TipDigidol 18 – Mynegwch eich hun ag Emojis gyda’r llwybr byr cudd ar y bysellfwrdd 🥳🤩💖

Mae emojis wedi dod yn rhan hanfodol o’r ffordd rydym yn cyfathrebu, a gallant fod yn wych ar gyfer mynegi ein hemosiynau gydag un nod yn unig! 🥰🤣🙄🤯😴

Bydd y rhan fwyaf ohonom yn fwy cyfarwydd â defnyddio emojis ar ein ffonau symudol 📱, ond bydd adegau pan fyddwn eisiau cynnwys emojis wrth ddefnyddio ein gliniaduron neu gyfrifiaduron. Yn hytrach na chwilio ar y we am yr emoji sydd ei angen arnoch, beth am ei gyrchu’n uniongyrchol o’ch bysellfwrdd!

Ar Windows a Mac, gallwch gyrchu’ch bysellfwrdd emoji mewn eiliadau trwy ddewis:

  • Windows – Bysell Windows + “.” (botwm atalnod llawn)
  • Mac – Bysell Command + Control + bar gofod

Gwyliwch y fideo isod i weld sut mae’r llwybr byr hwn yn gweithio ar ddyfais Windows.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

14 Chwefror ’24: Cwrdd â staff addysgu newydd eraill a chydweithwyr o GG

Ym mis Medi 2023, fe wnaethom lansio Hanfodion Digidol ar gyfer addysgu GG, safle Blackboard Learn Ultra newydd sydd wedi’i gynllunio i gefnogi staff addysgu newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Darllenwch ein blogbost blaenorol am wybodaeth bellach.

Fel rhan o lansiad y safle, rydym wedi trenu cyfle i staff addysgu newydd ymuno â ni am baned ar Ddydd Mercher 14 Chwefror ’24 (2-3yh) yn E3, Hugh Owen. Bydd yn gyfle i staff addysgu newydd gwrdd â’i gilydd, yn ogystal â chwrdd â chydweithwyr o Wasanaethau Gwybodaeth. **Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma**

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad neu’r safle Blackboard, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk). 

Dewch i’n Sesiynau Galw Heibio Sgiliau Digidol drwy gydol Semester 2

Bydd aelod o’r tîm ar gael bob wythnos i gefnogi myfyrwyr a staff yn ein sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol.

Gallwn eich helpu gyda:

  • Dod o hyd i adnoddau i ddatblygu eich sgiliau digidol
  • Darparu cefnogaeth sylfaenol ar gyfer defnyddio meddalwedd Microsoft (e.e. PowerPoint, Excel, Word, Teams ac Outlook)
  • Rhoi cyngor cyffredinol i chi am ddatblygu eich sgiliau digidol
  • Trafod eich adroddiad Offeryn Darganfod Digidol

📍 Byddwn yn yr Hwb Sgiliau (a ddangosir gan y seren ar y ddelwedd isod) yn Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen ar y dyddiau Mawrth a Mercher canlynol o 11:00-12:00 drwy gydol Semester 2. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk.

Dydd Mawrth
⏰ 11:00-12:00
Dydd Mercher
⏰ 11:00-12:00
16 Ionawr ’2424 Ionawr ’24
30 Ionawr ’247 Chwefror ’24
13 Chwefror ’2421 Chwefror ’24
27 Chwefror ’246 Mawrth ’24
12 Mawrth ’2420 Mawrth ’24
Dim sesiynau dros y PasgDim sesiynau dros y Pasg
16 Ebrill ’2424 Ebrill ’24
30 Ebrill ’248 Mai ’24

Nadolig Llawen gan y Tîm Sgiliau Digidol! 🎄✨

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i ni i gyd yn y Tîm Sgiliau Digidol! Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi creu amrywiaeth o adnoddau a digwyddiadau newydd, gan gynnwys:

Gobeithiwn fod rhai o’r adnoddau uchod wedi bod yn ddefnyddiol i’ch cefnogi i ddatblygu eich sgiliau digidol eich hun, a hoffem ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd ac edrychwn ymlaen at barhau i’ch cefnogi yn y flwyddyn newydd!

