Rydyn ni hanner ffordd trwy ein Her Dysgu’r Nadolig, ond peidiwch â phoeni, dyw hi ddim yn rhyw hwyr i chi ymuno!
Mae’r her yn rhoi cyfle i staff a myfyrwyr ddatblygu ystod o sgiliau, o awgrymiadau i hybu cynhyrchiant, defnyddio byrlwybrau bysellfwrdd yn Outlook, i ddatblygu arferion cysgu gwell, trwy wylio 12 fideo byr o LinkedIn Learning dros 12 diwrnod.
Gallwch naill ai ddilyn y dolenni o’r calendr isod bob dydd o’r her
Neu gallwch ddilyn ein Llwybr Dysgu Her Dysgu’r Nadolig (sydd hefyd yn ymddangos ar frig dudalen gartref LinkedIn Learning pan fyddwch chi wedi mewngofnodi).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich 12 diwrnod o ddysgu!
Dilynwch y camau hyn i osod eich sgyrsiau blaenoriaeth ar frig eich rhestr:
Ar ochr chwith eich ffenestr Teams, rhowch eich cyrchwr dros y sgwrs yr hoffech roi pin arni
Cliciwch fotwm de’r llygoden unwaith ar y sgwrs a chliciwch ar Pin
Bydd eich sgwrs flaenoriaeth yn cael ei gosod ar frig eich rhestr sgwrsio ddiweddar
Dilynwch y camau hyn i ddistewi hysbysiadau o’ch sgwrs ddewisol:
Ar ochr chwith eich ffenestr Teams, rhowch eich cyrchwr dros y sgwrs yr hoffech ei distewi
Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y sgwrs a chliciwch ar Mute
Bydd hysbysiadau sy’n dod i mewn yn cael eu distewi ar gyfer y sgwrs benodol hon
Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn ar gyfer cadw negeseuon i edrych arnynt yn ddiweddarach:
Agorwch y sgwrs yr hoffech gadw’r neges(euon) sydd ynddi
Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y neges a chliciwch ar Save this message
Rhowch eich cyrchwr ar eich eicon Teams a chliciwch arno
Dewiswch yr opsiwn Saved yn y ddewislen
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Er y gall cyfrifiaduron fod yn offer ardderchog i gynyddu a symleiddio cynhyrchiant myfyriwr, gall syllu ar sgrin drwy’r dydd gael sawl effaith andwyol. Trwy’r blogbost yma, a hyn a’m ffeithlun cysylltiedig, rwy’n gobeithio rhoi sawl awgrym rwyf wedi’u defnyddio i helpu i wneud defnyddio cyfrifiaduron yn brofiad mwy pleserus trwy gydol fy ngradd. Yn y blogbost hon byddaf yn trafod un anhwylder cyffredin sy’n gysylltiedig â gweithio ar gyfrifiadur, sef straen llygaid. Gall straen llygaid ddigwydd ar ôl cyfnodau estynedig o edrych ar yr un monitor neu drwy ddefnyddio cyfrifiadur mewn amgylchedd sydd wedi’i oleuo’n wael.
Rheol 20-20-20
Un o’r dulliau hawsaf i’w mabwysiadau yn fy astudiaethau yw’r rheol 20-20-20; Mae’r dull hwn yn golygu cymryd egwyl bob 20 munud, ac edrych ar wrthrych 20 troedfedd i ffwrdd (peidiwch â phoeni, nid oes angen i hyn fod yn fanwl gywir), am 20 eiliad. Byddai amrantu’n aml yn ystod y cyfnod hwn yn syniad da hefyd, oherwydd y gall hyn helpu i ymlacio cyhyrau’r llygaid a lleihau’r tebygolrwydd o straen ymhellach.
