Cyngor ar reoli addysgu wyneb i wyneb ac addysgu ‘HyFlex’ yn llwyddiannus

Cyngor ar reoli addysgu wyneb i wyneb yn llwyddiannus:
Dylai pob aelod o staff ymdrechu i amlhau’r amser y mae myfyrwyr yn gweithio cefn wrth gefn neu ochr wrth ochr, pan fo’n bosibl. Ond, pan nad yw hyn yn bosibl, gall myfyrwyr droi at ei gilydd, i drafod mewn seminar er enghraifft, cyhyd â bod arferion lliniarol eraill ar waith (awyru, masgiau, pellhau cymdeithasol).

Gellir cychwyn trafodaeth fer (10 munud) ymhlith y myfyrwyr drwy ddefnyddio technolegau rhyngweithiol megis meddalwedd pleidleisio i alluogi myfyrwyr i gasglu eu gwybodaeth a chychwyn trafodaeth lawn, lle bydd yr holl fyfyrwyr yn wynebu ymlaen eto. Dylid cynnal mwyafrif y sesiynau wyneb i wyneb gyda’r myfyrwyr wedi’u lleoli cefn wrth gefn neu ochr wrth ochr.

Noder:
• Dylai unrhyw weithgareddau lle mae’r myfyrwyr yn wynebu ei gilydd fod mewn grwpiau bach iawn (parau neu grwpiau o dri) i leihau maint cyffredinol y dosbarth ac i sicrhau y gall pawb gyfrannu.
• Mae atgoffa myfyrwyr o arferion sgwrsio da, ble mae pobl yn cymryd eu tro i siarad, yn hanfodol i leihau cyfanswm y sgyrsiau, ac felly cyfanswm y defnynnau aerosol.
• Mewn ystafelloedd gyda seddi gosod a/neu haenog, gall trafodaeth o’r fath fod yn anodd, gan na chaiff myfyrwyr newid seddi.
• Mewn ystafelloedd gyda seddi symudol, ni ddylid newid gosodiad yr ystafell, a dylai’r staff sicrhau bod myfyrwyr yn cadw pellter cymdeithasol bob tro wrth droi at eraill.


Cyngor ar reoli addysgu ‘HyFlex’ yn llwyddiannus:
• Nodwch eich disgwyliadau’n glir: beth all y myfyrwyr sy’n ymuno o bell ei ddisgwyl? A fyddant yn arsylwi? A fyddant yn cyfrannu? Beth yw cyfyngiadau cymryd rhan o bell?
• Galluogwch dasgau rhyngweithiol sy’n dod â myfyrwyr o bell ac ar y safle at ei gilydd, er enghraifft polau rhyngweithiol y gall pawb gael mynediad iddynt ar yr un pryd.
• Os yw’r niferoedd yn afreolaidd iawn a bod mwyafrif y myfyrwyr yn bresennol mewn un modd (e.e. dim ond un myfyriwr yn ymuno o bell), gwahoddwch fyfyrwyr ar y safle i’r sesiwn ar-lein gan ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain i alluogi trafodaeth rhwng cyfoedion.

Gwobr Cwrs Nodedig – Symleiddio’r Broses Ymgeisio

Bob blwyddyn, mae’r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu yn cynnal Gwobr Cwrs Nodedig. Mae’r wobr hon yn cydnabod yr arferion gorau o ran defnyddio Blackboard. Mae’r postiad blog hwn yn sôn am y newidiadau yr ydym wedi’u gwneud i’r broses. Cewch wybod hefyd pryd fydd y sesiynau hyfforddi penodol hyn yn cael eu cynnal, pam ddylech ymgeisio a phryd y dylech wneud hynny, ynghyd â’r dyddiad cau.
Er mwyn ichi ddeall pa fath o fodiwl fyddai’n deilwng o Wobr Cwrs Nodedig, gallwch wylio cyflwyniadau enillwyr y llynedd am eu modiwlau buddugol yma (Lara Kipp, yn Saesneg yn unig, a Rhianedd Jewell, yn Gymraeg a Saesneg).
Yng ngoleuni’r heriau a ddaeth i’n rhan ni i gyd y flwyddyn academaidd hon, rydym wedi dod at ein gilydd i ystyried sut y gallem symleiddio’r broses, gan obeithio y bydd rhagor fyth o geisiadau’n dod i law i’w hystyried eleni. Mae hon yn dal i fod yn broses gadarn a manwl iawn, ond rydym wedi gwneud rhai newidiadau allweddol i annog rhychwant mor eang â phosib o bobl i roi cynnig arni.

