Mae Turnitin wedi cyhoeddi eu bod yn ôl-dynnu’r ap Turnitin ar ddiwedd y flwyddyn, Rhagfyr 2025.
Bydd yr Ap iPad Feedback Studio yn cael ei ôl-dynnu ac ni fydd ar gael mwyach. Gall hyfforddwyr barhau i gael mynediad at Feedback Studio fel arfer drwy Blackboard. Mae hyn yn cynnwys dyfeisiau symudol a thabledi.
Mae Turnitin yn gweithio ar ddatblygu Aseiniad Safonol Newydd, fel y gall hyfforddwyr adolygu a darparu adborth ar waith myfyrwyr o dabledi heb fod angen ap ar wahân. Byddwn yn anfon rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth newydd hwn maes o law.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am hyn, mae croeso i chi gysylltu â ni (eddysgu@aber.ac.uk).
Croeso cynnes i aelodau newydd o staff sy’n ymuno â Phrifysgol Aberystwyth
Ein nod yn y blogbost hwn yw rhoi gwybodaeth i chi am dechnoleg wrth ddysgu ac addysgu, ein darpariaeth o ran hyfforddiant, sianeli cymorth, a digwyddiadau rydyn ni’n eu cynnal.
Rydyn ni’n ysgrifennu blog sy’n llawn o’r newyddion diweddaraf, manylion am ddigwyddiadau a sesiynau hyfforddi, ac adnoddau.
Os oes arnoch angen cysylltu â ni, gallwch wneud hynny trwy ddefnyddio eddysgu@aber.ac.uk.
Cyflwyniad i Offer E-ddysgu
Amgylchedd Dysgu Rhithwir: Blackboard
Mae gan bob modiwl ei gwrs pwrpasol ei hun yn Blackboard. Gall myfyrwyr ddod o hyd i wybodaeth am y modiwl, deunyddiau dysgu, a chanllawiau e-gyflwyno, yn ogystal â dolenni i restrau darllen a recordio darlithoedd.
Wrth addysgu wyneb yn wyneb, cofiwch y dylid recordio pob darlith (hynny yw, addysgu lle mae’r ffocws ar wybodaeth sy’n cael ei throsglwyddo gan staff i fyfyrwyr) gan ddefnyddio Panopto, ein meddalwedd recordio darlithoedd.
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i fyfyrwyr gyflwyno’r holl waith testun a phrosesu geiriau yn electronig fel yr argymhellir ym mholisi E-gyflwyno’r Brifysgol.
Ar gyfer hyn, rydym yn defnyddio ein hadnoddau e-gyflwyno: Turnitin a Blackboard Assignment. Mae Turnitin yn darparu nodwedd paru testun awtomatig. Rydym yn defnyddio Profion Blackboard i gynnal arholiadau ar-lein.
Adnodd Pleidleisio: Vevox:
Vevox yw adnodd pleidleisio Prifysgol Aberystwyth.
Gellir defnyddio’r adnodd pleidleisio mewn gweithgareddau dysgu ac addysgu yn ogystal â chyfarfodydd i wneud y sesiwn yn rhyngweithiol ac yn gydweithredol. Mae sawl ffordd wahanol o’i ddefnyddio.
Er mwyn cefnogi’r holl staff gyda’u haddysgu rydym yn cynnal cyfres o sesiynau hyfforddi ar draws y meysydd canlynol:
Hanfodion E-ddysgu: wedi’i gynllunio ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd i’r brifysgol, sy’n addysgu, neu a hoffai gael sesiwn loywi. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu bodloni polisïau dysgu ac addysgu digidol y brifysgol.
E-ddysgu Uwch: wedi’i gynllunio i adeiladu ar sail y sgiliau a gafwyd yn ein cyfres hanfodion e-ddysgu, bydd cydweithwyr yn creu gweithgaredd neu asesiad sy’n unigryw i’w cyd-destunau dysgu ac addysgu.
Rhagoriaeth E-ddysgu: wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i gydweithwyr greu cyfleoedd dysgu ac addysgu eithriadol – yn aml rhai unigryw ac yn arwain y sector.
Ceir hyd i fanylion am ein rhaglen DPP flynyddol a gallwch archebu eich lle i fynychu drwy’r dudalen Archebu Cwrs.