Dull arall o leihau straen llygaid yw cyfyngu ar olau glas oherwydd y gall y golau glas a gynhyrchir gan sgriniau leihau cyfanswm y melatonin a gynhyrchir (Yr hormon cwsg), a all darfu ar ein cylchoedd cysgu naturiol ac arwain at straen llygaid ar ddiwedd y dydd. Mae’r pwnc hwn yn dal i fod yn destun dadl wyddonol, a gallwch ddarllen mwy amdano yma. Mae hyn yn haws i’w osod ar beiriannau personol ond gyda rhywfaint o addasu gellir ei ddefnyddio ar bron bob un o gyfrifiaduron y Brifysgol.
Mae dwy brif ffordd o reoli hyn:
Yn gyntaf, gallwch ddefnyddio meddalwedd i leihau amlygiad i olau glas; mae gan MacOS a Windows osodiadau parod, Night Shift a Nightlight yn y drefn honno; Gallwch hyd yn oed alluogi Nightlight ar gyfrifiaduron y brifysgol.
Yn ail, mae gan fwyafrif y monitorau a’r sgriniau gliniaduron opsiynau sy’n eich galluogi i reoli disgleirdeb a gwrthgyferbyniad, gan eich galluogi i gyflawni canlyniad tebyg. Fodd bynnag, os ydych chi’n chwilio am fwy o addasiadau, gallwch ddefnyddio rhaglenni rhad ac am ddim megis f.lux sy’n gweithio ar MacOS, Windows a Linux, a gall ddarparu llawer mwy o reolaeth dros dôn y sgrin (a ddangosir isod).
Yn olaf, gellir defnyddio sbectol golau glas hefyd i hidlo golau nid yn unig o’ch sgrin ond hefyd o’r amgylchedd cyfagos a gellir eu prynu’n rhad gan sawl manwerthwr.
Galluogi Modd Tywyll
Yn olaf, strategaeth arall sy’n gweithio’n dda ar lawer o’r rhaglenni rwyf fi wedi’u defnyddio yn ystod fy nghwrs i leihau straen llygaid yw galluogi modd tywyll; gellir gwneud hyn o fewn MacOS a Windows ac mae’r ddau wedi’u cynllunio i gynorthwyo gweithio mewn amgylcheddau gyda goleuadau amgylchynol gwael.
Fodd bynnag, bydd angen camau ychwanegol i newid rhaglenni megis Office a rhai porwyr rhyngrwyd. Gellir dod o hyd i gamau i newid Office i’r modd tywyll yma, a gallwch drosi unrhyw borwr sy’n seiliedig ar Chrome i’r modd tywyll gan ddefnyddio estyniadau a geir yn Storfa We Chrome.
Mae mwy o wybodaeth ar gael yng nghasgliad Ergonomeg Ddigidol LinkedIn Learning, cliciwch ar y ddelwedd uchod neu defnyddiwch y ddolen hon.
Mae ein Her Dysgu’r Nadolig yn cychwyn yfory, Dydd Mercher 6 Rhagfyr! Rydym wedi casglu 12 fideo byr o LinkedIn Learning i chi wylio a dysgu ohonynt dros y 12 diwrnod gwaith nesaf. Mae’r cynnwys hyn yn amrywio o 1-8 munud a byddant yn eich helpu i ddatblygu ystod o sgiliau – o awgrymiadau i hybu cynhyrchinat, defnyddio byrlwybrau bysellfwrdd yn Outlook, i ddatblygu arferion cysgu gwell.
Gallwch naill ai ddilyn y dolenni o’r calendr isod bob dydd o’r her
Neu gallwch ddilyn ein Llwybr Dysgu Her Dysgu’r Nadolig (sydd hefyd yn ymddangos ar frig dudalen gartref LinkedIn Learning pan fyddwch chi wedi mewngofnodi).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr her, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, e-bostiwch y Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich 12 diwrnod o ddysgu!
Mae Microsoft OneNote yn ffordd wych o storio’ch holl nodiadau, trefnu eich gwaith a chreu rhestrau mewn un lle.
