Dyma eich TipDigidol olaf ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, ond gallwch ddal i fyny ar ein holl TipiauDigidol blaenorol o’r dudlaen hon. Gobeithio bod yr awgrymiadau wedi bod yn ddefnyddiol a byddwn yn ôl ym mis Medi ’24 lle byddwn yn parhau i feithrin eich hyder gyda thechnoleg, un TipDigidol ar y tro!
Ydych chi weithiau’n cael trafferth mewn cyfarfodydd mwy i wybod pwy sy’n siarad ar y pryd? …..”Ai Ffion neu Bethan oedd yn siarad?!” Efallai eich bod yn gweithio mewn amgylchedd swnllyd ac yn cael trafferth clywed eraill yn y cyfarfod yn siarad? Efallai eich bod wedi ymuno â chyfarfod lle nad eich iaith gyntaf yw’r iaith a siaradir? Neu efallai eich bod yn gwerthfawrogi’r hygyrchedd o gael is-deitlau?
Os oes unrhyw un o’r uchod yn wir, mae’n debygol y byddwch yn gweld y nodwedd i alluogi capsiynau byw yn MS Teams yn ddefnyddiol. Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae galluogi capsiynau byw:
Mae’n werth nodi ychydig o bethau os ydych chi’n defnyddio’r nodwedd hon:
Mae capsiynau byw ond yn weladwy i’r rhai sydd wedi galluogi’r nodwedd yn y cyfarfod, sy’n golygu na fyddant yn ymddangos yn awtomatig i bawb os byddwch yn eu troi ymlaen!
Mae data capsiynau byw yn cael ei ddileu’n barhaol ar ôl cyfarfod, felly ni fydd unrhyw un yn cael mynediad at yr wybodaeth hon.
Ewch i’r dudalen we hon am gefnogaeth ac arweiniad pellach wrth ddefnyddio MS Teams.
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Sylwer mai dim ond trwy gyfrwng y Saesneg y ceir holl ddarpariaethau LinkedIn ar hyn o bryd.
Wrth i ddiwedd y flwyddyn academaidd agosáu, efallai eich bod yn dechrau meddwl am ragolygon swyddi a’ch gyrfaoedd yn y dyfodol a ble i ddechrau ar y daith hon. Mae LinkedIn bellach yn cynnig gweminarau “Rock your Profile” i’ch helpu i ddysgu sut i adeiladu proffil diddorol sy’n apelio at eich cynulleidfa ddelfrydol yn ogystal â thynnu sylw at nodweddion allweddol ac arferion gorau ar gyfer adeiladu proffil atyniadol. Mae’r gweminarau hyn ar gael ar wahanol adegau o’r dydd, cofrestrwch yma nawr: Rock Your Profile (linkedin.com).
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig adolygu proffiliau CV a LinkedIn a rhoi cyngor ar eu gwella. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau hyn drwy alw heibio yn bersonol i Lyfrgell Hugh Owen Lefel D yn ystod y tymor. Mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd ar gael drwy e-bost yn: gyrfaoedd@aber.ac.uk. Fel arall, mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd yn cynnal sesiynau ar sut i greu CV a phroffil LinkedIn yn llwyddiannus. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu hysbysebu ar y porth gyrfaoedd: www.aber.ac.uk/gyrfaoeddABER. Cawsom hefyd sesiwn am sut i ddefnyddio LinkedIn yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol y gallwch ei weld yma: Sut i ddefnyddio LinkedIn – Gŵyl Sgiliau Digidol 2023 (6 – 10 Tachwedd) (aber.ac.uk). Gallwch weld rhagor o adnoddau ar LinkedIn drwy’r fideos isod:
Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)
Fel rhywun sy’n defnyddio Microsoft Teams bob dydd yn y gwaith, rwyf wedi darganfod casgliad o lwybrau byr ac awgrymiadau defnyddiol ar y bysellfwrdd sydd wedi fy helpu i lywio’r llwyfan yn fwy effeithlon. P’un a ydych chi’n aelod o staff yn neidio o un cyfarfod i’r nesaf, neu’n fyfyriwr sy’n defnyddio MS Teams i gydweithio ar brosiectau neu fynychu darlithoedd rhithiol, dylai’r awgrymiadau byr hyn eich helpu i fanteisio i’r eithaf ar MS Teams.