Mae’r rhain oll yn gyfleoedd gwych i gwrdd â phobl ar draws y brifysgol a thrafod materion a datblygiadau’n ymwneud â Dysgu ac Addysgu
Edrychwn ymlaen at eich gweld mewn digwyddiad cyn hir. Yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ein cyfres o sesiynau hyfforddi ar gyfer y semester sydd i ddod.
Gellir archebu pob sesiwn hyfforddi ar-lein gan ddefnyddio eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aberystwyth. Mae ein system archebu hyfforddiant bellach yn awtomataidd, felly byddwch yn derbyn eich gwahoddiad calendr o fewn yr awr a bydd yn ymddangos yn eich calendr. Ymunwch â’r sesiynau hyn o’ch calendr Outlook.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni ar eddysgu@aber.ac.uk.
Yn ôl yr arfer, mae ein sesiynau hyfforddi wedi’u grwpio i 3 cyfres:
Hanfodion E-ddysgu: wedi’i gynllunio ar gyfer cydweithwyr sy’n newydd i’r brifysgol, sy’n addysgu, neu a hoffai gael sesiwn loywi. Nod y sesiynau hyn yw sicrhau bod cydweithwyr yn gallu bodloni polisïau dysgu ac addysgu digidol y brifysgol.
E-ddysgu Uwch: wedi’i gynllunio i adeiladu ar sail y sgiliau a gafwyd yn ein cyfres hanfodion e-ddysgu, bydd cydweithwyr yn creu gweithgaredd neu asesiad sy’n unigryw i’w cyd-destunau dysgu ac addysgu.
Rhagoriaeth E-ddysgu: wedi’i gynllunio i gynnig cyfle i gydweithwyr greu cyfleoedd dysgu ac addysgu eithriadol – yn aml rhai unigryw ac yn arwain y sector.
Yn ogystal â’r cynigion arferol, roeddem hefyd am dynnu sylw at y sesiynau newydd yr ydym wedi’u cyflwyno ar gyfer 2025-26:
Sesiynau newydd ar gyfer 2025
Hanfodion E-Ddysgu
Using Microsoft Copilot for Learning and Teaching Activities
Bydd y sesiwn hon yn cyflwyno cydweithwyr i DA Cynhyrchiol ac yn rhoi cyfle i chi feddwl am ffyrdd i ymgorffori DA Cynhyrchiol yn eich ymarfer dysgu ac addysgu.
Nodyn i’ch atgoffa bod pob sesiwn yn y gyfres Hanfodion yn cael ei argymell yn gryf i unrhyw aelodau newydd o staff yn eich adran.
E-ddysgu Uwch:
Become a Blackboard Document Pro
Mae dogfennau Blackboard Documents wedi cael eu hailwampio’n llwyr yn Ultra. Mae’r sesiwn hon, sy’n 30 munud o hyd, yn rhoi trosolwg o’r nodweddion newydd ac yn eich galluogi i roi cynnig arni yn eich cwrs.
Blackboard Interactive Tools
Rydym wedi cyfuno ein sesiwn ar drafodaethau a chyfnodolion, Discussions and Journals. Byddwn yn rhoi arweiniad ar ddylunio gweithgareddau ar gyfer ein hoffer rhyngweithiol er mwyn helpu hyrwyddo ymroddiad myfyrwyr.
Measuring and Increasing student engagement using Blackboard Tools
Byddwn yn edrych ar yr offer dadansoddol sydd ar gael yn eich cwrs Blackboard i helpu monitro ymroddiad myfyrwyr. Byddwn yn defnyddio hyn i deilwra negeseuon yn ogystal â chreu gweithgareddau eraill fel gwiriadau gwybodaeth a dilyniant modiwlau dysgu i helpu cynnal ymroddiad myfyrwyr wrth iddynt ddysgu.
Peer Assessment with Turnitin
Un o nodweddion Turnitin yw PeerMark sy’n eich galluogi i greu cyfleoedd asesu gan gyd-fyfyrwyr. Mae hyn yn gyfle gwych i fyfyrwyr ddarparu adborth ffurfiannol ar waith ei gilydd.
Using the advanced features of Panopto
Eisiau tacluso eich recordiadau? Bydd y sesiwn hon yn arddangos gwahanol ffyrdd y gallwch ddefnyddio Panopto: o fewnosod cwisiau yng nghanol recordiad, i roi cyfle i’r myfyrwyr fod yn greadigol a defnyddio Panopto eu hunain. Mae’r sesiwn hon yn wych i’r rhai sy’n mabwysiadu dull ystafell ddosbarth ‘wrthdro’ neu sydd eisiau defnyddio Panopto y tu hwnt i Recordio Darlithoedd.
