Deg awgrym mwyaf poblogaidd y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth

Banner with Student Digital Champion
Gall cychwyn yn y brifysgol fod yn brofiad heriol, a gall ceisio deall yr agweddau TG ar fywyd prifysgol fod yn ddryslyd. Felly, rydym wedi creu casgliad o awgrymiadau a fideos defnyddiol fel y gallwn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein gwasanaethau TG a llyfrgell ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Awgrym 1: Ble mae popeth yn Llyfrgell Hugh Owen? Gwyliwch y daith rithiol hon o’r llyfrgell:

Awgrym 2: Pa adeiladau ar y campws sydd ag argraffwyr i fyfyrwyr? Dyma leoliad pob argraffydd ar y campws.

Awgrym 3: Sut mae argraffu ar un o argraffwyr y Brifysgol? Gwyliwch y fideo byr hwn:

Awgrym 4: Sut mae ychwanegu arian at fy Ngherdyn Aber? Mewngofnodwch i’ch cyfrif yma i ychwanegu arian at eich Cerdyn Aber.

Awgrym 5: Sut mae benthyca llyfr o’r llyfrgell? Gwyliwch y fideo i weld sut mae gwneud hyn:

Awgrym 6: Ble alla i astudio yn y llyfrgell? Mae amrywiaeth o leoedd astudio tawel, unigol a grŵp ar gael yn Ystafell Iris de Freitas ac ar Loriau E ac F Llyfrgell Hugh Owen.

Awgrym 7: Ydw i’n gallu cysylltu fy ngliniadur fy hun ag ail sgrin gyfrifiadur yn y llyfrgell? Gallwch, gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae gwneud hyn:

Awgrym 8: Sut mae defnyddio’r gwasanaeth clicio a chasglu yn y llyfrgell? Gwyliwch y fideo i weld sut mae gwneud hyn:

Awgrym 9: Ble gallaf fi ddod o hyd i wybodaeth am gyfeirnodi a sgiliau astudio eraill ar gyfer fy mhwnc penodol i? Cymerwch olwg ar LibGuides, sy’n rhoi gwybodaeth am bynciau penodol er mwyn ichi ddysgu mwy am gyfeirnodi, llên-ladrad, ysgrifennu traethawd hir, cyflogadwyedd a chymaint mwy!

Awgrym 10: Ble gallaf fi ddod o hyd i gynnwys ar-lein am ddim i fy helpu i ddatblygu sgiliau a diddordebau newydd? Rhowch gynnig ar Linkedin learning, llwyfan dysgu ar-lein sydd â thros 16,000 o gyrsiau. I’ch rhoi ar ben ffordd, edrychwch ar y casgliad hwn ar weithgareddau allgyrsiol i fyfyrwyr.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*