Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
I gyd-fynd â blogbost a gyhoeddais yr wythnos diwethaf ar sut y gallwch ddefnyddio offer rheoli amser i’ch helpu i feistroli’ch amserlen, rwyf wedi creu ffeithlun (fersiwn testun isod) sy’n crynhoi rhai o’r strategaethau a’r offer allweddol sydd wedi gweithio i mi.
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Wrth i lawlyfrau modiwlau gael eu rhyddhau, gall gwaith a therfynau amser eich llethu’n gyflym iawn. Yn y blogbost hon, byddaf yn dangos rhai o’r rhaglenni yr wyf wedi’u defnyddio i helpu i reoli fy astudiaethau, ac fe ddylent eich cynorthwyo chi hefyd wrth reoli eich llwyth gwaith.
Mae’r ddwy raglen gyntaf, Microsoft–To-Do a Google Tasks, yn gymharol debyg ac yn hawdd i’w defnyddio. Fodd bynnag, mae hyn yn aberthu rhai o’r nodweddion a geir mewn rhaglenni mwy cymleth megis Notion.
Microsoft To Do
Un o’r rhaglenni mwyaf hygyrch i’w hintegreiddio i’ch astudiaethau yw Microsoft-To-Do; ar ei mwyaf sylfaenol, mae’n caniatáu ichi greu tasgau ac yna grwpio’r rhain yn ôl yr angen. Fodd bynnag, y rheswm fy mod yn dueddol o ddefnyddio hon yn amlach nag unrhyw raglen arall yw oherwydd y gallwch hefyd ei defnyddio ar y cyd â rhaglenni Office 365, sy’n ei gwneud yn arbennig o ddefnyddiol gan fod y Brifysgol eisoes yn darparu’r rhain (Gallwch lawrlwytho’r rhain yma).
Mae wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod fy astudiaethau gan ei bod yn dangos unrhyw negeseuon e-bost rwyf wedi tynnu sylw atynt, sy’n golygu nad wyf yn anghofio amdanynt. Felly, rwy’n argymell creu cyfrif gyda’ch e-bost prifysgol, a fydd yn helpu i gysylltu’r cyfan â’i gilydd. Mae ar gael ar Storfa Google Play, Storfa Apiau Apple, ac fel gwefan.
Google Tasks
Dewis arall poblogaidd yw Google Tasks, sydd, fel y nodais yn gynharach, yn debyg i ddarpariaeth Microsoft. Fodd bynnag, mae wedi bod yn ddefnyddiol oherwydd ei bod yn integreiddio â Google Assistant, sy’n ei gwneud hi’n arbennig o hawdd gosod nodiadau atgoffa a thasgau yn gyflym wrth weithio ar rywbeth arall.
Hefyd, os yw’n well gennych ddefnyddio cyfres meddalwedd Google dros Microsoft neu weithio ar ddyfais Apple, mae’n debyg mai’r rhaglen hon fydd yr opsiwn gorau. Mae ar gael ar Storfa Google Play, Storfa Apiau Apple; gallwch ei chyrchu o fewn meddalwedd Google ar y Rhyngrwyd neu fel ategyn Chrome.
Rhaglenni Defnyddiol Eraill
Mae yna lawer o raglenni eraill a all helpu gydag amserlennu; Un o’r rhai mwyaf adnabyddus yw Notion, er ei bod hi’n werth ei chrybwyll mae cromlin ddysg fach. Fodd bynnag, mae’r elfennau sy’n gwneud Notion yn anodd i’w defnyddio yn deillio o ehangder yr opsiynau a’r addasiadau o fewn y rhaglen, sy’n galluogi ichi deilwra eich profiad eich hun.
Os ydych chi’n bwriadu cynllunio gwaith grŵp (ond nad ydych am ddefnyddio Notion), mae’n debyg mai Microsoft Teams yw un o’ch opsiynau gorau. Ynghyd â gallu cyfathrebu fel grŵp, gallwch hefyd greu tab tasgau, sy’n eich galluogi i osod tasgau i’w cwblhau gyda’ch gilydd yn ogystal â rhannu tasgau i bob unigolyn os oes angen.
