Cofiwch lawrlwytho eich adroddiadau o’r Offeryn Darganfod Digidol 📲

Mae ychydig dros fis yn weddill tan i’n tanysgrifiad i Offeryn Darganfod Digidol Jisc ddod i ben ar 31 Gorffennaf 2024.

Os hoffech gadw copïau o’ch adroddiadau unigol, gwnewch yn siŵr eich bod wedi eu lawrlwytho cyn y dyddiad hwn, gan na fyddwch yn gallu cael mynediad atynt ar ôl 31 Gorffennaf 2024. Mae’r Cwestiwn Cyffredin hwn yn darparu canllaw cam wrth gam ar sut i wneud hyn.

Os nad ydych wedi defnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol o’r blaen, mae gennych amser o hyd i fewngofnodi a’i ddefnyddio i hunanasesu a datblygu’ch hyder gyda thechnoleg! Ewch i’n tudalen we am ragor o arweiniad.

Meistrolwch eich sgiliau technoleg gyda Chyrsiau Canllaw Cyflawn newydd LinkedIn Learning 👨‍💻

Blogbost gan Sioned Llywelyn (Arweinydd Sgiliau Digidol)

Mae Cyrsiau Canllaw Cyflawn bellach ar gael yn LinkedIn Learning i bawb ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r cyrsiau hyn yn wych i’r rhai sydd eisiau datblygu sgiliau technoleg penodol gyda hyfforddwyr arbenigol. P’un ai eich bod yn ddechreuwr sy’n ceisio dysgu rhaglen newydd o’r dechrau, neu fod gennych brofiad a’ch bod eisiau datblygu ymhellach, gallai’r cyrsiau hyn fod yn berffaith i chi.

Dyma enghraifft o rai o’r cyrsiau Canllaw Cyflawn sydd ar gael gyda rhai newydd yn cael eu rhyddhau bob mis:

Sgrinlun o’r cwrs Canllaw Cyflawn i Power BI

Beth yw manteision Cyrsiau Canllaw Cyflawn?

  1. Maent yn para 5 awr neu fwy o hyd, sy’n sicrhau y byddwch yn meithrin dyfnder o wybodaeth yn y pwnc dan sylw
  2. Maent wedi’u trefnu i benodau a fideos byr hawdd eu trin sy’n golygu y gallwch edrych ar ddarn penodol o’r cwrs yn unig os oes angen
  3. Mae llawer o’r cyrsiau hyn yn cynnwys nodweddion ymarferol, gan roi cyfle i chi ymarfer yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Ail-wylio: Nodyn i’ch atgoffa am adnoddau’r Ŵyl Sgiliau Digidol ⏪

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Ym mis Tachwedd 2023, cynhaliwyd Gŵyl Sgiliau Digidol gyntaf Prifysgol Aberystwyth. Gwnaethom gynnal 28 o ddigwyddiadau gwahanol dros 5 diwrnod a oedd yn rhychwantu amrywiaeth o feysydd sgiliau digidol gan gynnwys sesiynau a gynhaliwyd ar Ddeallusrwydd Artiffisial, seiberddiogelwch, LinkedIn Learning, lles digidol, Excel a llawer mwy!  

Gallwch weld yr holl weithdai a chyflwyniadau a gynhaliwyd ar wefan yr Ŵyl Sgiliau Digidol o dan y tab recordiadau ac adnoddau 2023 lle gallwch wylio’r sesiynau eto ac ar gyfer sesiynau ymarferol gallwch weithio ar y taflenni gwaith a ddarperir.  

Os oes gennych unrhyw broblemau wrth gael mynediad i’r recordiadau, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol yn digi@aber.ac.uk a chadwch lygad am wybodaeth sydd ar ddod am Ŵyl Sgiliau Digidol 2024 a fydd yn dychwelyd yn ddiweddarach eleni! 

