A hoffech chi deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio offer digidol ar gyfer eich astudiaethau a thu hwnt? Dewch draw i’r Caffi Sgiliau Digidol, ein gwasanaeth galw heibio wythnosol newydd i’ch helpu i feithrin eich sgiliau digidol drwy gydol eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth.
P’un a oes gennych gwestiwn penodol, neu ddim yn siŵr ble i ddechrau, rydyn ni yma i helpu. Mae’r Caffi yn gyfle i chi fanteisio ar y pethau canlynol
Sut allwn ni helpu?
Cael cymorth gyda’ch astudiaethau
Dysgu rhagor am offer digidol i’ch helpu gyda’ch aseiniadau, prosiectau a thasgau astudio, a chael arweiniad ar ddewis a defnyddio’r rhai sy’n iawn i chi.
Datblygu eich hyder digidol
Trafod eich adroddiad Adnodd Darganfod Digidol a chanfod ffyrdd ymarferol o ddatblygu eich sgiliau.
Paratoi ar gyfer eich dyfodol
Ystyried y sgiliau digidol y gallai fod eu hangen arnoch ar gyfer lleoliadau gwaith, astudiaethau ôl-raddedig, a’ch gyrfa yn y dyfodol.
Pryd a ble?
Gallwch ddod o hyd i ni wrth ddesg galw heibio SgiliauAber ar Lawr D, Llyfrgell Hugh Owen, ger mynedfa’r grisiau, trwy gydol y tymor:
- Dydd Mercher, 13.30-15.30
- Dydd Gwener, 10.30-12.30
Cymerwch eich cam nesaf
Galwch heibio am sgwrs – byddem wrth ein bodd yn eich helpu i gymryd eich cam nesaf.
Ewch i dudalen we’r Caffi Sgiliau Digidol i gael rhagor o wybodaeth neu anfonwch e-bost atom yn digi@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
