Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Ar fy nhaith i les digidol, fe gefais fy hun ar groesffordd, yn anfodlon ar y berthynas a oedd wedi esblygu rhyngof i a thechnoleg. Unwaith yn ffynhonnell llawenydd ar gyfer hwyluso cysylltiadau a chyfoethogi profiadau, yn raddol daeth yn bresenoldeb rhwystredig ac yn achos pryder. Ofer fu pob ymgais i roi cynnig ar wahanol strategaethau, o arddangos graddlwyd i osod larymau atgoffa; roedd fy nyfeisiau yn parhau i lyncu gormod o’m hamser, gan arwain at euogrwydd ac ymdeimlad o fethiant personol, profiad tra gwahanol i’m chwilfrydedd cychwynnol gyda thechnoleg. Beth sydd wedi newid?
Rhyfeloedd Sweipio: Melltith y Ffôn Clyfar
Yn nyddiau cynnar y cyfryngau cymdeithasol, roedd mewngofnodi yn golygu tanio cyfrifiadur y teulu, llywio trwy haenau bwrdd gwaith, ac aros yn amyneddgar wrth i olwynion y byd digidol droi’n araf. Gallai’r byd hwnnw ddiflannu mewn un clic amser swper neu pan fyddai storm ar y gorwel. Wrth i ni neidio ymlaen i heddiw, ac mae ein dyfeisiau gyda ni’n barhaus, wrth law yn ein pocedi, yn barod ar gyfer ymgysylltu ar unwaith. Mae’r rhwyddineb yr ydym yn datgloi ein ffonau heb bwrpas clir wedi troi’n arfer, rydyn ni’n ysu am y wefr ddopamin a ddaw yn sgil rhyngweithio digidol.
Wedi’i gyfyngu yn y lle cyntaf i lifau penodol, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi esblygu’n blatfformau cynnwys eang wedi’u crefftio i ddal ein sylw’n ddiddiwedd. Yn y dirwedd defnyddwyr-ganolog sydd ohoni, nid dyfeisiau niwtral ydyn nhw ond yn hytrach maen nhw wedi’u cynllunio’n fwriadol i annog defnydd aml ac estynedig. Er ein bod yn chwilio am dechnoleg ddiddorol, gall yr atyniad sy’n bachu ein diddordeb weithiau weithio yn erbyn ein dymuniadau.
O Whoville i Screensville: Sut mae’r Ffôn Clyfar wedi Dwyn y Dolig
Er bod ein dyfeisiau yn amhrisiadwy i’n cysylltu ni yn ystod cyfnodau clo ac wrth dreulio gwyliau o bell, maen nhw hefyd wedi newid natur ein rhyngweithio personol. Dwi’n cofio’n glir treulio’r Nadolig ar ôl y pandemig gyda’r teulu, wedi’n hamgylchynu gan sgriniau, pob un ohonom wedi ymgolli yn ein bydoedd digidol. Dathliadau cwbl wahanol i’r rhai roedden ni wedi’u cynllunio ond yn realiti wedi’i lunio gan hollbresenoldeb technoleg.
Mae fy mherthynas gyda thechnoleg a oedd gynt yn un gadarnhaol bellach wedi troi’n un wenwynig, ac mae torri’n rhydd o afael fy ffôn yn gofyn am fwy nag ewyllys yn unig.