Mae sesiynau eraill yn cynnwys y Cynorthwyydd Dylunio DA Blackboard a dylunio meddalwedd pleidleisio Advanced Vevox.
Rydym wedi dylunio 4 gweithdy newydd ar gyfer cydweithwyr yn seiliedig ar 4 maes y Wobr Cwrs Eithriadol. Wrth edrych ar bob agwedd, bydd cydweithwyr yn ystyried sut y gellir datblygu eu cyrsiau eu hunain.
Dyma’r 4 sesiwn:
Exemplary Course Design
Exemplary Assessment Design
Exemplary Interaction and Collaboration
Exemplary Learner Support
Gallwch archebu eich lle ar bob sesiwn arall yn y gyfres Rhagoriaeth E-ddysgu drwy ddefnyddio’r ddolen hon. Ymhlith y sesiynau eraill mae cyfle i wneud cais ar gyfer Gwobr Cwrs Eithriadol, Submitting an Exemplary Course Award.
Os oes unrhyw bynciau hyfforddi eraill yr hoffech i ni eu hystyried ar gyfer Semester 2, cysylltwch â ni.
Mae’r Gwasanaethau Llyfrgell a Dysgu, y Gofrestrfa Academaidd ac UndebAber yn cydweithio ar greu canllawiau a chyngor ynghylch DA Cynhyrchiol.
Ar ôl cymeradwyaeth yn y Pwyllgor Addysg a Phrofiad y Myfyrwyr diweddar, rydym yn falch o rannu’r adnoddau hyn gyda chi yn barod ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau a chyngor i fyfyrwyr ar sut y gallent ddefnyddio DA Cynhyrchiol fel adnodd astudio. Mae’r ddogfen hon yn defnyddio dull system goleuadau traffig i rybuddio myfyrwyr am faint o ofal sydd ei angen wrth ei ddefnyddio.
Mae datganiad wedi’i ychwanegu at dempled cwrs Blackboard ar gyfer Cyrsiau 2025-26 sy’n rhoi cyngor ac arweiniad i fyfyrwyr ar ddefnydd derbyniol o DA Cynhyrchiol a ble i gael cefnogaeth a chymorth.
Gallwch gopïo datganiadau asesu DA Cynhyrchiol i’ch cwrs Blackboard i roi gwybod i fyfyrwyr beth yw’r defnydd derbyniol o DA Cynhyrchiol ar gyfer yr asesiad. Gweler ein blogbost i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud hyn.
Wedi’i ddatblygu gan yr Adran y Gyfraith a Throseddeg, ac eisoes yn cael ei ddefnyddio gan rai adrannau, mae’r datganiad ar y defnydd o’r Offer yn galluogi myfyrwyr i amlinellu sut maent wedi defnyddio DA Cynhyrchiol yn eu hasesiadau. Mae myfyrwyr yn llenwi’r ffurflen ac yn mewnosod y datganiad ar y defnydd o’r offer yn eu dogfen word cyn cyflwyno.
Gellir lawrlwytho’r datganiad ar y defnydd o’r offer o’n tudalen we a’i uwchlwytho i Blackboard.
Bob blwyddyn, rydym yn ailedrych ar yr holl bolisïau sy’n ymwneud ag offer e-ddysgu ac yn eu hadolygu. Mae’r holl newidiadau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Ansawdd a Safonau. Mae’r polisïau newydd bellach ar gael, a dyma fanylion y prif newidiadau. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisïau newydd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost elearning@aber.ac.uk
Isafswm Presenoldeb Gofynnol (IPG) Blackboard
Mae’r IPG yn rhoi amlinelliad i staff a myfyrwyr o’r safonau gofynnol ar gyfer Cwrs Blackboard.
Mae dau o’r newidiadau i’r IPG wedi’u cynllunio i wella hygyrchedd deunyddiau cwrs:
Dylai pob cwrs gael sgôr Ally o 70% neu uwch (gweler yr wybodaeth am y Sgôr Ally)
Y gofyniad i ddeunyddiau gael eu huwchlwytho 1 diwrnod gwaith cyn y sesiwn (gweler yr wybodaeth am Uwchlwytho Deunyddiau Ymlaen Llaw)
I helpu staff i reoli cyrsiau:
Bydd y templed Blackboard yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir yn fwy canolog (gweler ein gwybodaeth ar Greu Cyrsiau)
Y Polisi E-gyflwyno
Amlinellir yn y Polisi E-gyflwyno fod pob darn o waith testun a baratowyd ar raglen prosesu geiriau yn cael ei gyflwyno, ei farcio, a’r adborth yn cael ei ryddhau’n electronig.