Creu eich system eich hun
Yr agwedd hanfodol ar ddefnyddio’r holl raglenni hyn yw dod o hyd i’r un a all integreiddio orau i’ch llif gwaith, gan sicrhau bod pa bynnag opsiwn a ddewiswch yn helpu, nid llesteirio. I’r rhai a hoffai gael gwybodaeth fanylach am rai o’r rhaglenni hyn, gallwch ddod o hyd i gasgliad LinkedIn Learning yma.
A ydych yn ei chael yn haws gwirio dogfen neu neges ebost pan fyddwch yn gallu clywed yr hyn yr ydych wedi’i ysgrifennu? Yn ffodus, mae yna gyfleuster defnyddiol o’r enw Darllen yn Uchel(Read Aloud) a all chwarae testun ysgrifenedig yn ôl ar lafar, ac mae ar gael yn sawl un o apiau Microsoft 365, gan gynnwys Word ac Outlook. Gall ddarllen testun Cymraeg a Saesneg yn ogystal â sawl iaith arall. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Y cam cyntaf yw sicrhau bod eich testun yn yr iaith gywir ar gyfer prawfddarllen. Amlygwch y testun a dewiswch Adolygu(Review)
Dewiswch Iaith(Language), ac yna Gosod Iaith Prawfddarllen (Set Proofing Language)
Dewiswch eich dewis iaith ac yna cliciwch Iawn(OK)
Symudwch eich cyrchwr i ddechrau’r darn o destun yr ydych am iddo gael ei ddarllen yn uchel
Dewiswch Adolygu (Review) ac yna Darllen yn Uchel(Read Aloud)
Gallwch newid yr iaith a’r llais darllen
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Os oes angen i chi gynnwys recordiad sgrin yn eich cyflwyniad PowerPoint, gallwch wneud hynny’n uniongyrchol yn PowerPoint heb orfod defnyddio unrhyw feddalwedd arall! Agorwch PowerPoint, ac yna gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Dewiswch Recordio(Record)
Dewiswch Recordio Sgrin(Screen Recording)
Agorwch y dudalen yr ydych am ei recordio
Cliciwch ar Dewiswch yr Ardal (Select Area) a dewiswch yr union ran o’r sgrin yr ydych am ei recordio
Dewiswch Sain (Audio) os ydych am recordio sain gyda’ch fideo
Dewiswch Recordio (Record) (dylech weld 3, 2, 1 ar eich sgrin cyn bod y recordio’n dechrau) a chwblhewch eich recordiad
Pan fyddwch wedi gorffen eich recordiad, gadewch i’ch llygoden hofran ar dop y sgrin a dewiswch Stop(Stop)
Bydd eich recordiad sgrin yn cael ei ludo’n awtomatig yn eich cyflwyniad PowerPoint
Gallwch olygu eich recordiad drwy glicio ar eich recordiad a dewis Chwarae(Playback)
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Weithiau, mae’n bosibl y bydd angen i chi neilltuo rhywfaint o amser i ganolbwyntio ar ddarn penodol o waith, ond sut mae dangos i bobl eraill sydd hefyd ar-lein eich bod yn brysur? Mae Microsoft Teams yn eich galluogi i osod eich statws ar Peidiwch â tharfu (Do not disturb), sy’n golygu na fydd hysbysiadau neu alwadau Teams yn tarfu arnoch (oni bai eich bod yn dewis eu cael gan bobl benodol). Ond mae’n hawdd anghofio diffodd y statws hwnnw pan fyddwch wedi gorffen.
Yn ffodus, mae Teams yn eich galluogi i osod eich statws am gyfnod penodol. Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Agorwch MS Teams a chliciwch ar eich llun proffil
Cliciwch ar eich statws presennol
Dewsiwch Hyd (Duration)
Dewiswch Peidiwch â tharfu (Do not Disturb) (neu ba statws bynnag yr ydych am iddo ymddangos)
Dewiswch am ba hyd yr ydych am i’r statws hwn ymddangos
Cliciwch ar Cwblhau (Done)
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Mae Cysill yn rhan o becyn meddalwedd iaith y gallwch ei lawrlwytho i’ch cyfrifiadur o’r enw Cysgliad, a bydd Cysill yn medru adnabod a chywiro gwallau Cymraeg yn eich testun. Gallwch ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o Cysill, ond gallwch wirio’ch testun yn llawer haws drwy lawrlwytho’r ap (sut ydw i’n gwneud hynny?).
