Croeso i’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr ar gyfer ’23-24!

Banner with Student Digital Champion

Croeso cynnes i’n Pencampwyr Digidol Myfyrwyr a ymunodd â’r Tîm Sgiliau Digidol ar ddechrau mis Medi! Fe fydd y tri yn gweithio gyda ni drwy gydol y flwyddyn academaidd i annog myfyrwyr ar draws y brifysgol i ddatblygu eu sgiliau digidol ac i roi mewnwelediadau gwerthfawr i’r cymorth y mae myfyrwyr ei eisiau.


Noel Czempik

“Helo! Noel ydw i ac rwy’n fyfyriwr Geneteg israddedig sydd â diddordeb arbennig mewn meddygaeth bersonol. Rwyf hefyd yn gerddor ac yn mwynhau bod yn greadigol yn y gwaith, boed hynny mewn labordy neu stiwdio recordio. Mae fy niddordebau’n cynnwys peintio, dylunio mewnol, cerddoriaeth fyw, teithiau ffordd, teithiau natur, chwilota a choginio. Rwyf hefyd yn casglu recordiau a ffigurynnau ysbrydion.

Fe wnes i gais am rôl Pencampwr Digidol Myfyrwyr er mwyn cymryd rhan mewn gwaith creadigol ac ystyrlon a datblygu fy sgiliau digidol ymhellach. Rwy’n angerddol am brofiad myfyrwyr yn y brifysgol ac yn chwilfrydig ynghylch goblygiadau iechyd a chymdeithasol bywyd digidol. Edrychaf ymlaen at gefnogi’r Tîm Sgiliau Digidol, yn arbennig wrth gefnogi lles digidol.”


Joel Williams

“Helo, Joel Williams ydw i, rydw i’n fyfyriwr yn y 3edd flwyddyn yn astudio Daearyddiaeth. Fy meysydd o ddiddordeb yw folcanoleg ac effeithiau newid yn yr hinsawdd, gan ganolbwyntio ar sut mae’r ddau yn effeithio ar bobl. Fe wnes i gais i fod yn Bencampwr Digidol Myfyrwyr oherwydd roedd yn rhoi cyfle i mi adeiladu ar fy sgiliau digidol fy hun a gwella’r profiad i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ers fy ail flwyddyn rwyf wedi bod yn Gynrychiolydd Academaidd ar gyfer fy adran. Rwyf wedi mwynhau’r rôl hon yn fawr gan ei bod wedi galluogi i mi a’m cyfoedion leisio ein barn i’r Brifysgol ac yna gweld canlyniadau pendant hyn. Mae fy niddordebau’n cynnwys, tynnu lluniau tirweddau a bywyd gwyllt, nofio (fel arfer mewn pwll nofio), a than yn ddiweddar roeddwn i’n chwarae pêl-droed Americanaidd i’r Brifysgol.”


Laurie Stevenson

“Helo, Laurie ydw i ac rydw i yn fy mhedwaredd flwyddyn yn astudio gradd Cadwraeth Bywyd Gwyllt. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Tîm Sgiliau Digidol eto eleni fel Pencampwr Digidol Myfyrwyr sy’n dychwelyd. Fe wnes i fwynhau’r rôl y llynedd yn fawr iawn a sut y gwnaeth fy helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu a chreadigrwydd digidol yn ogystal â’m gwthio y tu hwnt i’m cilfan gysurus wrth arwain grwpiau ffocws a chynnal cyfweliadau. Rwy’n gobeithio parhau i ddysgu sgiliau newydd eleni ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio ochr yn ochr â dau bencampwr newydd!”


🔔 Dilynwch ein categori Pencampwyr Digidol Myfyrwyr i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl gynnwys cyffrous y bydd y pencampwyr yn ei gyhoeddi ar ein blog drwy gydol y flwyddyn, a hefyd ar draws sianeli cyfryngau cymdeithasol Gwasanaethau Gwybodaeth!

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*