Er mwyn gwella sut mae myfyrwyr yn cael gafael ar eu marciau a’u hadborth:
Er mwyn gwella cysondeb e-gyflwyno ar draws y brifysgol:
Ceir gofyniad i gyflwyno gwaith ôl-raddedig ymchwil yn electronig ac mae hyn yn cynnwys aseiniadau Hyfforddiant Ymchwil Ysgol y Graddedigion.
Ar gyfer staff sydd am ddefnyddio SafeAssign fel rhan o’u Haseiniadau Blackboard:
Ychwanegu gwybodaeth am SafeAssign
Polisi Cipio Darlithoedd
Amlinellir yn y Polisi Cipio Darlithoedd fod pob cyflwyniad yn y dull trosglwyddo yn cael ei recordio’n electronig i’w ddefnyddio gan fyfyrwyr.
Mae’r newid mwyaf arwyddocaol yn y Polisi Cipio Darlithoedd wedi’i gynllunio i wella hygyrchedd recordiadau:
Bydd capsiynau awtomatig yn cael eu troi ymlaen ar gyfer pob recordiad a wneir ar ôl 1 Medi 2025 (gweler ein blog)
Argymhellir bod sesiynau nad ydynt wedi’u recordio yn cael eu crynhoi.
I helpu staff i reoli cyrsiau:
Bydd templed Blackboard yn cynnwys gwybodaeth a ddarperir yn ganolog am Panopto, gan gynnwys datganiad sy’n dweud y bydd recordio yn digwydd, gwybodaeth am yr hyn sy’n cael/ddim yn cael ei recordio, a gwybodaeth am ansawdd y capsiynau (gweler ein gwybodaeth am Greu Cwrs).
Polisi Mudiadau
Mae pob adran yn defnyddio eu Mudiadau i ddarparu gwybodaeth weinyddol allweddol. Er mwyn sicrhau bod deunyddiau’n hygyrch ac yn gyfredol, rydym wedi datblygu IPG Mudiadau, yn seiliedig ar IPG Blackboard. Nid yw hyn yn berthnasol i Gyrsiau Ymarfer staff.
Dylai pob Mudiad arall gynnwys:
Manylion Cyswllt.
Gwybodaeth ynglŷn â phwrpas y Mudiad a sut y disgwylir i gyfranogwyr ei ddefnyddio.
Cynnwys sydd wedi’i drefnu’n glir, a’r holl ddeunyddiau wedi’u henwi’n glir ac yn gyson.
Cynnwys cyfredol.
Cyfarwyddiadau clir i gyfranogwyr ar beth i’w wneud gyda’r deunyddiau
Rhaid i’r holl ddeunyddiau fod mor hygyrch â phosibl.
Sgôr Ally
Am y tro cyntaf, mae ein Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard yn cynnwys sgôr Ally. Mae hyn yn cydnabod ac yn adeiladu ar sail y gwaith y mae staff eisoes wedi’i wneud i sicrhau bod deunyddiau dysgu mor hygyrch â phosibl.
70% yw’r sgôr Ally a osodir gan yr IPG – y newyddion da i staff a myfyrwyr yw bod 87% o holl gyrsiau 2024-25 yn cyrraedd sgôr o 70%. Ac yn gyffredinol, 72.5% yw sgôr Ally ar gyfer 2024-25, sydd 3% yn uwch na’r llynedd.
Mae sicrhau bod cynnwys Blackboard mor hygyrch â phosibl o fudd i’n holl fyfyrwyr. Mae cael deunyddiau mewn fformat hawdd ei ddefnyddio yn golygu y gall myfyrwyr ganolbwyntio ar eu dysgu yn hytrach na cheisio ymdopi â fformatau anhygyrch. Mae’r dewisiadau y mae staff yn eu gwneud i ddylunio deunyddiau hygyrch, yn ogystal ag offer Fformatau Amgen Ally, yn ein helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn gallu cymryd rhan yn eu hastudiaethau.