Cyflwyno’r sgwrsfot hyfforddi DA newydd yn LinkedIn Learning 🤖

Oes gennych chi sgiliau penodol rydych chi am eu datblygu, ond angen rhywfaint o arweiniad ar ble i ddechrau? Mae LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein y mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim iddo, newydd ryddhau sgwrsfot hyfforddi newydd a allai helpu i ddatrys y broblem hon!

Beth mae’r sgwrsfot hyfforddi yn ei wneud?

Mae’r sgwrsfot newydd, sydd wedi’i bweru gan DdA (Ddeallusrwydd Artiffisial), yn darparu cyngor ac adnoddau wedi’u teilwra i chi, ac mae’r rhain i gyd wedi’u tynnu’n uniongyrchol o gynnwys LinkedIn Learning.

Gallwch ofyn am gyngor ar heriau rydych chi’n eu hwynebu, neu argymhellion ar sut i ddatblygu sgiliau penodol, a bydd y sgwrsfot yn aml yn gofyn cwestiynau dilynol i chi i sicrhau eich bod yn derbyn yr argymhellion a’r adnoddau gorau.

Awgrymiad Defnyddiol: I gael yr ymateb gorau, cysylltwch eich cyfrif LinkedIn Learning gyda’ch cyfrif LinkedIn personol (sut mae gwneud hynny?), gan bydd y sgwrsfor yn ystyried eich teitl swydd neu lefel eich astudiaethau cyn cynnig argymhellion i chi.

Sut mae cael mynediad at y sgwrsfot hyfforddi?

Gallwch gael mynediad at y sgwrsfot hyfforddi mewn dau le, naill ai o’r brif ddewislen (ar yr ochr chwith), neu o’r dudalen gartref.

Cymorth bellach?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y nodwedd newydd hon, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Rydyn ni hanner ffordd trwy ein Her Dysgu’r Nadolig! 🎄

Rydyn ni hanner ffordd trwy ein Her Dysgu’r Nadolig, ond peidiwch â phoeni, dyw hi ddim yn rhyw hwyr i chi ymuno!

Mae’r her yn rhoi cyfle i staff a myfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau, o awgrymiadau i hybu cynhyrchiant, defnyddio byrlwybrau bysellfwrdd yn Outlook, i ddatblygu arferion cysgu gwell, trwy wylio 12 fideo byr o LinkedIn Learning dros 12 diwrnod.

Sut mae ymuno â’r her?

Y cam cyntaf fydd actifadu eich cyfrif LinkedIn Learning. Wedi i chi wneud hynny, mae dwy ffordd i chi ymuno â’r her:

  • Gallwch naill ai ddilyn y dolenni o’r calendr isod bob dydd o’r her
  • Neu gallwch ddilyn ein Llwybr Dysgu Her Dysgu’r Nadolig (sydd hefyd yn ymddangos ar frig dudalen gartref LinkedIn Learning pan fyddwch chi wedi mewngofnodi).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich 12 diwrnod o ddysgu!

Ymunwch â’n Her Dysgu’r Nadolig! 🎄

Mae ein Her Dysgu’r Nadolig yn cychwyn yfory, Dydd Mercher 6 Rhagfyr! Rydym wedi casglu 12 fideo byr o LinkedIn Learning i chi wylio a dysgu ohonynt dros y 12 diwrnod gwaith nesaf. Mae’r cynnwys hyn yn amrywio o 1-8 munud a byddant yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau – o awgrymiadau i hybu cynhyrchinat, defnyddio byrlwybrau bysellfwrdd yn Outlook, i ddatblygu arferion cysgu gwell.

Sut mae ymuno â’r her?

Y cam cyntaf fydd actifadu eich cyfrif LinkedIn Learning. Wedi i chi wneud hynny, mae dwy ffordd i chi ymuno â’r her:

  • Gallwch naill ai ddilyn y dolenni o’r calendr isod bob dydd o’r her
  • Neu gallwch ddilyn ein Llwybr Dysgu Her Dysgu’r Nadolig (sydd hefyd yn ymddangos ar frig dudalen gartref LinkedIn Learning pan fyddwch chi wedi mewngofnodi).

