Syniadau ac Awgrymiadau Microsoft Excel (Rhan 1)💡

Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Ydych chi’n cael ymdeimlad o arswyd bob tro y mae’n rhaid i chi ddefnyddio Excel yn ystod eich gradd? Wel, rydyn ni yma i helpu! Bydd angen defnyddio Excel ar ryw adeg ar gyfer nifer o gynlluniau gradd er mwyn dadansoddi data, gwneud cyfrifiadau mathemateg, creu graff neu siart, rheoli prosiectau a llawer mwy.

Gall Excel ymddangos yn gymhleth ac yn frawychus i rai, yn enwedig os ydych chi’n gymharol newydd iddo, felly rydw i wedi llunio rhestr o syniadau ac awgrymiadau yn ogystal â chasgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning i’ch rhoi ar ben ffordd.

Cadwch lygad ar ein blog ddiwedd yr wythnos, gan y byddaf yn cyhoeddi ail ran y blogbost hwn, a fydd yn cynnwys 5 o syniadau ac awgrymiadau eraill ar ddefnyddio Excel!

Awgrym 1: Llwybrau byr defnyddiol ar y bysellfwrdd

Mae llwybrau byr bysellfwrdd yn golygu pwyso mwy nag un fysell ar yr un pryd a thrwy eu cofio, gall arbed llawer iawn o amser i chi, er enghraifft defnyddio CTRL+A i ddewis yr holl gelloedd mewn taenlen. Cymerwch olwg ar y rhestr ganlynol o’r rhai da i’w dysgu:

Ctrl + NCreu llyfr gwaith (workbook) newydd
Ctrl + OAgor llyfr gwaith sy’n bodoli eisoes
Ctrl + SCadw’r llyfr gwaith gweithredol
F12Cadw’r llyfr gwaith gweithredol o dan enw newydd – Bydd hyn yn dangos y blwch deialog Save As
Ctrl + WCau’r llyfr gwaith gweithredol
Ctrl + CCopïo cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + XTorri cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + VGludo/mewnosod cynnwys y Clipfwrdd yn y celloedd a ddewiswyd
Ctrl + ZDadwneud eich gweithred ddiwethaf
Ctrl + PAgor y dialog argraffu
Alt + HAgor y tab cartref
Alt + NAgor y tab mewnosod
Alt + PAgor y tab cynllun tudalen
Ctrl + SArbed y llyfr gwaith
Ctrl + 9Cuddio’r rhesi a ddewiswyd
Ctrl + 0Cuddio’r colofnau a ddewiswyd

Awgrym 2: Ychwanegu llinell letraws drwy gell

Mae’r awgrym yma’n arbennig o ddefnyddiol os ydych chi eisiau nodi yn weledol fod cell yn wag, neu ddim yn berthnasol. Er mwyn gwneud hyn bydd angen i chi:

  • Glicio botwm de’r llygoden yn y gell dan sylw a dewis Fformatio’r Celloedd
  • Yn y blwch deialog sy’n ymddangos, dewis Border o’r bar ar y brig
  • Dewis llinell letraws a chau’r blwch deialog

Awgrym 3: Copïo fformiwla ar draws colofn neu res

Mae’r awgrym yma’n un mwy adnabyddus ond mae’n un amhrisiadwy. I efelychu’r un fformiwla neu i grynhoi data ar draws rhes neu golofn gyfan, cliciwch ar y gell gyda’r fformiwla rydych chi am ei hefelychu a daliwch eich llygoden dros y sgwâr bach gwyrdd yng nghornel dde waelod y gell fel bod y cyrchwr yn troi’n groes ddu solet. Cliciwch yn y lle hwnnw ac yna ei lusgo i lawr neu ar draws i’r safle rydych chi am i’ch fformiwla ei lenwi.

Awgrym 4: Defnyddio llenwi fflach (flash fill)

Mae hyn eto yn awgrym defnyddiol a bydd yn help i chi weithio’n gyflymach yn Excel. Gan fod Excel yn adnabod patrymau cylchol yn y data rydych chi’n ei fewnbynnu, bydd yn aml yn cynnig nodwedd awtolanw (autofill) y gallwch ei dderbyn trwy wasgu’r fysell Enter.

Awgrym 5. Ychwanegu colofn cyfanswm

Y ffordd gyflymaf a symlaf o adio swm colofn neu res yw:

  • Dewis y gell lle rydych chi am ychwanegu’r cyfanswm
  • Mewnosod =SUM( ac yna naill ai teipio’r ystod o gelloedd rydych chi eisiau i’r fformiwla gyfrifo, neu drwy ddewis a llusgo dros y celloedd hynny
  • Cau’r braced a gwasgu’r bysell Enter

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*