Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Wythnos 1 (Francesca Hughes)

Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

*Darllenwch fy mlog cyntaf i ddysgu mwy am ein Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion*

Francesca yw ein myfyriwr graddedig cyntaf i gael ei chyfweld ac mae hi bellach yn gweithio fel ysgrifennydd cynorthwyol o fewn y GIG a byddai wedi hoffi gwella ei gwybodaeth a’i medrusrwydd o ran defnyddio MS Excel cyn iddi raddio. 

Mae dau ddigwyddiad yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol (6-10 Tachwedd 2023) ar ddefnyddio Excel at ddefnydd bob dydd yn ogystal â gweithio gyda setiau mwy cymhleth o ddata. I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru eich lle ar unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl, ewch i edrych ar y rhaglen

Fersiwn Testun:

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth?

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Troseddeg

Beth ydych chi’n ei wneud nawr yn broffesiynol ers graddio? – Rwy’n gweithio i’r Gwasanaeth Iechyd fel Ysgrifennydd Cynorthwyol yn Adran Oncoleg Ysbyty Brenhinol Amwythig.

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich swydd? 

Cydweithredu a Chyfathrebu Digidol – “anfon negeseuon ebost a defnyddio MS Teams i gyfathrebu â chydweithwyr”.

Datrys Problemau Digidol – “mae’r Gwasanaeth Iechyd yn defnyddio llawer o hen systemau felly rwy’n aml yn delio â meddalwedd wedi chwalu, cyfrifiaduron wedi rhewi, ffeiliau wedi’u llygru a’u dileu”.

Dysgu Digidol – “Roedd rhaid imi ddysgu sut i ddefnyddio Excel ar gyfer taenlenni a sut i ddefnyddio system lythyrau ddigidol awtomataidd y Gwasanaeth Iechyd er mwyn llenwi manylion cleifion ar ffurflenni”.

Hunaniaeth Ddigidol – “mae gan y Gwasanaeth Iechyd ganllawiau ar sut i gyflwyno’ch hun ar-lein a sut i drin data cleifion yn iawn yn unol â’r rheoliadau diogelu data.”

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Fe hoffwn i pe bawn i wedi defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael imi a’u harchwilio’n fwy yn hytrach na’u defnyddio ar gyfer yr hyn roedd ei angen yn fy modiwlau a’m haseiniadau yn unig. Fe hoffwn i hefyd pe bawn i wedi archwilio neu wedi cael fy nysgu mwy ar Excel gan fy mod i’n defnyddio hwnnw gymaint yn fy swydd i ac rwy’n credu mai dim ond yr hanfodion roeddwn i’n gwybod amdanyn nhw wrth imi ddechrau”.

Oes unrhyw wendidau cyffredin mewn sgiliau digidol y byddwch chi’n sylwi arnyn nhw ymysg eich cydweithwyr?

“Oes, gwendidau enfawr yn bendant mewn sgiliau datrys problemau digidol o ran gwybod sut i drwsio materion technegol pan maen nhw’n digwydd yn ogystal â sgiliau llythrennedd gwybodaeth ynglŷn â defnyddio cyfrifiaduron yn gyffredinol”. 

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*