Bysellau hwylus
Disgrifiad
Ctrl+Shift+O
Diffodd eich camera
Ctrl+Shift+M
Diffodd eich meicroffon
Ctrl+K
Creu hyperddolenni byrrach
Shift + Enter
Dechrau llinell newydd yn y blwch sgwrsio heb anfon y neges
Crynodeb o’r llwybrau byr a grybwyllir yn y blog hwn
Diffodd eich camera yn gyflym
Mae yna adegau pan fydd angen i chi ddiffodd eich fideo yn gyflym yn ystod galwad, efallai bod eich lled band yn gyfyngedig neu fod ymyriadau y tu ôl i chi. Trowch eich camera ymlaen a’i ddiffodd yn gyflym trwy ddefnyddio’r llwybr byr Ctrl+Shift+O.
Addasu eich hyperddolenni
Yn hytrach na llenwi eich negeseuon gydag hyoerddolenni hir, defnyddiwch y llwybr byr Ctrl+K. Mae’r llwybr byr hwn yn caniatáu ichi addasu’r testun a ddangosir ar gyfer eich hyperddolen, gan wneud eich negeseuon yn fwy cryno!
Diffodd eich meicroffon
Gall sŵn yn y cefndir amharu ar gyfarfodydd hefyd (mae gen i ddau gi sy’n cyfarth pan fydd rhywun yn canu cloch y drws, felly dyma’r llwybr byr yr wyf fi’n ei ddefnyddio fwyaf!) Defnyddiwch Ctrl+Shift+M i ddiffodd a throi eich meicroffon ymlaen yn gyflym.
Mireinio eich canlyniadau chwilio
Mae gan Teams adnodd chwilio defnyddiol, ond weithiau gall gynhyrchu gormod o ganlyniadau! Manteisiwch ar yr hidlyddion sydd ar gael i fireinio’ch chwiliad ac i arbed amser i chi.
Dechrau llinell newydd yn y blwch sgwrsio heb anfon y neges
Gall teipio negeseuon yn Teams fod yn anodd, yn enwedig pan fyddwch chi eisiau ychwanegu toriadau llinell heb anfon y neges yn anghyflawn. Defnyddiwch Shift+Enter i ddechrau llinell newydd yn y blwch sgwrsio heb anfon y neges yn rhy gynnar.
Gwneud penderfyniadau cyflym gyda’r nodwedd bleidleisio
A oes angen i chi gasglu barn neu wneud penderfyniadau yn gyflym? Os ydych chi’n bwriadu creu pleidlais ar ôl i chi ddechrau eich cyfarfod, mae gan Teams adnodd pleidleisio.
Noder: Rydym yn awgrymu eich bod yn defnyddio Vevox, adnodd pleidleisio PA os ydych chi’n bwriadu gosod pleidlais cyn eich cyfarfod neu sesiwn ar-lein.
Marcio negeseuon fel rhai brys neu bwysig
Ydych chi eisiau anfon neges bwysig ar Teams ac yn poeni y bydd yn mynd ar goll o fewn llif o negeseuon? I ddatrys y broblem hon, gallwch farcio unrhyw negeseuon fel rhai brys neu bwysig yn MS Teams.
Oes gennych chi unrhyw lwybrau byr eraill neu awgrymiadau cyffredinol eraill pan fyddwch chi’n defnyddio MS Teams? Os felly, hoffem glywed oddi wrthych! Rhannwch eich awgrymiadau a’ch llwybrau byr yn y blwch isod ⬇
Ydych chi’n bwriadu gweithio ar brosiect grŵp cydweithredol gyda’ch cyfoedion neu a ydych chi am i gydweithiwr roi sylwadau i chi heb olygu’r ddogfen yn barhaol?
