Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA – Wythnos 2 (Korneliusz Smalec)

Korneliusz yw ein hail fyfyriwr graddedig yn ein cyfres o Broffiliau Sgiliau Digidol. Mae Korneliusz wedi bod yn gweithio ar bortffolio o waith ar gyfer gyrfa ar ôl ei radd Gwneud Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth. Byddai wedi hoffi cael dod yn fwy ymwybodol o bwysigrwydd ei ôl troed digidol pan oedd yn y brifysgol a’r wythnos nesaf ar Ddydd Mercher 9 Tachwedd mae gennym ddigwyddiad yn ymdrin â Gwella eich Ôl-troed Digidol a’ch Cysgod Ar-lein fel rhan o’n Gŵyl Sgiliau Digidol (6-10 Tachwedd 2023). I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru eich lle ar unrhyw ddigwyddiadau yn yr ŵyl, ewch i edrych ar y rhaglen

*Cliciwch yma i ddarllen yr holl blogbyst eraill yn ein Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion PA*

Fersiwn testun:

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth?

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Gwneud ffilmiau

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? – “Dwi wedi bod yn creu portffolio o fy ngwaith, diweddaru fy CV, gwneud cardiau busnes, cael trwydded yrru a gwneud gwaith gwirfoddol fel helpu gyda ffotograffiaeth digwyddiadau”.

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio’n aml? –

Creadigrwydd digidol – “Rwy’n eitha medrus mewn Photoshop, meddalwedd golygu, meddalwedd golygu ffilm a fideo a meddalwedd sgriptio fel Trelby”.

Llythrennedd data a hyfedredd digidol – “Defnyddies i Excel i gasglu a chyflwyno data o sioe dalent ac yna cyfri’r data. Rwy’n teimlo’n hyderus mewn sgiliau cyfrifiadurol sylfaenol ac mae’n well gen i Gwglo unrhyw broblemau yn gynta cyn troi at arbenigwr Technoleg Gwybodaeth felly datrys problemau digidol hefyd”.

Llythrennedd Gwybodaeth – “Dysges i sut i Gwglo pethau’n effeithlon trwy ddefnyddio geiriau allweddol”.

Ôl troed digidol – “Rwy’n ceisio bod yn ymwybodol o fy ôl troed digidol a pheidio â rhoi gormod o wybodaeth i Google, rwy’n ymfalchïo cyn lleied o wybodaeth sydd gan Google amdana i! Dwi ddim yn defnyddio TikTok chwaith oherwydd pryderon diogelwch”.

Oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn ichi raddio?

“Mewn byd delfrydol byddai’n wych gwybod sut i gymryd rheolaeth lawn o’ch ôl troed digidol ond galla i werthfawrogi nad yw hyn yn bosibl mewn gwirionedd. Ond efallai y byddai’n syniad da cael rhaglenni gorfodol ar gyfer diogelwch a phreifatrwydd ar-lein a sut gall y pethau rydych chi’n eu dweud ar-lein gael eu defnyddio yn y dyfodol”.

Ble wnaethoch chi ddysgu’r sgiliau digidol hyn?

“Dysges i’n bennaf am yr holl wahanol feddalwedd creu digidol yn y brifysgol a defnyddies i fy nisgownt myfyriwr i gael pethau fel Adobe Cloud. Dysges i sut i ddefnyddio cryn dipyn o raglenni drwy jyst chwarae o gwmpas a gwylio ambell i diwtorial”.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*