Ar ôl i chi lawrlwytho ap Cysill, edrychwch ar y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Agorwch ap Cysill a’ch dogfen Word (neu ble bynnag mae eich testun Cymraeg)
Amlygwch y testun rydych chi am i Cysill ei wirio
Teipiwch Ctrl + Alt+ W ar eich bysellfwrdd (bydd hyn yn copïo a gludo eich testun yn uniongyrchol i mewn i Cysill)
Gwiriwch yr holl wallau y mae’r ap yn awgrymu bod angen newid
Cliciwch Cywiro os ydych chi’n hapus â chywiriad y mae’r ap yn ei awgrymu
Unwaith y byddwch wedi gweithio trwy’r holl awgrymiadau, bydd yr ap yn copïo a gludo’r testun wedi’i gywiro yn awtomatig yn ôl i’ch dogfen Word
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Cyhoeddais Ran 1 o’r blogbost hwn yn gynharach yr wythnos hon, lle cyflwynais 5 syniad ac awgrymiad i’ch helpu i wneud y gorau o Excel, ac mae’r blogbost hyn yn cynnwys 5 awgrym pellach! Os ydych chi eisiau dysgu mwy am Excel, ewch i’m casgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning.
Awgrym 6: Ychwanegu nifer o resi neu golofnau ar yr un pryd
Os hoffech chi ychwanegu mwy nag un rhes neu golofn ar yr un pryd bydd yr awgrym hwn yn arbed yr amser o orfod gwneud hyn fesul un.
Amlygwch nifer y rhesi neu’r colofnau yr hoffech eu hychwanegu
Cliciwch fotwm de’r llygoden arnynt
Dewiswch Mewnosod o’r gwymplen sy’n ymddangos
Awgrym 7: Ychwanegu pwyntiau bwled
Nid yw dod o hyd i’r botwm i ychwanegu’r rhain mor hawdd ag y mae ar Microsoft Word ond yn ffodus mae yna gwpwl o ffyrdd i wneud hyn.
Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Ydych chi’n cael ymdeimlad o arswyd bob tro y mae’n rhaid i chi ddefnyddio Excel yn ystod eich gradd? Wel, rydyn ni yma i helpu! Bydd angen defnyddio Excel ar ryw adeg ar gyfer nifer o gynlluniau gradd er mwyn dadansoddi data, gwneud cyfrifiadau mathemateg, creu graff neu siart, rheoli prosiectau a llawer mwy.
Gall Excel ymddangos yn gymhleth ac yn frawychus i rai, yn enwedig os ydych chi’n gymharol newydd iddo, felly rydw i wedi llunio rhestr o syniadau ac awgrymiadau yn ogystal â chasgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning i’ch rhoi ar ben ffordd.
Cadwch lygad ar ein blog ddiwedd yr wythnos, gan y byddaf yn cyhoeddi ail ran y blogbost hwn, a fydd yn cynnwys 5 o syniadau ac awgrymiadau eraill ar ddefnyddio Excel!
Awgrym 1: Llwybrau byr defnyddiol ar y bysellfwrdd
Mae llwybrau byr bysellfwrdd yn golygu pwyso mwy nag un fysell ar yr un pryd a thrwy eu cofio, gall arbed llawer iawn o amser i chi, er enghraifft defnyddio CTRL+A i ddewis yr holl gelloedd mewn taenlen. Cymerwch olwg ar y rhestr ganlynol o’r rhai da i’w dysgu:
Ctrl + N
Creu llyfr gwaith (workbook) newydd
Ctrl + O
Agor llyfr gwaith sy’n bodoli eisoes
Ctrl + S
Cadw’r llyfr gwaith gweithredol
F12
Cadw’r llyfr gwaith gweithredol o dan enw newydd – Bydd hyn yn dangos y blwch deialog Save As
Ctrl + W
Cau’r llyfr gwaith gweithredol
Ctrl + C
Copïo cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + X
Torri cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + V
Gludo/mewnosod cynnwys y Clipfwrdd yn y celloedd a ddewiswyd
Blogbost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Mae’r rhyngrwyd yn lle gwych i gysylltu â ffrindiau, gweithio ar brosiectau, a gwneud arian hyd yn oed. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn defnyddio’r rhyngrwyd i geisio cymryd eich arian CHI! Yn anffodus, mae dulliau twyllo’n dod yn fwyfwy datblygedig ond peidiwch â phoeni, rydw i yma i helpu! Yn y blogbost hwn byddwn yn edrych ar e-byst twyll, beth ydyn nhw, sut i’w hadnabod a beth i’w wneud pan fyddwch chi’n eu derbyn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen tudalen Prifysgol Aberystwyth ar e-byst sbam cyn darllen y blogbost hwn.