Diolch i Bencampwyr Digidol Myfyrwyr ’23-24

Banner with Student Digital Champion

Wrth i ni ffarwelio â’r Pencampwyr Digidol Myfyrwyr ‘23-24, Laurie, Joel, a Noel, hoffem ddiolch iddynt am eu cyfraniadau gwych dros y flwyddyn ddiwethaf. Maent wedi gweithio’n ddiflino i annog myfyrwyr ledled y brifysgol i ddatblygu eu sgiliau digidol ac wedi rhoi cipolwg gwerthfawr i ni ar ba gymorth sydd ei angen ar fyfyrwyr.

Laurie Stevenson
Noel Czempik
Joel Williams

Os nad ydych wedi edrych ar eu gwaith eto, mae gennym restr o rai o’r uchafbwyntiau isod:

  • Cyfresi Proffil Sgiliau Digidol
    • Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Graddedigion – 8 o broffiliau graddedigion diweddar PA am eu defnydd o sgiliau digidol yn eu bywydau ers graddio, a’r sgiliau yr hoffent fod wedi eu datblygu ymhellach cyn iddynt adael Aberystwyth.
    • Cyfres Proffil Sgiliau Digidol Cyflogwyr – Mae’r pencampwyr hefyd wedi bod yn gweithio ar gyfres o broffiliau gydag 8 cyflogwr. Cadwch lygad ar y blog gan y bydd y rhain yn cael eu rhyddhau yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf!

Ystyriwch eich Lles Digidol ar Ddiwrnod Lles Byd-eang 🧘🏻‍♀️

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Mae 8 Mehefin 2024 yn Ddiwrnod Lles Byd-eang, diwrnod i fyfyrio ar eich lles a’ch iechyd meddwl. Eleni cyflwynodd Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr Gyfres Lles Digidol a oedd yn ymdrin ag ystod eang o fywyd digidol i helpu i wella lles digidol eraill gydag awgrymiadau a thriciau.  

Fe wnaethant ystyried ergonomeg ddigidol gan gynnwys creu casgliad LinkedIn Learning am y gosodiad gorau ar gyfer eich desg a chyngor ar sut i leihau straen llygaid drwy’r rheol 20-20-20 a galluogi modd tywyll. Dechreuodd un o’n hyrwyddwyr digidol ar gyfnod o ddadwenwyno digidol a oedd yn cynnwys dileu pob ap cyfryngau cymdeithasol, analluogi hysbysiadau, disodli ID wyneb gyda chyfrinair bwriadol a bod yn fwy ystyriol o’r rheswm y maent ar eu ffôn. Fe wnaethant adrodd am y manteision, yr anfanteision a rhoi cyngor i unrhyw un arall sy’n awyddus i roi cynnig ar ddadwenwyno digidol. 

Yn ogystal, gwnaeth ein hyrwyddwr digidol ddarganfod bod ap ScreenZen yn fendith yn ystod eu dadwenwyno digidol i helpu i orfodi ffiniau gwell wrth ryngweithio ag apiau a dod yn fwy ymwybodol o’ch defnydd digidol. Edrychodd y gyfres Lles Digidol hefyd ar bwysigrwydd trefnu eich gofodau digidol, gan gynnwys creu ffolderi gwell, addasu eich sgriniau cartref, a chlirio eich ffolder lawrlwytho.   

Mae adnoddau lles digidol eraill yn cynnwys blogbost ar gyfer unrhyw ddefnyddiwr iPhone am y nodweddion sydd ar gael yn y gosodiadau i helpu gyda’ch terfyn amser sgrin a nodwedd i helpu i gadw pellter eich ffôn i leihau straen llygaid.

Os hoffech edrych ar adnoddau pellach, mae croeso i chi edrych ar yr adran lles digidol ar y Llyfrgell Sgiliau Digidol neu yng nghasgliad LinkedIn Learning. Gallwch hefyd weld y sesiwn lles digidol a gynhaliwyd gennym yng Ngŵyl Sgiliau Digidol 2023

Natur ar flaenau eich bysedd: Fy hoff apiau ar gyfer mwynhau’r awyr agored 🍃🌻

Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Gyda’r dyddiau’n ymestyn a’r tymheredd yn codi, mae llawer yn dyheu am dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. Er mwyn gwella eich anturiaethau yn yr awyr agored, rwyf wedi llunio rhestr o fy hoff apiau am ddim a fydd, gobeithio, yn ennyn eich chwilfrydedd ac yn dyfnhau eich gwerthfawrogiad o natur.