Heddiw, byddwn yn edrych ar sut i ychwanegu sylwadau mewn dogfennau cydweithredol ar-lein y gall nifer o bobl eu golygu. Trwy ddefnyddio’r nodwedd sylwadau, gall eraill ddeall eich syniadau y tu ôl i unrhyw newidiadau, gofyn unrhyw gwestiynau a chynnig dewisiadau amgen heb effeithio ar y brif ddogfen.
Gyda’r nodwedd sylwadau, mae yna amryw o nodweddion y gallwch chi fanteisio arnynt – ateb sylwadau, ymateb i sylwadau, a’u datrys trwy’r adnodd marcio newidiadau.
Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad byr:
D.S. Recordiwyd y fideo hwn yn Microsoft SharePoint. Fodd bynnag, mae’r broses gyda SharePoint a OneDrive yn debyg iawn i’w gilydd.
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
A ydych chi eisiau dysgu sut i wella eich sgiliau cyfathrebu digidol, ac yn enwedig sut i ddefnyddio Instagram i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?
Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Instagram for your Business/Social Enterprise– with Kacie Morgan, ar Ddydd Mercher 24 Ebrill (14:10-15:00). Bydd y sesiwn hon yn cael ei chynnal ar-lein dros MS Teams a gallwch ymuno yma.
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Fel dysgwr gweledol, rwy’n gweithio orau pan allaf osod fy holl syniadau mewn un lle. Roeddwn i’n arfer gwneud hyn gyda beiro a phapur ond nawr, gydag Ayoa gallaf wneud hyn ar-lein! Mae Ayoa ar gael ar-lein ac fel ap ffôn, ac mae’n caniatáu ichi greu mapiau meddwl am ddim. Mae’n wasanaeth amlieithog, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg lle gallwch greu cymaint o fapiau meddwl ag yr hoffech i helpu gyda sawl prosiect gwahanol neu hyd yn oed os oes un cynllun yr hoffech ei hollti ymhellach.
Mae’r nodweddion a ddarperir yn yr ap yn cynnwys y gallu i gychwyn map meddwl o’r newydd neu ddewis o blith un o’r templedi a grëwyd ymlaen llaw. O fewn hyn mae gennych reolaeth lawn dros nodweddion y gellir eu haddasu er enghraifft, gallwch ychwanegu canghennau diderfyn o’ch teitl canolog a chod lliw yn ôl eich prosiect a’r hyn sy’n gwneud synnwyr i chi! Gallwch hefyd olygu maint y ffont a’r testun yn ogystal â maint a siâp pob blwch a newid lliw pob cangen. Os byddwch chi’n penderfynu bod angen i gyfres o syniadau a changhennau fod yn lliw gwahanol, gallwch newid y rhain trwy’r nodwedd “plant” a fydd wedyn yn newid yr holl fformatio ar hyd y gangen hon.
Mae yna nodweddion ychwanegol hefyd megis gallu mewnosod ymatebion emoji i bob cangen a gallu mewnosod neu uwchlwytho delweddau a allai helpu i sbarduno syniadau pellach neu atgyfnerthu pwyntiau. Gallwch ychwanegu nodiadau at bwyntiau penodol i ychwanegu mwy o wybodaeth. Os hoffech rannu’ch map meddwl ag eraill, gallwch ei allforio fel JPEG a PNG a bydd pob map meddwl yr ydych chi’n ei greu yn cael ei gadw i’ch hafan Ayoa.
Mae’r nodweddion hyn oll ar gael ar y fersiwn am ddim o Ayoa sydd am ddim yn barhaol. Mae yna hefyd fersiwn y gellir ei brynu o Ayoa (Ayoa unlimited) sydd â nodweddion ychwanegol megis y gallu i gydweithredu’n fyw ar fap meddwl yn ogystal â rhannu mapiau meddwl gydag eraill yn yr ap ei hun. Byddwch hefyd yn cael mynediad at wahanol fathau o fyrddau gan gynnwys byrddau gwyn a byrddau tasgau.
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Yn yr oes ddigidol sydd ohoni, mae cyfarfodydd ar-lein wedi dod yn rhan annatod o fywyd academaidd a phroffesiynol. P’un a ydych yn mynychu darlith rithiol, yn cydweithio ar brosiect grŵp, neu’n mynychu cyfweliad am swydd, mae gwybod sut i lywio cyfarfodydd ar-lein yn effeithiol yn hanfodol i lwyddo.
