Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion – Wythnos 5 (Weronika Krzepicka-Kaszuba)

Proffil myfyriwr graddedig cyntaf Semester 2 yw proffil Weronika, sydd â phrofiad helaeth o ddefnyddio meddalwedd golygu lluniau a fideo, ond mae’n dymuno iddi fod wedi dysgu mwy am gysylltu â gweithwyr proffesiynol eraill ar wefannau rhwydweithio fel LinkedIn cyn iddi adael Prifysgol Aberystwyth. Os oes gennych ddiddordeb hefyd mewn dysgu sut i ddefnyddio LinkedIn, edrychwch ar y sesiwn LinkedIn gyda Gwasanaeth Gyrfaoedd PA yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol ddiweddar.

Fersiwn Testun:

Pryd wnaethoch chi raddio o Brifysgol Aberystwyth? 2022

Beth fuoch chi’n ei astudio? – Celfyddyd gain ac astudiaethau ffilm a theledu.

Beth ydych chi’n ei wneud yn broffesiynol ers graddio? – “Ar hyn o bryd dwi’n gweithio ym maes lletygarwch ond dyw hi ddim yn swydd barhaol, dwi’n chwilio am swydd ym maes cynhyrchu ffilmiau ac yn y cyfamser dwi’n gweithio ar fy CV ac yn creu gwefan portffolio”.

Pa sgiliau digidol ydych chi’n eu defnyddio yn eich swydd? – Creadigrwydd digidol – “Dwi’n golygu lluniau gyda Photoshop, dwi wrthi’n creu gwefan gyda WordPress ac yn defnyddio Instagram i adeiladu presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol”.

Hyfedredd digidol – “Gweithio gyda meddalwedd i gofnodi archebion ar y til a chymryd taliadau cardiau digidol”.

Llythrennedd data – “Dwi’n defnyddio taenlenni i gofnodi treuliau a dwi wrth fy modd efo cyfrifiaduron felly dwi’n defnyddio lot arnyn nhw ar gyfer ymchwil, er enghraifft ffeindio doctor ar gyfer fy ffrind sy’n siarad Pwyleg yn unig.”

A gawsoch chi unrhyw gefnogaeth gyda’ch sgiliau digidol ym Mhrifysgol Aberystwyth? “Do, roedd help gyda meddalwedd yn y darlithoedd a dwi’n cofio cael llawer o negeseuon ebost yn ein hatgoffa ni am y cymorth sydd ar gael. Dwi’n gwybod fy mod i wedi cael help gan y Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer Outlook / ebost”.

A oes unrhyw sgiliau digidol yr hoffech fod wedi’u dysgu cyn graddio? – “Do, mwy o gymorth i ddefnyddio LinkedIn a chwilio am bobl a swyddi. Rwy’n ei chael hi’n anodd i’w ddeall ac rwy’n gorfod ei ddysgu i mi fy hun nawr”.

Oes unrhyw wendidau cyffredin mewn sgiliau digidol y byddwch chi’n sylwi arnyn nhw ymysg eich cydweithwyr? “Cymhwyso ymchwil at sgiliau digidol neu ddatrys problemau digidol”.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*