Mae proffil wythnos hon gan Jay, sydd wedi bod yn ymwneud â gwaith cadwraeth ymarferol gyda’r RSPB ers graddio o Aberystwyth. Maent yn dymuno y byddent wedi buddsoddi mwy o amser yn gwella eu gallu i ddefnyddio meddalwedd dadansoddi ystadegol, ac yn dysgu sut i ddefnyddio meddalwedd GIS yn ystod eu hamser yn Aberystwyth. Mae llawer o gyrsiau ar gael o LinkedIn Learning os oes gennych ddiddordeb hefyd mewn datblygu’r sgiliau penodol hyn.
Dadansoddi ystadegol:
- Statistics Foundations 1: The Basics (33m)
- SPSS Statistics Essential Training (2019) (5h 49m)
- Excel Statistics Essential Training (3h 36m)
- Python Statistics Essential Training (2h 39m)
GIS (Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol):
- Introduction to ArcGIS Online (3m)
- Foundations of Geographic Information Systems (GIS) (59m)
- ArcGIS Pro Essential Training (3a 47m)
Testun yn unig:
Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? 2022
Beth fuoch chi’n ei astudio? – Swoleg
Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? “Yn y 6 mis diwethaf rwyf wedi cael swydd wirfoddol mewn gwarchodfa RSPB yn yr Alban ond dwi newydd gael swydd am dâl am 3 mis yn arolygu adar môr ar Ynysoedd Sili gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol”.
Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich swydd? –
Llythrennedd data a gwybodaeth – “Dwi wedi gwneud llawer o fewnbynnu data a gweithio gydag Excel a hefyd teipio nodiadau ysgrifenedig ar daenlenni. Hefyd ysgrifennu adroddiadau gyda rhywfaint o ddadansoddi ystadegau ond mae hyn wedi’i wneud yn bennaf gydag Excel hefyd”.
Dysgu digidol – “Gan fy mod i’n gweithio yn yr RSPB dwi wedi gorfod defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) a doeddwn i ddim wedi defnyddio’r rheiny tan oeddwn i yn yr RSPB gan nad oedden nhw’n rhan o fy nghwrs i”.
Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?
“Byddai wedi bod yn ddefnyddiol dysgu GIS a hefyd efallai rhai sgiliau creu mapiau ar lefel ragarweiniol ac efallai cael cyrsiau ar lefelau gwahanol felly ar gyfer dechreuwyr, canolradd ac uwch er enghraifft. Byddai diddordeb gen i hefyd mewn defnyddio meddalwedd dadansoddi delweddau achos byddai hynny wedi bod yn dda ar gyfer fy nhraethawd hir ond hefyd gwaith felly er enghraifft fe allwn i uwchlwytho delwedd o gwmwl o ddrudwy a byddai’n awtomatig yn cyfrif faint o adar sydd yna”.
Oes unrhyw wendidau cyffredin mewn sgiliau digidol y byddwch chi’n sylwi arnyn nhw ymysg eich cydweithwyr?
“Oes, ystadegau. Roedd hi fel petai nad oedd e’n clicio i rai pobl a bod dim mwy o gefnogaeth ar gael – roedd hi fel petai angen ichi ailadrodd y drefn. Roedd yr adnoddau i gyd yna ichi ddysgu, sy’n beth da”.