Dewch i’n sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol trwy gydol Semester 1

Bydd aelod o’r tîm ar gael bob wythnos i gefnogi myfyrwyr a staff yn ein sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol. Gallwn eich helpu i ddod o hyd i adnoddau i ddatblygu eich sgiliau digidol; rhoi cyngor cyffredinol i chi am ddatblygu eich sgiliau digidol; ac rydym hefyd yn hapus iawn i drafod eich adroddiadau Offeryn Darganfod Digidol.

📍 Byddwn yn yr Hwb Sgiliau (a ddangosir gan y seren ar y ddelwedd isod) yn Lefel D, Llyfrgell Hugh Owen ar y dyddiau Mawrth a Mercher isod drwy gydol semester 1. Os oes gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk.

Dydd Mawrth
⏰ 11:00-12:00
Dydd Mercher
⏰ 10:00-11:00
Hydref ’2311 Hydref ’23
17 Hydref ’2325 Hydref ’23
31 Hydref ’23Tachwedd ’23
14 Tachwedd ’2322 Tachwedd ’23
28 Tachwedd ’23Rhagfyr ’23
12 Rhagfyr ’23

2 thoughts on “Dewch i’n sesiynau galw heibio Sgiliau Digidol trwy gydol Semester 1

    1. Sioned Llywelyn [sil12]

      Diolch yn fawr iawn am gysylltu gyda’ch cwestiwn.

      Mae yna ddwy ffordd o beidio â pharhau i hollti sgrin. Gallwch naill ai:
      1. Glicio ar y botwn Windows ac yna taptio’r saeth i fyny ddwywaith
      2. Neu glicio ar yr eicon sgwar yng nghornel dde-uchaf y sgrin (mae hyn drws nesaf i’r eicon sy’n cau y sgrin)

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*