Syniadau ac Awgrymiadau Microsoft Excel (Rhan 1)💡

Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Ydych chi’n cael ymdeimlad o arswyd bob tro y mae’n rhaid i chi ddefnyddio Excel yn ystod eich gradd? Wel, rydyn ni yma i helpu! Bydd angen defnyddio Excel ar ryw adeg ar gyfer nifer o gynlluniau gradd er mwyn dadansoddi data, gwneud cyfrifiadau mathemateg, creu graff neu siart, rheoli prosiectau a llawer mwy.

Gall Excel ymddangos yn gymhleth ac yn frawychus i rai, yn enwedig os ydych chi’n gymharol newydd iddo, felly rydw i wedi llunio rhestr o syniadau ac awgrymiadau yn ogystal â chasgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning i’ch rhoi ar ben ffordd.

Cadwch lygad ar ein blog ddiwedd yr wythnos, gan y byddaf yn cyhoeddi ail ran y blogbost hwn, a fydd yn cynnwys 5 o syniadau ac awgrymiadau eraill ar ddefnyddio Excel!

Awgrym 1: Llwybrau byr defnyddiol ar y bysellfwrdd

Mae llwybrau byr bysellfwrdd yn golygu pwyso mwy nag un fysell ar yr un pryd a thrwy eu cofio, gall arbed llawer iawn o amser i chi, er enghraifft defnyddio CTRL+A i ddewis yr holl gelloedd mewn taenlen. Cymerwch olwg ar y rhestr ganlynol o’r rhai da i’w dysgu:

Ctrl + NCreu llyfr gwaith (workbook) newydd
Ctrl + OAgor llyfr gwaith sy’n bodoli eisoes
Ctrl + SCadw’r llyfr gwaith gweithredol
F12Cadw’r llyfr gwaith gweithredol o dan enw newydd – Bydd hyn yn dangos y blwch deialog Save As
Ctrl + WCau’r llyfr gwaith gweithredol
Ctrl + CCopïo cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + XTorri cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + VGludo/mewnosod cynnwys y Clipfwrdd yn y celloedd a ddewiswyd
Ctrl + ZDadwneud eich gweithred ddiwethaf
Ctrl + PAgor y dialog argraffu
Alt + HAgor y tab cartref
Alt + NAgor y tab mewnosod
Alt + PAgor y tab cynllun tudalen
Ctrl + SArbed y llyfr gwaith
Ctrl + 9Cuddio’r rhesi a ddewiswyd
Ctrl + 0Cuddio’r colofnau a ddewiswyd

Read More

Casgliadau LinkedIn Learning i gefnogi myfyrwyr sy’n paratoi ar gyfer eu harholiadau

Wrth i dymor yr arholiadau agosáu, rydym wedi paratoi ambell gasgliad ar Linkedin Learning i’ch helpu i gael gwared ar y straen arholiadau, ac i’ch helpu i adolygu’n fwy effeithiol.

Mae gan y casgliad hwn rai awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i adolygu ac astudio ar gyfer eich arholiadau.

Gall tymor yr arholiadau fod yn gyfnod heriol i fyfyrwyr. Mae’r casgliad hwn yn cynnig rhai strategaethau a chyngor er mwyn ichi allu rheoli eich straen adeg yr arholiadau.

Mae gan holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth fynediad am ddim i LinkedIn Learning. Gweler ein cyfarwyddiadau mewngofnodi ac atebion i rai Cwestiynau Cyffredin i’ch helpu yn ystod amser arholiadau.

Deg awgrym mwyaf poblogaidd y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth

Banner with Student Digital Champion
Gall cychwyn yn y brifysgol fod yn brofiad heriol, a gall ceisio deall yr agweddau TG ar fywyd prifysgol fod yn ddryslyd. Felly, rydym wedi creu casgliad o awgrymiadau a fideos defnyddiol fel y gallwn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein gwasanaethau TG a llyfrgell ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Awgrym 1: Ble mae popeth yn Llyfrgell Hugh Owen? Gwyliwch y daith rithiol hon o’r llyfrgell:

Awgrym 2: Pa adeiladau ar y campws sydd ag argraffwyr i fyfyrwyr? Dyma leoliad pob argraffydd ar y campws.

Awgrym 3: Sut mae argraffu ar un o argraffwyr y Brifysgol? Gwyliwch y fideo byr hwn:

Awgrym 4: Sut mae ychwanegu arian at fy Ngherdyn Aber? Mewngofnodwch i’ch cyfrif yma i ychwanegu arian at eich Cerdyn Aber.

Read More

LinkedIn Learning: Pa sgiliau newydd y gallech chi eu dysgu?

Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Mae Linkedin Learning yn llwyfan dysgu ar-lein rhad ac am ddim gyda thros 16,000 o gyrsiau ar bopeth o ddatblygiad personol, dylunio, gweithgareddau creadigol, sgiliau astudio, cymorth technegol a llawer mwy! Edrychwch ar y cynnwys hwn o’n cyfrif Instagram @ISAberUni Gwasanaethau Gwybodaeth i gael rhai awgrymiadau a thriciau i’ch rhoi ar ben ffordd. 

Cofrestrwch eich cyfrif erbyn 6 Ionawr 2023 er mwyn cael eich cynnwys mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o dair taleb gwerth £20!

Cliciwch Darllen Mwy isod ar gyfer fersiwn testun o’r delweddau hyn.

Read More

Dewch i ymweld â’n stondin LinkedIn Learning dros yr Wythnos Groeso!

Post blog gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Mae LinkedIn Learning, sy’n blatfform dysgu ar-lein, ar gael am ddim i bob myfyriwr. Mae gan ein stondin wybodaeth am y platfform ac mae’n dangos enghreifftiau o’r math o fideos byr, cyrsiau a sgiliau y gallwch ddod o hyd iddynt yno.

Yn fwy na hynny, os cofrestrwch chi i LinkedIn Learning erbyn diwedd yr Wythnos Groeso, a gallwch wneud hynny ar-lein neu drwy ddefnyddio’r cod QR ar ein stondin, byddwch yn cael eich cynnwys mewn raffl lle bydd cyfle gennych ennill un o dair taleb gwerth £20!

Mae ein stondin wedi’i leoli ar lawr gwaelod Llyfrgell Hugh Owen (Lefel D) yn y cefn ger y grisiau.