Mae hyn yn arbennig o bwysig yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan fod data diweddaraf HERA yn dangos bod dros 28% o’n myfyrwyr wedi datgan bod ganddynt anabledd (o’i gymharu â 16.7% yn genedlaethol).
I wirio sgôr Ally eich cwrs, edrychwch ar y canllawiau ar y tudalen we Blackboard. A gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddylunio deunyddiau hygyrch trwy edrych ar ein deunyddiau hyfforddi ar-lein.
Bydd Ally yn rhoi help ac arweiniad i chi fynd i’r afael â phroblemau cyffredin. Un o’r problemau mwyaf cyffredin ym Mhrifysgol Aberystwyth yw dogfennau wedi’u hysgrifennu â llaw sydd wedi’u sganio. Rydym wedi ysgrifennu rhai canllawiau i helpu staff sy’n defnyddio’r math hwn o ddeunyddiau.
Ac os ydych chi eisiau defnyddio erthyglau wedi’u sganio yn eich cwrs, cysylltwch â’r Gwasanaeth Digideiddio.
Uwchlwytho Deunyddiau Ymlaen Llaw
Mae darparu deunyddiau dysgu cyn y sesiwn yn eu gwneud yn fwy hygyrch i fyfyrwyr. Mae’n rhoi cyfle i fyfyrwyr baratoi o flaen llaw er mwyn iddynt allu canolbwyntio ar gynnwys y ddarlith pan fyddant yn bresennol yn y sesiwn. Ar gyfer sesiynau sy’n cynnwys trafodaeth neu waith grŵp, gall roi cyfle i fyfyrwyr ystyried sut y gallant gymryd rhan yn y gweithgareddau hyn. Mae papur ymchwil gan Oxford Brookes yn rhoi gwybodaeth am y budd a geir o sicrhau bod deunyddiau ar gael ymlaen llaw.
Mae’r adborth gan fyfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf wedi gofyn am y newid hwn, a thrafodwyd y mater yn y Bwrdd Academaidd yn yr haf 2024. Ac mae’n safonol mewn nifer o brifysgolion eraill, er enghraifft ym Mhrifysgol Caeredin ac Oxford Brookes.
Mae PA wedi penderfynu y dylid rhyddhau deunyddiau dysgu o leiaf un diwrnod gwaith cyn y digwyddiad:
Ar gyfer sesiwn a gynhelir ar ddydd Iau, dylai’r deunyddiau fod ar gael erbyn bore Mercher
Ar gyfer sesiwn a gynhelir ar ddydd Llun, dylai’r deunyddiau fod ar gael erbyn y bore Gwener blaenorol.
Gallwch ddefnyddio Amodau rhyddhau cynnwys Blackboard i wneud yn siŵr bod deunyddiau ar gael ar yr adeg iawn. Os ydych eisoes yn darparu eich holl ddeunyddiau ar ddechrau’r tymor, mae croeso i chi barhau â hyn.
Yn y diweddariad ym mis Mai, rydym yn arbennig o gyffrous am Sgyrsiau DA yn awtomatig, Cyfarwyddyd Ansoddol, a Gwelliannau i’r Llyfr Graddau a Phrofion.
Newydd: Creu Sgyrsiau DA yn awtomatig gyda’r Cynorthwyydd Dylunio DA
Gall y Cynorthwyydd Dylunio DA bellach gynhyrchu sgyrsiau DA yn awtomatig. Mae AI Conversations yn sgyrsiau rhwng myfyrwyr a phersona DA.
Cwestiynau Socrataidd: Sgyrsiau sy’n annog myfyrwyr i feddwl yn feirniadol trwy gyfrwng holi parhaus
Chwarae rôl: Sgyrsiau sy’n caniatáu i fyfyrwyr chwarae senarios gyda’r persona DA, gan wella eu profiad dysgu.
Gall creu persona a phynciau ar gyfer sgwrs DA gymryd llawer o amser. Er mwyn symleiddio’r broses hon, gall y Cynorthwyydd Dylunio DA gynhyrchu tri awgrym ar unwaith. Gallwch ddewis yr hyn y mae’r Cynorthwyydd Dylunio DA yn ei gynhyrchu. Gallwch ddewis cynhyrchu:
Teitl sgwrs DA
Persona DA
Cwestiwn myfyrio
Mae’r awgrymiadau hyn yn rhoi ysbrydoliaeth ar gyfer sgwrs DA. Gall hyfforddwyr fireinio awgrymiadau’r Cynorthwyydd Dylunio DA mewn sawl ffordd:
Darparu cyd-destun ychwanegol
Addasu cymhlethdod y cwestiwn
Dewis cyd-destun o’r cwrs
Adolygu’r cwestiwn â llaw
Llun 1: Mae’r nodwedd awto-gynhyrchu bellach ar gael yn AI Conversations.