Beth sydd wedi newid?
• Gallwch bellach gyflwyno’ch cais mewn dwy ffordd: naill ai ar ffurf naratif ysgrifenedig hyd at 500 gair neu recordiad Panopto hyd at 4 munud.
• Rydym wedi symleiddio’r ffurflen fel mai dim ond ticio’r maen prawf i gadarnhau eich bod wedi’i bodloni sydd raid. Does dim angen treulio oes yn ystyried faint o bwyntiau y dylech eu dyfarnu i’ch hun.
• Mae pwysoliad y meini prawf bellach wedi’i ymgorffori yn y ffurflen, sy’n golygu nad oes rhaid i ymgeiswyr gyfrifo’r sgôr mwyach.

Parhau i ddarllen

Gweithgareddau amgen i addysgu wyneb yn wyneb

Efallai y bydd adegau lle nad yw’n ymarferol bosibl i chi ddarparu sesiynau (e.e. seminarau, gweithdai, ayyb) ar yr un pryd wyneb yn wyneb i fyfyrwyr yn yr ystafell ddysgu ac i’r rheini sy’n ymuno drwy MS Teams.

Yn y blog hwn, byddwn yn archwilio rhai opsiynau ar gyfer darparu gweithgareddau amgen i’r myfyrwyr hynny na allant ymuno â sesiynau wyneb yn wyneb. Cyn i chi ddechrau creu gweithgaredd amgen, ystyriwch y pwyntiau canlynol:

1.

    • Pa weithgaredd arall a fyddai’n efelychu orau y profiad y mae myfyrwyr yn y sesiwn wyneb yn wyneb yn ei gael?

2.

    • Beth yw fy nghanlyniadau dysgu arfaethedig a pha weithgareddau fyddai’n cyflawni’r rhain orau?

3.

    • Faint o amser fydd hi’n cymryd i mi gynllunio gweithgaredd ac a oes gen i ddigon o amser?

4.

    • Meddyliwch yn ofalus am eich meini prawf asesu – a fydd y gweithgaredd amgen a ddarperwch yn caniatáu i’r myfyrwyr gynnal asesiadau’r modiwl yn llwyddiannus?

5.

    Mae eglurder a ffocws wrth wraidd unrhyw weithgaredd ar-lein sydd wedi’i gynllunio’n dda. Sicrhewch fod myfyrwyr sy’n defnyddio eich gweithgaredd amgen yn gwybod yn union beth maen nhw’n ei wneud a pham maen nhw’n ei wneud. Os ydych yn gofyn i’ch myfyrwyr ddefnyddio unrhyw dechnoleg, rhaid i chi roi arweiniad clir a chryno iddynt ar sut i’w defnyddio.

Parhau i ddarllen

Cynnal sesiynau addysgu cyfunol – ar yr un pryd drwy wyneb yn wyneb a drwy MS Teams 

Anogir staff addysgu ddarparu mynediad i sesiynau addysgu ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu  mynychu dosbarth wyneb yn wyneb. Mae’r canllawiau isod yn rhoi rhestr wirio gam wrth gam o’r holl bethau sydd angen eu gwneud er mwyn cynnal sesiwn effeithiol ar yr un pryd i fyfyrwyr sy’n bresennol yn y dosbarth a’r rhai hynny  sy’n ymuno â’r dosbarth drwy MS Teams 

Cyn y sesiwn: 

Sylwer: Bydd angen gwneud hi’n glir bod y ddarpariaeth ar-lein yn unig ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gallu mynychu’r sesiwn yn uniongyrchol yn y dosbarth, a bod disgwyl i bob myfyriwr sy’n iach, ac nad yw’n hunanynysu, fynychu’r sesiynau wyneb yn wyneb. Bydd presenoldeb myfyrwyr yn ystod sesiynau wyneb yn wyneb yn cael ei fonitro’n ofalus.  

  • Adolygu’r canllawiau ystafell ddysgu, a gwylio’r clipiau fideo yn dangos sut mae’r ystafell ddysgu ar-lein yn gweithio 

Canllawiau Ystafelloedd Dysgu 

Arddangosiadau YstafelloedDysgu 

Parhau i ddarllen

Cyngor ynghylch monitro’r blwch sgwrs mewn sesiynau ar-lein ac wyneb yn wyneb

Distance Learner BannerYn y blogbost hwn, byddwn yn edrych ar rai awgrymiadau ar gyfer monitro blwch sgwrs Teams pan fo pobl yn bresennol yn yr ystafell yn ogystal ag ar-lein.

Bydd swyddogaeth y blwch sgwrs yn cael ei sefydlu yn sgil y gwaith o gynllunio gweithgaredd y bydd pawb yn ei wneud ar yr un pryd, a’r hyn yr hoffech chi i’ch myfyrwyr allu ei wneud ar ôl cymryd rhan. Gofynnwch i chi’ch hun: beth fydd swyddogaeth y blwch sgwrs yn eich sesiwn ddysgu?

Er enghraifft, ydych chi eisiau defnyddio’r blwch sgwrs fel ffordd i’r myfyrwyr sy’n ymuno ar-lein fynegi eu syniadau? Ydych chi eisiau ei ddefnyddio fel cyfle iddynt sgwrsio gyda’i gilydd? Ydych chi eisiau i’r cyfraniadau a wneir yn y blwch sgwrs gael eu rhannu gyda’r rhai sy’n bresennol yn yr ystafell?

