Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n defnyddio dyfeisiau digidol bob dydd, ac yn debyg i fannau ffisegol, yn aml maen nhw’n gallu mynd yn anniben, sy’n effeithio ar ein llesiant a’n cynhyrchedd. Yn y blog hwn, rwyf i’n rhannu’r strategaethau mwyaf effeithiol ar gyfer adennill fy mannau digidol.
Paratoi eich Taith i Ddileu Annibendod
- Ceisiwch edrych ar eich annibendod gyda chwilfrydedd yn hytrach na beirniadu. Bydd hyn yn eich helpu i gadw’n gadarnhaol a deall eich arferion digidol yn well. Dychmygwch yr effaith cadarnhaol y bydd dileu annibendod yn ei gael ar eich llesiant.
- Disgwyliwch i’r broses gymryd amser. Gall sortio drwy gynnwys digidol sydd wedi cronni dros flynyddoedd fod yn frawychus, ond mae mesur maint yr her a neilltuo digon o amser a lle yn gallu ei wneud yn rhwyddach.
- Dechreuwch gyda chamau cyflym fydd yn cael effaith enfawr gydag ymdrech bitw. Bydd hyn yn adeiladu momentwm ac yn golygu y cewch eich grymuso i ymdrin â’r tasgau anoddach.
- Ystyriwch unrhyw deithiau hirach sydd ar y gweill fel cyfleoedd i wneud cynnydd ar eich antur dileu annibendod.
- Gall penderfynu beth i’w gadw a beth i’w ddileu fod yn heriol. Holwch eich hun beth fyddai’n digwydd pe bai popeth yn diflannu.
Camau Cyflym: Gweithredoedd Bach Sy’n Gallu Gwneud Gwahaniaeth Mawr
Mae pob un o’r tasgau 5-10 munud hyn yn fuddiol ar ei phen ei hun, ond wrth i chi weithio drwy’r rhestr, bydd eu heffaith yn cynyddu.
- Glanhau eich bwrdd gwaith: Dilëwch ffeiliau diangen a dewch o hyd i le i’r gweddill er mwyn cyrraedd gwynfyd y ddesg rithwir wag.
- Dileu annibendod eich apiau: Efallai y byddwch yn synnu wrth weld y nifer o apiau ar eich ffôn neu fwrdd gwaith nad ydych chi’n sylwi arnyn nhw mwyach. Dadosodwch unrhyw apiau nad ydych chi’n eu defnyddio i wneud mwy o le a chael gwared ar bethau sy’n tynnu sylw.
- Addasu eich sgrin gartref: Gosodwch yr apiau rydych chi’n dymuno eu defnyddio’n amlach mewn lle hygyrch a chuddiwch y rhai sy’n tynnu sylw mewn ffolderi. Ystyriwch ychwanegu llwybrau byr at restrau fel rhestr siopa, syniadau am anrhegion neu syniadau busnes, sy’n osgoi ychwanegu at yr annibendod gyda phob syniad athrylithgar newydd.
- Adolygu’r gosodiadau hysbysiadau: Gallwch analluogi hysbysiadau dieisiau i osgoi gorlwytho eich sgrin clo.
- Addasu eich bar tasgau a’ch bar mynediad cyflym: Dilëwch neu dad-biniwch nodweddion sydd ddim yn ddefnyddiol i weithredu eich systemau
- Glanhau eich ffolder lawrlwythiadau: Dilëwch ffeiliau diangen a chopïau dyblyg i ryddhau lle.
- Dileu annibendod yn eich porwr: Dilëwch unrhyw estyniadau a llyfrnodau sydd ddim yn cael eu defnyddio i symleiddio eich profiad pori a phiniwch y pethau yr hoffech chi eu defnyddio’n amlach. Ystyriwch lanhau eich cwcis a’ch cache i ddiogelu eich preifatrwydd, ond cofiwch y gallech gael eich allgofnodi neu y caiff eich hoffterau eu dileu ar rai safleoedd.
- Glanhau eich sgrinluniau: Mae’r ffolder sgrinluniau’n aml yn cynnwys ffeiliau un-defnydd.