Delwedd 2: Mae sawl ffordd i addasu AI Conversations.
Rydym yn argymell eich bod yn edrych yn fanwl ar y persona DA i wirio am unrhyw ragfarnau a allai fod yno a golygu’r rhain.
Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiadau o ddefnyddio AI Conversations – rhowch wybod i ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.
Newydd: Cyfarwyddyd Ansoddol
Gall darlithwyr nawr greu a defnyddio cyfarwyddyd di-bwyntiau ar gyfer Aseiniadau Blackboard. Mae’r math hwn o gyfarwyddyd yn caniatáu i hyfforddwyr asesu gwaith myfyrwyr yn seiliedig ar feini prawf ac adborth, yn hytrach na gwerthoedd rhifiadol.
Gall hyfforddwyr ddewis No Points fel math o gyfarwyddyd wrth greu neu gynhyrchu cyfarwyddyd. Mae’r opsiwn hwn ar gael ochr yn ochr â chyfarwyddiadau canrannol a phwyntiau presennol. Gall hyfforddwyr hefyd olygu cyfarwyddiadau i newid rhwng gwahanol fathau o gyfarwyddiadau, gan gynnwys canran, ystod pwyntiau, a dim pwyntiau.
Delwedd 1: Mae’r opsiwn No Points ar gael yn y gwymplen Rubric Type
Mae’r tab Markable Items yn y Llyfr Graddau bellach yn cynnwys rhyngwyneb wedi’i ailgynllunio i wella hygyrchedd a llywio ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd a darllenydd sgrin yn unig. Mae’r gwelliant hwn yn cefnogi profiad hygyrch i hyfforddwyr sy’n graddio gwaith myfyrwyr, gan leihau’r amser a’r ymdrech sydd eu hangen i reoli graddau myfyrwyr.
Gyda’r diweddariad hwn, mae’r tab Gradable Items yn defnyddio cynllun yn seiliedig ar dabl i wella defnyddioldeb:
Gall defnyddwyr darllenydd sgrin bellach glywed cyhoeddiadau pennawd a rhes, gan ganiatáu llywio llyfnach trwy gyflwyniadau myfyrwyr.
Gall defnyddwyr bysellfwrdd nawr symud yn effeithlon ar draws rhesi neu i lawr colofnau gan ddefnyddio bysellau saeth.
Delwedd 1: Llyfr graddau gyda’r tab Markable Items wedi’i amlygu
Gall hyfforddwyr nawr greu colofnau testun arferol yn y Llyfr Graddau, gan roi’r gallu iddynt gofnodi gwybodaeth ar gyfer asesiad, megis cod perfformiad, aelodaeth grŵp, a gwybodaeth tiwtora.
Mae’r colofnau hyn yn caniatáu i hyfforddwyr gofnodi hyd at 32 nod. Nid yw’r golofn wedi’i chyfyngu i fewnbwn testun.
Efallai y bydd cydweithiwr eisiau defnyddio hyn i gofnodi timau goruchwylio traethawd hir neu farcwyr.
Gall hyfforddwyr:
Greu colofnau sy’n seiliedig ar destun drwy’r llif gwaith Add yn y wedd grid a’r dudalen Gradable Items;
Enwch y golofn, rheolwch welededd y myfyriwr, ac ychwanegu disgrifiad;
Ychwanegwch a golygwch wybodaeth testun ar gyfer myfyriwr penodol gan ddefnyddio llif gwaith Inline Edit.
Mae colofnau testun yn eithrio’r canlynol:
Gwerthoedd pwyntiau (wedi’u gosod yn awtomatig i 0 pwynt)
Dyddiad cyflwyno
Categorïau
Cyfrifiadau llyfr graddau a rhyngwynebau cyfrifo cysylltiedig
Mae cynnwys mewn colofnau sy’n seiliedig ar destun yn postio’n awtomatig ac yn cefnogi ymarferoldeb didoli o fewn gwedd grid Llyfr Graddau. Gall hyfforddwyr hefyd lawrlwytho ac uwchlwytho colofnau sy’n seiliedig ar destun gan ddefnyddio swyddogaeth uwchlwytho / lawrlwytho’r Llyfr Graddau.
