Yn y blogpost hyn, mae Jeffrey Clark, un o Bencampwr Digidol Myfyrwyr ein tîm, yn darparu ei adolygiad o LinkedIn Learning
LinkedIn Learning: Cyflwyniad
Ym Mhrifysgol Aberystwyth mae digonedd o lyfrau a deunyddiau dysgu i gael eich dannedd ynddyn nhw. Ond beth am pan fyddwch chi yn rhywle arall? Neu os ydych chi am archwilio pynciau eraill sy’n denu eich sylw ond dydych chi ddim yn gwybod ble i ddechrau? Sefydlwyd LinkedIn Learning yn 1995 fel Lynda.com, ac mae’n llwyfan dysgu ar-lein gyda miloedd o gyrsiau i ddewis o’u plith. Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio gan weithwyr diwydiant proffesiynol ac arbenigwyr credadwy mewn meysydd yn amrywio o astudiaethau busnes i lesiant personol. Er bod angen talu am danysgrifiad ar gyfer defnyddio’r gwasanaeth fel arfer, mae myfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth yn gallu mwynhau LinkedIn Learning am ddim ar unrhyw ddyfais!
Fy mhrofiad i gyda LinkedIn Learning
Cyn i mi ddod yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, doeddwn i ddim wedi clywed am LinkedIn Learning. Fel myfyriwr Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, roeddwn i’n cael trafferth gyda fy aseiniadau blwyddyn gyntaf. Roedd llawer o’r aseiniadau’n colli marciau oherwydd gwallau gramadeg, cyfeirnodi gwael a strwythur anwastad i ddadleuon fy nhraethawd. Ambell waith doedd gen i ddim ffordd o gysylltu â fy narlithwyr am gymorth, a dydyn nhw ddim ar gael 24/7, felly edrychais yn rhywle arall. Dyna pryd y des i ar draws LinkedIn Learning ac mae wedi bod yn ased amhrisiadwy i fy astudiaethau dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar LinkedIn Learning des i ar draws sawl cwrs yn cwmpasu gramadeg, golygu, a sut i ysgrifennu gyda mwy o effaith. Mae’r cyrsiau hyn wedi bod o fudd enfawr i mi gan fy mod wedi gweld fy ngraddau’n cynyddu’n raddol, ond mae hefyd wedi dileu straen wrth olygu aseiniadau.
Yn ogystal â’r cyrsiau hyn sydd wedi fy helpu’n benodol gyda fy ngwaith academaidd, rwyf i hefyd wedi defnyddio’r ystod o gyrsiau anacademaidd o LinkedIn Learning. Enghraifft o un cwrs sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn yw cwrs Dr Srini Pillay ar Reoli Iselder yn y Gweithle. Mae’r cwrs hwn wedi fy helpu i gael llawer mwy o ddyddiau cynhyrchiol wrth weithio yn fy swyddi rhan amser ac yn ystod fy seminarau. Edrychwch ar y casgliad hwn o Weithgareddau allgyrsiol i fyfyrwyr a gynhyrchwyd gan Laurie, fy nghyd Bencampwr Digidol Myfyrwyr, i weld yr amrywiaeth o gyrsiau sydd ar gael.
Sut mae’n gweithio?
Mae LinkedIn Learning yn debyg i YouTube yn y ffordd mae wedi’i osod. Chwiliwch am bwnc a bydd LinkedIn Learning yn darparu cyrsiau, fideos unigol a llwybrau dysgu ar eich dewis bwnc.
Mae cwrs ar LinkedIn Learning yn gasgliad o fideos yn seiliedig ar bwnc penodol dan arweiniad gweithiwr diwydiant proffesiynol neu arbenigwr pwnc. Er enghraifft caiff y cwrs Grammar Foundations ei redeg gan Judy Steiner-Williams sy’n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Fusnes Kelley. Rhennir y cyrsiau’n benodau ac fel arfer ceir cwis penodau ar y diwedd.