Gallwch greu tabiau gwahanol ar gyfer gwahanol feysydd gwaith. O fewn hyn, gallwch ychwanegu tudalennau newydd i wahanu a threfnu eich gwaith, pob un â’u penawdau ar wahân eu hunain. Gallwch liwio’ch adrannau i helpu i drefnu a chadw golwg ar eich gwaith. Gallwch hefyd greu rhestrau gwirio, tynnu sylw at wybodaeth bwysig a llawer mwy gan ddefnyddio’r nodwedd ‘tag’.
Gwyliwch y fideo isod am arddangosiad ar ddefnyddio Microsoft OneNote neu dilynwch y cyfarwyddiadau isod.
Cliciwch ar yr Eicon ‘+’ i greu adran newydd.
Cliciwch fotwm de’r llygoden ar y rhan i newid y lliw.
Rhowch enw o’ch dewis i’r dudalen.
Daliwch y llygoden dros y cwarel ochr dde i fewnosod tudalennau newydd.
Ychwanegwch flychau ticio naill ai trwy ddewis y tag To Do neu drwy glicio ar ctrl + 1.
Gallwch wneud tudalennau, is-dudalennau trwy ddewis y dudalen, clicio botwm de’r llygoden, a dewis ‘make subpage’.
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Mae hynny’n cloi hanner cyntaf y cyfweliadau â graddedigion yn ein Cyfres o Broffiliau Sgiliau Digidol a bydd yr ail hanner yn cael ei ryddhau yn Semester 2 felly cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol GG am ddiweddariadau!
Yn y cyfamser, o ddarllen yr hyn y mae ein graddedigion yn dweud yr hoffent fod wedi’i ddysgu cyn graddio, efallai eich bod yn meddwl tybed beth sydd ar gael i chi fel myfyriwr PA i wella eich sgiliau digidol? Dyma rhai o’r prif adnoddau sydd ar gael i chi:
Sefydliad Blackboard ‘Sut mae eich sgiliau digidol?’
Rydym wedi datblygu sefydliad Blackboard newydd sy’n rhoi arweiniad cam wrth gam i chi ar sut i ddefnyddio’r holl adnoddau a grybwyllir isod, gan gynnwys Offeryn Darganfod Digidol Jisc a LinkedIn Learning.
Offeryn Darganfod Digidol Jisc
Mae Offeryn Darganfod Digidol Jisc yn adnodd dwyieithog sy’n galluogi chi i hunanasesu eich hyder â thechnoleg. Bydd yn eich galluogi i nodi eich cryfderau yn ogystal â thynnu sylw at gyfleoedd i ddatblygu eich sgiliau digidol ymhellach.
LinkedIn Learning
Mae’r platfform dysgu ar-lein hwn ar gael am ddim i bob myfyriwr PA ac mae’n cynnwys dros 16,000 o gyrsiau am ddim ar bopeth o olygu lluniau a fideo, codio, sut i chwarae offeryn, cyrsiau celf a chymaint mwy! Os oes gennych ddiddordeb arbennig mewn datblygu eich sgiliau digidol, gallwch hefyd ymweld â’n casgliadau sgiliau digidol yn y platfform. Ysgogwch eich cyfrif heddiw!
Llyfrgell Sgiliau Digidol
Archwiliwch y Llyfrgell Sgiliau Digidol, lle dewch o hyd i adnoddau i’ch helpu i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a phresennol o fewn chwe chategori.
Blog Sgiliau Digidol
Yn ogystal â’r gyfres hon, mae gennym ddigonedd o gynnwys diddorol ac addysgiadol ar ein tudalen flog o driciau ar gyfer meddalwedd Microsoft, ein Tipiau Digi wythnosol, i’n Cyfres Lles Digidol.
