynt bwle, bydd angen i chi fewnbynnu =CHAR(149)&”MEWNOSOD Y TESTUN YMA”

Awgrym 8: Hypergysylltu â gwefan o fewn eich taenlen

I gysylltu â thudalen o fewn eich taenlen:

  • Cliciwch ar y gell dan sylw ac o dan y tab Mewnosod dewiswch Dolen (neu gallwch hefyd dde-glicio ar y gell a dewis Dolen oddi yno)
  • Teipiwch neu ludwch URL y wefan gan alluogi i chi fynd yn syth i’r wefan honno pan fyddwch chi’n dewis y gell dan sylw

Gellir defnyddio’r awgrym hwn hefyd i fynd â chi i fideo YouTube drwy gopïo URL eich fideo o YouTube a’i ludo yn yr un ffordd.

Awgrym 9: Ychwanegu blychau ticio

Gall hwn fod yn ddefnyddiol iawn os ydych yn defnyddio Excel ar gyfer rheoli prosiectau, dibenion trefniadol neu i ddangos canlyniad cadarnhaol yn weledol mewn set ddata neu mewn ymateb i gwestiwn. Er mwyn ychwanegu blwch ticio:

  • Ewch i’r tab Datblygiad
  • Dewiswch Mewnosod a dewiswch eich eicon ticio

Awgrym 10: Nodwedd COUNTIF

Mae’r nodwedd hon yn caniatáu ichi gyfrif nifer y celloedd sy’n bodloni meini prawf penodol a osodwyd gennych, er enghraifft nifer o weithiau y mae swydd benodol yn ymddangos mewn rhestr o bobl.

  • Mewn cell wag teipiwch =COUNTIF( ac yna naill ai teipio’r amrediad celloedd rydych chi am edrych ynddynt neu drwy ddewis a llusgo dros y celloedd a ddymunir
  • Yna teipiwch y cymal, rhif neu nod allweddol yr ydych chi’n chwilio amdano mewn dyfynodau dwbl a chau’r cromfachau (nid yw’r nodwedd hon yn sensitif i lythrennau felly nid oes angen i chi boeni am ddefnyddio prif lythrennau neu beidio ar gyfer chwilio am eiriau) – e.e. =COUNTIF(A3:A25, “Meddyg”)
  • Cau’r cromfachau
  • Yna pwyswch y fysell Enter

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*