Newyddion Ffug a Llên-ladrad: Atal y lledaeniad! Rhan 2 – Atal Llên-ladrad

Banner with Student Digital Champion

Peidiwch â chopïo!
Croeso i ran 2 o’n cyfres ar newyddion ffug a llên-ladrad. Y tro diwethaf fe fuon ni’n trafod byd camarweiniol newyddion ffug. Y tro hwn, byddwn ni’n ystyried sawl math o lên-ladrad, sut i osgoi llên-ladrad damweiniol, a ffyrdd o ymdopi â gweithredoedd llên-ladrad bwriadol.

Beth yw llên-ladrad?
Llên-ladrad yw’r weithred o gyflwyno gwaith rhywun arall fel pe bai’n eiddo i chi heb gydnabod awdur neu awduron gwreiddiol y gwaith. Mewn geiriau eraill, mae llên-ladrad yn ffurf ar ladrata ond yn lle dwyn eiddo personol, mae’n weithred o ddwyn syniad neu eiddo deallusol rhywun arall. Mae sawl ffordd o gyflawni llên-ladrad, llawer yn ddamweiniol ac eraill yn fwriadol. Yn ffodus, mae bron pob cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio hanfodion uniondeb academaidd yn ogystal â’r cynllun cyfeirnodi priodol i’w ddefnyddio ar gyfer eich cwrs. Ceir mwy o wybodaeth am lên-ladrad drwy’r dudalen LibGuides ar lên-ladrad.

LibGuide Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad

Y gwahanol fathau o lên-ladrad
Mae yna amryfal agweddau ar lên-ladrad, a rhai yn fwy anodd eu canfod nag eraill. Gelwir y gyntaf, ac o bosibl y fwyaf difrifol yn llên-ladrad ar raddfa fawr. Yn yr achos hwn, bydd rhywun yn copïo gwaith cyfan ac yn ceisio ei gyflwyno fel ei waith ei hun. Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn dangos dim goddefgarwch at y sefyllfa hon nac at unrhyw fath o lên-ladrad.

Gelwir y math nesaf o lên-ladrad yn llên-ladrad gair am air, sef pan fo rhywun yn copïo geiriau rhywun arall fel rhan o’i waith, megis dyfyniad, heb roi cydnabyddiaeth briodol i’r awdur gwreiddiol. Gall hyn fod yn rhywbeth y bydd myfyrwyr yn ei wneud yn ddamweiniol am eu bod yn anghyfarwydd â thechnegau cyfeirnodi academaidd. Os ydych chi’n cael trafferth creu cyfeirnodau ar gyfer eich pwnc, peidiwch â phoeni, mae cymorth ar gael! Rydym yn argymell eich bod yn siarad â chydlynwyr eich modiwlau, tiwtor personol, neu lyfrgellydd pwnc i gael y cymorth priodol. Er na allan nhw olygu eich gwaith ar eich rhan, fe allan nhw eich rhoi ar ben ffordd. Edrychwch eilwaith dros eich gwaith i wneud yn siŵr eich bod yn rhoi cydnabyddiaeth haeddiannol i’r holl ffynonellau.  

Sylwi ar lên-ladrad
Gan fod cynifer o ffurfiau gwahanol ar lên-ladrad, gall fod yn anodd gwybod lle i ddechrau wrth brawf-ddarllen. Os gwelwch chi ddyfyniad heb ddyfynodau mewn erthygl newyddion a’ch bod yn teimlo eich bod wedi ei weld o’r blaen, gallwch chwilio amdano yn Google. Os yw’n ymddangos yn rhywle arall, mae siawns dda iddo gael ei ladrata gan awdur yr erthygl newyddion. Os nad ydych chi’n gwybod beth yw tarddiad y dyfyniad neu os nad oes gennych chi amser i chwilio trwy’r holl ganlyniadau Google, gall gwasanaeth fel Quetext wneud y gwaith ichi. Mae Quetext yn wirydd llên-ladrad rhad ac am ddim sy’n chwilio’r we i nodi tarddiad dyfyniad. Yn syml, copïwch a gludwch y testun rydych chi am ei wirio a bydd Quetext yn dangos y canlyniadau i chi. Mae’n hanfodol eich bod yn chwilio am lên-ladrad wrth ddefnyddio ffynhonnell sydd heb ei hadolygu gan gymheiriaid, megis erthygl newyddion, oherwydd gallech ar ddamwain rannu rhywbeth sydd wedi ei ddwyn heb sylweddoli. Os byddwch yn defnyddio ffynhonnell, dylech bob amser ddyfynnu’r gwaith gwreiddiol.

Peidiwch â chopïo eich gwaith eich hun
Rydym wedi egluro beth yw lladrata gwaith pobl eraill, ond mae hefyd yn bosibl i chi ladrata eich gwaith eich hun. Mae hunan-lên-ladrad yn digwydd pan fo rhywun yn copïo’i waith EI HUN, waeth a yw hynny’n fwriadol ai peidio. Gallech feddwl: ‘Fy ngwaith i yw hwn, felly dw i ddim yn dwyn oddi ar neb arall’. Ond yn anffodus, mae’n bell o fod yn ddiniwed. Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn caniatáu unrhyw ‘orgyffwrdd sylweddol’ yn eich gwaith, felly ni allwch ailddefnyddio syniadau a oedd yn eich aseiniadau cynharach. Ni fydd myfyrwyr fel rheol yn cyflawni hunan-lên-ladrad yn fwriadol; mae gan bob un ohonom arddull ysgrifennu unigryw felly mae’n hawdd cyflwyno pwynt yn eich gwaith yn yr un ffordd ag y gwnaethoch chi o’r blaen. Er mwyn ceisio atal hyn, gallech fwrw golwg ar waith blaenorol yr ydych wedi ei gyflwyno i wirio a oes yna debygrwydd. Edrychwch yn ôl yn Blackboard ar yr aseiniadau yr ydych chi wedi’u cyflwyno’n flaenorol i wirio popeth cyn cyflwyno gwaith newydd.

LibGuides
Mae gan Brifysgol Aberystwyth lawer o adnoddau i’ch helpu i gyfeirnodi. Fel y gwelsom yn rhan un, mae’r LibGuides ar gael am ddim i fyfyrwyr eu defnyddio. Rydw i’n argymell eich bod chi’n darllen y dudalen Llên-ladrad yn y newyddion er mwyn gweld rhai enghreifftiau o lên-ladrad sydd wedi cyrraedd penawdau’r newyddion. Gallech hefyd roi prawf ar eich dealltwriaeth o gyfeirnodi a llên-ladrad, drwy roi tro ar y Cwis Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyfeirnodi a Llên-ladrad.

Gwneud synnwyr o’r cyfan
Mae llên-ladrad yn bwnc mor gymhleth mae hi bron yn amhosibl cynnwys popeth yr un pryd. Mae’r blog hwn yn ddefnyddiol ac mae’n rhoi sylw i’r hanfodion y mae angen i chi eu gwybod ar gyfer eich gradd. Os hoffech ragor o fanylion am lên-ladrad, gan gynnwys gwybodaeth am newyddion ffug, ewch i fy nghasgliad LinkedIn Learning Newydd ar Len-Ladrad a Newyddion Ffug.

Screenshot of LinkedIn Learning Plagiarism and fake news cover

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*