Yn y blogbost hwn rwyf am rannu rhai awgrymiadau i’ch helpu i lywio cyfarfodydd ar-lein, a gallwch chi hefyd edrych ar y dudalen hon i gael cwestiynau Cyffredin a chanllawiau hyfforddi ar ddefnyddio MS Teams.
1) Paratowch fel y byddech chi’n paratoi ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb
Mae cyfarfodydd ar-lein yn darparu’r cyfleustra o beidio â gorfod gadael eich cartref. Daw hyn gyda’r demtasiwn o neidio allan o’r gwely 5 munud cyn dechrau’r cyfarfod. Er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi’r cyfle gorau i’ch hun lwyddo:
Gwisgwch fel y byddech chi’n gwisgo ar gyfer cyfarfod wyneb yn wyneb
Rhowch ychydig o amser i’ch hun i baratoi’n feddyliol i osgoi teimlo eich bod yn rhuthro.
Manteisiwch ar y cyfle i fynd dros eich nodiadau, paratoi unrhyw gwestiynau neu gasglu unrhyw ffeiliau y mae angen i chi eu rhannu.
2) Cysylltwch yn gynnar
Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatrys unrhyw broblemau technegol. Profwch eich meddalwedd, rhag ofn y bydd angen ei diweddaru, sy’n golygu y byddai angen i chi ailgychwyn yr ap neu’r ddyfais.
Gallwch ddefnyddio’r amser ychwanegol hwn i sicrhau eich bod yn gyfarwydd â’r holl nodweddion sydd ar gael yn MS Teams, megis y blwch sgwrsio, codi-eich-llaw, rhannu sgrin a nodweddion capsiynau byw.
3) Curadwch eich deunydd gweledol
Dyma’r prif awgrymiadau ar gyfer gwneud argraff gadarnhaol, broffesiynol:
Dewiswch liniadur dros ffôn neu lechen os yw’n bosibl. Gall hyn helpu gyda sefydlogrwydd delwedd, yn ogystal â chaniatáu i chi gymryd nodiadau yn haws. Os na allwch gael gafael ar liniadur, ystyriwch ddefnyddio stand ar gyfer eich dyfais.
Gosodwch eich camera ar lefel y llygad, gan y bydd hyn yn arwain at y ddelwedd fwyaf naturiol.
Edrychwch ar y camera yn hytrach na’r sgrin wrth siarad, yn enwedig mewn cyfarfodydd grŵp. Dyma’r peth agosaf i gyswllt llygaid ag y gallwch ei gael.
Gwnewch yn siŵr bod gennych oleuadau da.
Dewiswch y cefndir iawn. Dilynwch y Cwestiwn Cyffredin hwn i gael cyfarwyddiadau ar sut i ychwanegu cefndir rhithiol.
4) Optimeiddiwch eich sain
Dewiswch ystafell â charped a dodrefn, os yw’n bosibl. Bydd hyn yn arwain at sain gynhesach, mwy naturiol heb effaith adlais.
Os yw’n bosibl, defnyddiwch glustffonau yn lle’r meicroffon adeiledig i helpu i wella ansawdd eich sain.
Diffoddwch eich meicroffon pan nad ydych chi’n siarad i atal unrhyw sŵn diangen.
5) Lleihewch ymyriadau
Dewiswch fannau preifat, tawel dros fannau cymunedol neu gyhoeddus.
Diffoddwch unrhyw negeseuon hysbysu a rhowch wybod i eraill nad ydych eisiau cael eich tarfu os oes angen.
Efallai y bydd adegau pan fydd angen i chi adael y cyfarfod (e.e. os bydd rhywun yn canu cloch y drws), os felly gadewch i’r bobl yn y cyfarfod wybod trwy adael neges fer yn y blwch sgwrsio.