Beth yw e-bost gwe-rwydo?
E-bost sydd wedi ei gynllunio i geisio cael eich data personol sensitif yw e-bost gwe-rwydo. Gallai’r data fod ar ffurf eich cyfeiriad, gwybodaeth cerdyn credyd, neu eich manylion banc hyd yn oed! Mae e-byst gwe-rwydo fel arfer yn cael eu gwneud i edrych fel e-byst busnes cyfreithlon fel yr enghraifft isod.
Delwedd o Wikimedia Commons
Mae’n hawdd gweld sut y gallai rhywun gael ei dwyllo gan e-bost gwe-rwydo fel hwn. Yn gyntaf, mae’r e-bost yn rhoi gwybod i’r sawl y mae’n ei dargedu y gallai ei gyfrif banc fod wedi’i beryglu, sy’n annog y darllenwr i weithredu ar frys. Yn ail, does dim byd yn amheus am y cyswllt ar yr olwg gyntaf. Felly sut y gallwch chi ddweud y gwahaniaeth rhwng e-bost busnes cyfreithlon ac e-bost gwe-rwydo?
Blog-bost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Gwneud pethau’n haws
Mae’n bosib mai Microsoft Word yw’r rhaglen gyfrifiaduron fwyaf adnabyddus ym maes academia. Mae bron bob cwrs y gallwch ei ddilyn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn defnyddio Microsoft Word i ryw raddau, gyda rhai cyrsiau yn gofyn i chi wneud mwy na dim ond teipio traethawd. Yn y blog-bost hwn, byddaf yn rhannu ambell dric defnyddiol yn Microsoft Word sydd wedi fy helpu yn ystod fy astudiaethau.
Awgrym 1: Bysellau hwylus
Mae bysellau hwylus yn gyfuniad o fysellau rydych chi’n eu pwyso er mwyn cyflawni swyddogaeth. Er enghraifft, mae pwyso control (ctrl) a C ar yr un pryd ar ôl amlygu testun yn copïo’r testun hwnnw i’ch clipfwrdd. Yn lle clicio’r botwm dde a sgrolio i lawr y gwymplen i Gludo, gallwch bwyso ctrl + V i ludo’r testun.
Gellir defnyddio’r allwedd ALT ar gyfer bysellau hwylus hefyd. Yn benodol, defnyddir yr allwedd ALT ar gyfer bysellau hwylus sy’n berthnasol i’r bar tasgau uchaf. Trwy ddal ALT i lawr am ychydig eiliadau, bydd yr allweddi ar gyfer pob bysell hwylus yn ymddangos. Er enghraifft, ar fy mysellfwrdd i, bydd pwyso ALT + 2 yn cadw fy nogfen.
Yn y llun isod mae tab Cartref(Home) ein bar tasgau ar agor.
Ond os pwyswn ni ALT+S i fynd i’r tab Cyfeiriadau(References)…
Cawn gyfres hollol newydd o orchmynion bysellfwrdd ALT i’w defnyddio!
Trwy ddal ALT i lawr gyda thab gwahanol ar agor gallwn weld pa fysellau hwylus sydd ar gael ar gyfer pob tab ar y bar tasgau. Os byddwch yn anghofio beth mae bysellau hwylus ALT yn ei wneud, daliwch ALT i lawr er mwyn eich atgoffa.