AllTrails

Mae AllTrails yn ganllaw poced i lwybrau cerdded, llwybrau beicio a mannau natur sy’n addas ar gyfer gwahanol lefelau a galluoedd. Mae’r ap yn caniatáu i chi gynllunio eich antur nesaf, boed yn fach neu’n fawr ac yn eich helpu i ddarganfod lleoedd newydd neu ddychwelyd i’ch hoff fannau!

Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:

  • Gallwch chwilio am lwybrau yn ôl lleoliad a hidlo yn ôl y math o weithgaredd, anhawster, hygyrchedd a hyd.
  • Gallwch gael mynediad at wybodaeth fanwl am y llwybrau, gan gynnwys disgrifiadau trylwyr o’r llwybrau, tywydd presennol ac amodau’r ddaear, a’r cyfleusterau sydd ar gael.
  • Gallwch wirio’r adolygiadau a’r lluniau i’ch helpu i benderfynu ai dyma’r llwybr cywir i chi.
  • Cadwch eich hoff lwybrau a’u rhannu ag eraill yn yr ap.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

Seek gan iNaturalist

Ydych chi erioed wedi gweld planhigyn tra’ch bod allan yn cerdded ac wedi meddwl tybed beth ydoedd? Mae Seek yn eich galluogi i adnabod rhywogaethau o blanhigion, anifeiliaid a ffyngau yn ddiymdrech wrth fynd. Nid oes angen cofrestru’r ap; lawrlwythwch yr ap a’i bwyntio at bethau byw o’ch cwmpas!

Dyma rai o fy hoff nodweddion yn yr ap:

  • Gallwch bwyntio’r camera o fewn yr ap at yr hyn yr hoffech ei adnabod neu dynnu llun a’i uwchlwytho i’r ap yn nes ymlaen.
  • Gallwch ddysgu mwy am dacsonomeg, natur dymhorol a tharddiad daearyddol y rhywogaeth.
  • Gallwch ymgysylltu â chymuned a rhannu’r rhywogaethau rydych chi wedi’u canfod gyda’r ap. Mae PlantNet yn ap arall sy’n ddefnyddiol os ydych chi am fod yn rhan o brosiect gwyddoniaeth dinasyddion ar fioamrywiaeth planhigion.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple

SkyView Lite

Yr ap olaf yr hoffwn ei rannu gyda chi yw SkyView Lite. Mae’r ap hwn yn cynnwys map awyr rhyngweithiol sy’n caniatáu i ddefnyddwyr adnabod sêr, planedau a gwrthrychau wybrennol eraill. Mae’r ap yn reddfol, yn gywir ac yn hawdd ei bersonoli. Yng Nghymru, mae’r tywydd yn aml yn gallu bod yn anrhagweladwy, ac mae awyr glir yn aml yn dod fel syndod. Gyda SkyView wrth law, gallwch fanteisio i’r eithaf ar syllu digymell ar y sêr!

Fy hoff bethau am yr ap yw:

  • Nid oes angen cysylltiad rhyngrwyd na GPS ar yr ap, felly gellir ei ddefnyddio mewn ardaloedd anghysbell.
  • Tapiwch ar unrhyw wrthrych wybrennol i gael disgrifiad manwl. Tapiwch eto am fwy o wybodaeth a ffeithiau addysgol.
  • Mae’r ap yn gweithio o dan do hefyd, felly gallwch ddysgu unrhyw bryd, waeth beth fo’r tywydd.

📲 Lawrlwytho oddi ar Google Play 📲 Lawrlwytho o Siop Apple