Parhau i ddarllen

MS Teams: 10 Cwestiwn Cyffredin

Yn dilyn sesiynau hyfforddi a gynhaliwyd gennym yn ystod yr wythnosau diwethaf ar ddefnyddio MS Teams ar gyfer gweithgareddau dysgu ac addysgu, dyma atebion i 10 cwestiwn cyffredin. Ceir rhagor o wybodaeth ar ddefnyddio MS Teams yn ein hadran cwestiynau cyffredin, ac mae croeso i chi gysylltu â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau pellach (udda@aber.ac.uk).

C1: Os ydw i’n rhannu fy sgrin alla i weld y chat o hyd?
A1: Yn anffodus, oni bai fod gennych ddwy sgrin yna ni fydd hyn yn bosibl. Gallech naill ai ofyn i fyfyriwr neu gydweithiwr fonitro’r chat i chi neu gallech roi’r gorau i rannu eich sgrin o bryd i’w gilydd i wirio beth sydd wedi’i bostio yn y chat. Mae rhai opsiynau rhannu sgrin uwch yn bodoli a allai eich galluogi i weld y chat mewn rhai achosion, ac rydym yn hapus i drafod y rhain gyda chi ymhellach.

C2: Hoffwn ychwanegu unigolyn allanol o’r tu allan i Brifysgol Aberystwyth at un o’m timau, a yw hyn yn bosibl?
A2: Mae’n bosibl ychwanegu unigolion allanol sydd â chyfrif Office 365 gyda pharth ac.uk, ond bydd angen i unrhyw unigolyn allanol sydd heb gyfrif ac.uk gael mynediad yna bydd yn rhaid i chi i lenwi ffurflen gais er mwyn iddynt gael mynediad at Teams Prifysgol Aberystwyth. Fel arall, gallech sefydlu cyfarfodydd gydag unigolion allanol drwy MS Teams heb orfod gofyn am fynediad.

C3: Ar ôl cofnodi cyfarfod, sut byddwn i’n cael gafael ar y recordiad a pha mor hir bydd ar gael?
A3: Ar ôl dod â chyfarfod i ben bydd y recordiad yn ymddangos yn y chat a bydd hwn ar gael i’w lawrlwytho am 22 diwrnod. Mae’n syniad da eich bod yn ymgyfarwyddo â Pholisi Cipio Darlithoedd y Brifysgol am fanylion am ba fath o sesiynau mae’n briodol eu recordio. Parhau i ddarllen

Newidiadau i Ystafelloedd Dysgu

Practice Modules

Diben y canllaw hwn yw eich cyflwyno i’r amrywiol sefyllfaoedd yr hoffech eu rhoi ar waith, o bosibl, mewn Ystafelloedd Dysgu. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, ebostiwch gg@aber.ac.uk.

Dyma’r newidiadau a wnaed i’r ystafelloedd dysgu:

  • Ceir bellach ddwy sgrin yn yr ystafell ddysgu. Sgrin 1 (yr un â’r gwe-gamera arni) yw’r brif sgrin. Mae Sgrin 2 wedi’i chysylltu’n uniongyrchol â’r taflunydd. Defnyddiwch Sgrin 2 i arddangos deunyddiau i’ch dosbarth ac i’w rhannu â’r rhai sy’n cymryd rhan trwy gyfrwng Teams.
  • Mae Microsoft Teams wedi’i osod a cheir llwybr byr iddo ar bob bwrdd gwaith.
  • Mae microffonau newydd wedi’u gosod ar y ddesg, a chafwyd gwared ar y microffonau llabed.

Os ydych mewn ystafell ddysgu a bod angen cymorth technegol arnoch, codwch y ffôn ac aros. Bydd yn deialu’r tîm Cymorth Technegol yn awtomatig.  

Dyma’r hyn y cynghorwn eich bod yn ei wneud cyn bob sesiwn:

  1. Creu cyfarfod Teams ar gyfer yr unigolion hynny na allant ymuno â’r sesiwn wyneb yn wyneb (Sut mae gwneud hynny?)
  2. Bod â’r deunyddiau dysgu wrth law yn rhwydd – rydym yn argymell eich bod yn defnyddio OneDrive ac yn copïo eich deunyddiau i’r bwrdd gwaith cyn dechrau’r sesiwn. Dylech osgoi dod â chof bach/USB ac ati i’r ystafell ddysgu. (Sut mae defnyddio OneDrive?)
  3. Rhoi gwybod i unrhyw fyfyrwyr sy’n ymuno trwy Teams sut y byddant yn rhan o’r sesiwn a sut y byddwch yn ymdrin â chwestiynau ganddynt.

Parhau i ddarllen