Delwedd 1: Gall hyfforddwyr ddewis Add Text Item i greu colofn sy’n seiliedig ar destun.
Delwedd 2: Gall hyfforddwyr nodi enw colofn, gosod gwelededd i fyfyrwyr, a rhoi disgrifiad ar gyfer y golofn sy’n seiliedig ar destun.
Gall myfyrwyr gael mynediad at golofnau testun a gwybodaeth gysylltiedig yn eu Llyfr Graddau pan fydd y golofn wedi’i gosod i Visible to students.
Gosodiad prawf newydd: Gweld cyflwyniad unwaith
Mae opsiwn gosod canlyniadau prawf newydd, View submission one time.
Pan fydd myfyriwr yn cwblhau’r prawf, gallant adolygu eu hatebion a’u hadborth manwl, megis pa gwestiynau gafodd eu hateb yn gywir.
Delwedd 1: Allow students to view their submission one more time wedi’i amlygu:
Hyfforddwyr
I weld yr opsiwn gosodiad hwn, dewiswch Available after submission yn yr adran Assessment results o’r Assessment Settings, yna dewiswch View submission one time o’r gwymplen Customise when the submission content is visible to students. Mae’r gwymplen hon ar gael os ydych wedi dewis Allow students to view their submission yn unig.
Noder nad yw’r gosodiad hwn yn newid y gosodiadau a argymhellir ar gyfer arholiadau ar-lein.
Cyfnewid Syniadau:
Nod yr adran hon yw eich diweddaru ar gynnydd gwelliannau y gofynnwyd amdanynt ar y Gyfnewidfa Syniadau Blackboard.
Rydym yn falch o weld y Cyfarwyddyd Ansoddol wedi’i gynnwys yn y datganiad y mis hwn gan fod hon yn nodwedd y gofynnwyd amdani’n rhan o’r peilot SafeAssign.
Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.
Yn y diweddariad ym mis Mawrth, mae Blackboard wedi newid sut mae amodau rhyddhau yn gweithio gyda dyddiadau cyflwyno ac wedi cynnwys y gallu i gopïo baneri o un cwrs i’r llall. Mae diweddariadau eraill yn cynnwys gwelliannau i Brofion, Aseiniadau, a Llyfr Graddau, a Thrafodaethau.
Panel amodau rhyddhau: dyddiadau cyflwyno wedi’u cynnwys nawr
Pan fydd hyfforddwyr yn addasu amodau rhyddhau ar gyfer eitem gynnwys, mae dyddiad cyflwyno yr eitem bellach wedi’i gynnwys gyda’r meysydd dyddiad ac amser.
Delwedd 1: Mae dyddiad cyflwyno eitem gynnwys bellach yn dangos ar ôl y meysydd dyddiad ac amser
.
Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid i ddyddiadau cyflwyno fod rhwng amodau rhyddhau y dyddiad/amser sydd wedi’u cymhwyso.
Copïo baneri rhwng cyrsiau
Erbyn hyn mae gan hyfforddwyr yr opsiwn i gopïo baneri rhwng cyrsiau. Gellir copïo baneri o gyrsiau Ultra neu gyrsiau gwreiddiol.
Delwedd 1: Nawr mae gan y dudalen Copïo Eitem yr opsiwn i ddewis baner y cwrs o dan Gosodiadau
Mae’r gwelliannau canlynol wedi’u grwpio o dan profion, aseiniadau a gweithgareddau llyfr graddau.
Tudalen adolygu cyflwyniad newydd i fyfyrwyr ar gyfer profion
Mae tudalen adolygu cyflwyniad newydd i fyfyrwyr ar gyfer profion wedi’i datblygu.
Mae’r cynllun newydd yn golygu bod yr holl adborth wedi’i nodi’n glir ac yn hawdd i fyfyrwyr ei hadnabod.
Delwedd 1: Mae gwedd myfyrwyr o’r cyflwyniad prawf graddedig yn cynnwys stamp amser cyflwyno, derbynneb cyflwyno, ac adborth ar gyfer cwestiynau unigol.