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich 12 diwrnod o ddysgu!

TipDigi 12 – Cael Microsoft Word i Ddarllen yn Uchel i chi 🔊

A ydych yn ei chael yn haws gwirio dogfen neu neges ebost pan fyddwch yn gallu clywed yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu? Yn ffodus, mae yna gyfleuster defnyddiol o’r enw Darllen yn Uchel (Read Aloud) a all chwarae testun ysgrifenedig yn ôl ar lafar, ac mae ar gael yn sawl un o apiau Microsoft 365, gan gynnwys Word ac Outlook. Gall ddarllen testun Cymraeg a Saesneg yn ogystal â sawl iaith arall. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn: 

  • Y cam cyntaf yw sicrhau bod eich testun yn yr iaith gywir ar gyfer prawfddarllen. Amlygwch y testun a dewiswch Adolygu (Review)
  • Dewiswch Iaith (Language), ac yna Gosod Iaith Prawfddarllen (Set Proofing Language)  
  • Dewiswch eich dewis iaith ac yna cliciwch Iawn (OK)
  • Symudwch eich cyrchwr i ddechrau’r darn o destun yr ydych am iddo gael ei ddarllen yn uchel  
  • Dewiswch Adolygu (Review) ac yna Darllen yn Uchel (Read Aloud) 
  • Gallwch newid yr iaith a’r llais darllen 

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

TipDigi 10 – Taflu syniadau newydd gan ddefnyddio’r bwrdd gwyn yn MS Teams 💡

Oes angen i chi daflu syniadau newydd â’ch cymheiriaid ar gyfer aseiniad grŵp? Neu efallai fod gennych brosiect gwaith yr hoffech drafod syniadau newydd ar ei gyfer â’ch cydweithwyr? Mae’r bwrdd gwyn yn Microsoft Teams yn adnodd gwych ar gyfer hynny ac mae’n cynnig ystod o dempledi i chi ddewis ohonynt.

Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae dechrau arni, neu cliciwch ar y ddolen hon os hoffech wylio’r fideo â chapsiynau caeedig.

Byddwn hefyd yn dangos sut i ddefnyddio’r bwrdd gwyn yn ystod ein sesiwn Mastering group work with online tools and strategies prynhawn yma (7 Tachwedd, 15:00-16:00) fel rhan o’r Ŵyl Sgiliau Digidol! Gallwch ymuno â’r sesiwn hon yn uniongyrchol o raglen yr ŵyl.

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos! 

Ymunwch â ni wythnos nesaf ar gyfer yr Ŵyl Sgiliau Digidol! 🎆

Bydd Gŵyl Sgiliau Digidol gyntaf erioed Prifysgol Aberystwyth ar gyfer myfyrwyr yn cael ei chynnal wythnos nesaf rhwng 6 a 10 Tachwedd 2023!

Drwy gydol yr wythnos, bydd 28 o ddigwyddiadau yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau digidol cyfoes. Bydd y digwyddiadau’n cynnwys cyflwyniadau ar Ddeallusrwydd Artiffisial, diogelwch ar-lein, lles digidol, rheoli eich ôl troed digidol, a defnyddio’r Gymraeg ar eich cyfrifiadur. Yn ogystal, bydd siaradwyr allanol o gwmnïau megis Barclays a Clicky Media yn trafod y sgiliau digidol sydd eu hangen i ragori yn eu cwmnïau eu hunain a chwmnïau tebyg. Yn olaf, bydd hefyd sawl gweithdy rhyngweithiol ar bynciau megis defnyddio meddalwedd fel Microsoft Excel a sut i feistroli gwaith grŵp gydag amryw o offer ar-lein.  

Bydd pob myfyriwr sy’n mynychu tair sesiwn ar-lein yn cael eu cynnwys mewn raffl lle bydd cyfle iddynt ennill un o ddwy daleb gwerth £50

Gallwch weld manylion pob sesiwn ac archebu eich lle drwy raglen yr Ŵyl Sgiliau Digidol, neu gallwch hefyd weld beth sydd ymlaen pob dydd o’r delweddau isod!