Caiff eich cynnydd ei gadw wrth i chi fynd drwy’r cwrs, sy’n gadael i chi ailafael yn y lle y gorffennoch chi. Mae llawer o gyrsiau hefyd yn gadael i chi ennill tystysgrif cyflawni ar ôl i chi eu gorffen. Gellir arddangos y tystysgrifau hyn ar eich proffil LinkedIn personol, sy’n golygu y gall unrhyw ddarpar gyflogwyr eu gweld wrth edrych ar eich proffil!
Mae llwybrau dysgu fel cyrsiau ond yn cynnwys mwy o ddyfnder ar bwnc penodol gyda fideos a chyrsiau niferus gan wahanol arbenigwyr. Cewch eich annog hefyd i wylio cynnwys unrhyw lwybr dysgu mewn trefn benodol. Fel cyrsiau, gallwch hefyd gael tystysgrif am gwblhau llwybrau dysgu.
Os ydych chi’n dymuno cadw cynnwys oedd yn arbennig o ddefnyddiol, neu yr hoffech ei wylio ar adeg arall, gallwch greu casgliadau fydd ddim ond yn weladwy i chi, yn debyg i wneud rhestr chwarae ar YouTube. Gall casgliadau gynnwys cyrsiau, llwybrau dysgu a fideos unigol ac maen nhw’n ffordd wych i drefnu deunyddiau am bwnc.
Hefyd gallwch osod nod wythnosol i chi eich hun i helpu i sicrhau eich bod ar y llwybr cywir gyda’ch dysgu. Drwy osod nodau, bydd LinkedIn Learning yn anfon hysbysiadau personol i’ch atgoffa.
Y da a’r drwg
Y da:
- Mae gan LinkedIn Learning LAWER o gynnwys. Yn bwysicach, mae’n gynnwys sy’n cael ei greu’n broffesiynol felly fyddwch chi ddim yn gwastraffu eich amser.
- Mae natur ar-alw’r cyrsiau yn eich annog i ddysgu’r hyn rydych chi’n dymuno ar adeg o’ch dewis chi.
- Mae’n hawdd ei ddefnyddio gyda rhyngwyneb greddfol sy’n gadael i chi drefnu cynnwys, er enghraifft greu eich casgliadau eich hun.
- Ceir pwyslais ar ddysgu pwrpasol sy’n anhygoel o ddefnyddiol gan ei fod yn rhoi llif cyson o gynnwys perthnasol i ddefnyddwyr.
- Mae’n llwyfan gwych i ddysgu sgiliau newydd!
Ond dyw LinkedIn Learning ddim yn gwbl ddi-fai.
- Gall fod yn anodd dod o hyd i gyrsiau ar bynciau academaidd penodol. Fel y byddech yn disgwyl, dyw cyrsiau LinkedIn Learning ddim yn cynnwys yr un manylder o wybodaeth â modiwl prifysgol nodweddiadol. Fodd bynnag bydd y llwyfan yn eich helpu i ddatblygu sgiliau i gefnogi eich gwaith yn y brifysgol, ac yn datblygu sgiliau defnyddiol newydd.
- Does dim un o gyrsiau LinkedIn Learning ar gael yn Gymraeg. Fodd bynnag mae cynnwys gan lyfrgell Prifysgol Aberystwyth sydd wedi’i guradu gan staff a myfyrwyr yn y brifysgol, a gall y rhain gynnwys fideos dwyieithog.
Gwnewch ddefnydd o’ch cyfrif heddiw!
Mae LinkedIn Learning ar gael am ddim i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth. Fel arfer byddai’r gwasanaeth hwn yn golygu bod rhaid i chi gael tanysgrifiad a thalu ffi fisol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ewch i’n tudalen gwe ar LinkedIn Learning am wybodaeth am fanteisio ar gannoedd o gyrsiau proffesiynol i gyfoethogi eich dysgu!
Ac yn olaf os byddwch chi’n rhoi eich cyfrif ar waith cyn 6 Ionawr 2023, cewch eich gosod yn awtomatig mewn raffl lle bydd cyfle i chi ennill un o dair taleb £20!