6) Meddyliwch am beth yr ydych yn ei rannu
Os oes angen i chi rannu’ch sgrin yn ystod y cyfarfod, mae bob amser yn well rhannu ffenestr benodol yn hytrach na’ch sgrin gyfan, ond efallai y bydd adegau pan na ellir osgoi hyn. Yn yr achos hwn:
Caewch unrhyw dabiau amherthnasol.
Mudwch neu gaewch raglenni i osgoi hysbysiadau neu naidlenni eraill. Neu, trowch y modd ‘peidio â tharfu’ ymlaen.
Symudwch, ailenwch, neu ddilëwch unrhyw lyfrnodau neu ffeiliau sensitif
Ystyriwch ddileu eich cwcis a’ch hanes chwilio os yw’ch porwr yn dangos chwiliadau blaenorol neu’n defnyddio awto-lenwi.
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Gyda datblygiad ffonau a thechnoleg mae ap ar gyfer popeth erbyn hyn – gan gynnwys darllen! Fel darllenydd brwd rwy’n hoffi herio fy hun gydag amcanion blynyddol, trafod llyfrau gyda chyd-ddarllenwyr a chyflawni ystadegau darllen. Gyda fy nhri hoff ap darllen – mae hyn i gyd yn bosibl!
Goodreads
Mae Goodreads yn wych ar gyfer tracio eich deunydd darllen cyfredol a chadw ar y trywydd iawn ar gyfer eich amcanion darllen.
Gosodwch her ddarllen flynyddol i chi’ch hun a bydd Goodreads yn dweud wrthych a ydych chi ar y trywydd iawn.
Traciwch eich deunydd darllen cyfredol i weld pa mor bell yr ydych wedi cyrraedd.
Cewch fathodyn os byddwch yn cyrraedd eich nod.
Gallwch weld llyfrau yr ydych wedi’u darllen yn y blynyddoedd diwethaf.
Gallwch greu silffoedd darllen ar gyfer eich anghenion megis “eisiau darllen”.
Sganiwch gloriau llyfrau yn hytrach na chwilio amdanynt.
Darganfyddwch lyfrau newydd yn seiliedig ar eich darlleniadau diweddar, cyhoeddiadau newydd a llyfrau sy’n trendio.
Mae emojis wedi dod yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym yn cyfathrebu, a gallant fod yn wych ar gyfer mynegi ein hemosiynau gydag un nod yn unig! 🥰🤣🙄🤯😴
Bydd y rhan fwyaf ohonom yn fwy cyfarwydd â defnyddio emojis ar ein ffonau symudol 📱, ond bydd adegau pan fyddwn eisiau cynnwys emojis wrth ddefnyddio ein gliniaduron neu gyfrifiaduron. Yn hytrach na chwilio ar y we am yr emoji sydd ei angen arnoch, beth am ei gyrchu’n uniongyrchol o’ch bysellfwrdd!
Ar Windows a Mac, gallwch gyrchu’ch bysellfwrdd emoji mewn eiliadau trwy ddewis:
Windows – Bysell Windows + “.” (botwm atalnod llawn)
Mac – Bysell Command + Control + bar gofod
Gwyliwch y fideo isod i weld sut mae’r llwybr byr hwn yn gweithio ar ddyfais Windows.
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Oes angen i chi daflu syniadau newydd â’ch cymheiriaid ar gyfer aseiniad grŵp? Neu efallai fod gennych brosiect gwaith yr hoffech drafod syniadau newydd ar ei gyfer â’ch cydweithwyr? Mae’r bwrdd gwyn yn Microsoft Teams yn adnodd gwych ar gyfer hynny ac mae’n cynnig ystod o dempledi i chi ddewis ohonynt.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae dechrau arni, neu cliciwch ar y ddolen hon os hoffech wylio’r fideo â chapsiynau caeedig.
Byddwn hefyd yn dangos sut i ddefnyddio’r bwrdd gwyn yn ystod ein sesiwn Mastering group work with online tools and strategies prynhawn yma (7 Tachwedd, 15:00-16:00) fel rhan o’r Ŵyl Sgiliau Digidol! Gallwch ymuno â’r sesiwn hon yn uniongyrchol o raglen yr ŵyl.
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!