Os yw’r prawf yn weladwy a bod adborth wedi’i bostio, gall myfyrwyr gael mynediad i’r dudalen adolygu o:
Y botwm adborth llyfr graddau ar gyfer y prawf
Y panel bach sy’n dangos pan fydd myfyrwyr yn cael mynediad at brawf o dudalen Cynnwys y Cwrs
Os yw myfyriwr yn cyflwyno sawl ymgais, gallant adolygu pob ymgais ar y dudalen adolygu cyflwyniadau. Mae’r hyfforddwr yn diffinio pa ymgais i raddio yn lleoliad cyfrifo gradd terfynol y prawf.
Noder nad yw hyn yn effeithio ar arholiadau ar-lein gan ein bod yn cynghori bod y prawf wedi’i guddio oddi wrth fyfyrwyr i’w hatal rhag gweld eu canlyniadau.
Dangos / cuddio colofnau wedi’u cyfrifo yn y llyfr graddau
Gall hyfforddwyr nawr ffurfweddu gwelededd ar gyfer colofnau wedi’u cyfrifo o Rheoli Eitemau yn y Llyfr Graddau trwy glicio ar y cyfrifiad cysylltiedig:
Naidlen gyfarwyddyd gyda Blackboard Assignment
Gall cyfarwyddiadau sgorio ar Blackboard Assignments ymddangos mewn ffenestr ar wahân yn rhan o lif gwaith yr aseiniad.
Delwedd 1: Gall hyfforddwyr gael naidlen gyfarwyddyd trwy ddewis yr eicon ehangu yn y panel cyfarwyddiadau.
Pan fydd y naidlen gyfarwyddyd ar agor, mae’r gallu i ychwanegu Adborth Cyffredinol a graddio gyda’r cyfarwyddyd yn y prif ryngwyneb graddio yn anweithredol. Mae hyn yn atal hyfforddwr rhag golygu’r un wybodaeth mewn dau le ar yr un pryd.
Rydym yn argymell defnyddio dwy sgrin gyda’r gwelliant hwn.
Trafodaethau
Gwelliannau o ran defnyddioldeb ar gyfer Trafodaethau
Mae nifer o welliannau wedi’u gwneud i’r Trafodaethau:
Gwell gwelededd: Erbyn hyn mae gan bostiadau gefndir llwyd i sefyll allan yn well yn erbyn y dudalen.
Arddangosiad llawn o’r post: Mae postiadau hir bellach yn gwbl weladwy heb yr angen i sgrolio, sy’n gwella darllenadwyedd.
Llun 1: Postiad hir yn cael ei arddangos yn ei gyfanrwydd gyda chefndir llwyd.
Gwnaethom sawl newid i wella hygyrchedd nodweddion allweddol ar yr hafan trafodaeth.
Metrigau cyfranogiad: Mae nifer y postiadau a’r atebion bellach wedi’u rhestru’n uniongyrchol ar yr hafan trafodaeth, gan ddisodli’r cyfrifwr ‘cyfanswm ymatebion’. Mae’r newid hwn yn sicrhau bod gwybodaeth bwysig ar gael yn gynt.
Opsiwn golygu uniongyrchol: Mae’r botwm Golygu bellach ar gael yn uniongyrchol o’r postiad, gan arbed amser i addysgwyr.
Delwedd 2: Roedd y newidiadau a wnaed i’r hafan trafodaeth yn cynnwys ychwanegu botwm Golygu a chyfri postiadau ac ymatebion.
Tab Trafodaethau Cudd o wedd cwrs myfyrwyr
Bydd y dudalen Trafodaethau ond ar gael i fyfyrwyr os bodlonir unrhyw un o’r amodau isod:
Mae gan fyfyrwyr ganiatâd i greu trafodaethau newydd
Mae’r hyfforddwr wedi creu trafodaeth neu ffolder drafodaeth ar y cwrs
Trafodaethau dienw: Braint newydd i ddatgelu awdur
Gall gweinyddwyr y system nawr ddatgelu pwy yw awdur postiad neu ymateb dienw i drafodaeth. Os ydych chi’n cynnal Trafodaeth ddienw ac angen dangos pwy wnaeth y sylw, cysylltwch ag eddysgu@aber.ac.uk gan amlinellu’r cwrs, y drafodaeth a’r postiad, yn ogystal â’r rhesymeg dros ofyn i gael dangos pwy wnaeth y sylw.
Os oes gennych unrhyw welliannau yr hoffech i Blackboard eu gwneud, cysylltwch â ni trwy eddysgu@aber.ac.uk.