Dewch i weithio gyda ni fel Pencampwr Digidol Myfyrwyr 📣

Rydym yn edrych i benodi dau Bencampwr Digidol Myfyrwyr i weithio yn ein Tîm Sgiliau Digidol am gyfanswm o 25 wythnos (5 awr yr wythnos ar Gyflog Gradd 2) y flwyddyn academaidd nesaf, gan ddechrau ym mis Medi 2023.  

Bydd y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr yn cefnogi gwaith y Tîm Sgiliau Digidol drwy annog myfyrwyr eraill i fanteisio ar amryw o adnoddau i’w cefnogi i ddatblygu eu sgiliau digidol. Bydd hefyd gofyn iddynt ddarparu persbectif gwerthfawr ar faterion sy’n ymwneud â chefnogi datblygiad sgiliau digidol myfyrwyr yn gyffredinol.   

Dyma beth oedd gan ein dau Bencampwr Digidol Myfyrwyr presennol i’w ddweud am eu profiadau yn y rôl eleni:  

“Mae fy mlwyddyn ddiwethaf yn gweithio fel Pencampwr Digidol Myfyrwyr wedi bod yn ddiddorol iawn, yn werth chweil ac yn rhywbeth hollol wahanol i mi. Roeddwn i’n chwilio am rywbeth i’w wneud ochr yn ochr â’m lleoliad ymchwil labordy eleni ac er nad oedd gen i unrhyw brofiad blaenorol mewn sgiliau digidol, neu hyd yn oed diddordeb digidol blaenorol, rwyf wedi ei fwynhau’n fawr iawn. Rwyf wedi bod wrth fy modd yn gallu defnyddio’r swydd fel dihangfa greadigol ac i ddatblygu fy sgiliau dylunio graffig, ond rwyf hefyd wedi datblygu llawer o sgiliau newydd fel arwain grwpiau ffocws a chyfweliadau; dadansoddi profiadau defnyddwyr; dylunio a chynhyrchu cynnwys ar-lein ar gyfer llwyfannau amrywiol; ac ysgrifennu blogbyst. Mae hyblygrwydd y swydd wedi bod yn wych, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda’r tîm y flwyddyn nesaf (sydd, gyda llaw, yn grŵp o bobl hollol hyfryd), fel newid golygfa o fy ngwaith prifysgol arferol.”

Laurie Stevenson (Myfyriwr blwyddyn mewn diwydiant, Cadwraeth Bywyd Gwyllt)

“Fel Pencampwr Digidol Myfyrwyr, rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau gwerthfawr a fydd yn fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol. Mae dod i adnabod rhaglenni fel Word, Excel, a Piktochart wedi bod yn amhrisiadwy i’m datblygiad fel myfyriwr ac fel gweithiwr. Mae helpu gyda rhedeg stondinau a digwyddiadau i hyrwyddo gwaith y tîm ar y campws wedi rhoi hwb mawr i’m hyder a’m sgiliau cyfathrebu rhyngbersonol. Rwy’n argymell y rhaglen Pencampwyr Digidol Myfyrwyr i unrhyw un sy’n ysu i helpu myfyrwyr eraill, ac i unrhyw un sy’n mwynhau rhoi cynnig ar bethau newydd.”

Jeffrey Clark (Myfyriwr 3ydd blwyddyn, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol)

Dyma enghreifftiau o’r gwahanol weithgareddau ac adnoddau y mae’r Pencampwyr Digidol Myfyrwyr wedi’u creu eleni!

  • Promotional poster with text: How are your digital skills? Friday 17 February, 10:00-13:00 at Level D of the Hugh Owen Library
  • Table and display board with post-it-notes stuck to it.
  • Bookmark containing 10 tips for students

Y dyddiad cau ar gyfer y swyddi hyn yw Dydd Llun 31 Gorffennaf 2023. I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais, ewch i Gwaith Aber. Os nad oes gennych chi gyfrif Gwaith Aber, neu am unrhyw ymholiadau, cysylltwch â digi@aber.ac.uk.  

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*