SgiliauAber
Mae SgiliauAber yn cynnwys ystod eang o adnoddau a gwybodaeth am sesiynau 1-2-1 a gweithdai i’ch helpu i ddatblygu ystod o sgiliau astudio, sgiliau cyflogadwyedd a llawer mwy. Os oes gennych ddiddordeb mewn datblygu eich hyder gyda meddalwedd penodol, gallwch ymweld â’r adran Defnyddio Technoleg yn Aber.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw yn o’r adnoddau a restrwyd uchod, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
I gyd-fynd â blogbost a gyhoeddais yr wythnos diwethaf ar sut y gallwch ddefnyddio offer rheoli amser i’ch helpu i feistroli’ch amserlen, rwyf wedi creu ffeithlun (fersiwn testun isod) sy’n crynhoi rhai o’r strategaethau a’r offer allweddol sydd wedi gweithio i mi.
Gan ddibynnu ar bwy yr hoffech gyfathrebu â nhw, weithiau mae’n fwy cyfleus i amserlennu ac oedi anfon eich negeseuon e-bost tan amser arall. Mae hyn yn rhoi mwy o amser i chi ail-olygu cynnwys eich e-bost eto os oes angen a gallwch leihau straen i’r dyfodol os gallwch baratoi eich e-byst ymlaen llaw!
Gwyliwch y fideo isod neu dilynwch y cyfarwyddiadau hyn:
Agorwch neges e-bost newydd wag yn Outlook
Ysgrifennwch yr e-bost a sicrhau eich bod wedi cynnwys derbynnydd a llinell bwnc
Cliciwch ar y tab Ffeil(File) sydd i’w weld ar gornel chwith uchaf y ffenestr e-bost
Dewiswch Priodweddau(Properties)
Sicrhewch fod yr opsiwn Peidio â danfon cyn(Do not deliver before)wedi’i dicio
Dewiswch yr amser a’r dyddiad yr hoffech i’r e-bost gael ei anfon
Cliciwch ar Cau(Close) ac yna Anfon(Send)
Mae’n werth nodi bod yn rhaid i Outlook fod ar agor i e-bost a oedwyd gael ei anfon allan. Gwnewch yn siŵr eich bod wedi dewis amser anfon pan fyddwch chi’n gwybod y bydd eich Outlook ymlaen.
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Noel Czempik (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Fel Pencampwr Digidol Myfyrwyr, cychwynnais ar daith i geisio gwell dealltwriaeth o’n byd digidol a’i effaith ar ein bywydau. Er cael gwybodaeth am yr offer a’r adnoddau y mae’n ei gynnig, roeddwn yn anfodlon ar fy mherthynas â thechnoleg. Ysgogodd yr anfodlonrwydd hwn ystyriaeth ddyfnach a llawer o ymchwil, gan wneud i mi sylweddoli rhywbeth pwysig: Nid man sefydlog yw Lles Digidol ond taith barhaus sy’n gofyn am amrywiaeth o sgiliau i’n cyfarwyddo.
Y Chwyldro Digidol: Cofleidio Newid trwy Hanes
Mae’r cynnydd ym maes technoleg dros y degawdau diwethaf wedi ail-ffurfio ein bywydau. Rydym wedi newid o ffonau afrosgo wedi’u cysylltu â llinell dir i ddyfeisiau lluniaidd, sy’n ateb sawl diben ac yn ffitio’n glyd yn ein pocedi. Nid yw’r newid hwn yn ymwneud â chyfleustra yn unig; mae’n newid sylfaenol sydd wedi ailddiffinio sut rydym yn cyfathrebu, dysgu, gweithio a dadflino. Mae hefyd wedi dod â phryderon – dibyniaeth ddigidol, gorlwytho gwybodaeth, a’r effaith ar iechyd a lles pobl yr oes ddigidol.
Er nad yw’n hollol newydd, mae ein profiadau presennol yn adleisio chwyldroadau technolegol y gorffennol. Roedd pryderon tebyg yn bodoli yn ystod cerrig milltir hanesyddol, megis y panig ynghylch darllen a achoswyd gan y wasg argraffu; yn ôl yn y dyddiau hynny aeth y byd i’r afael â ffrwydrad mewn gwybodaeth, yn debyg iawn i’r hyn rydym ni’n wynebu heddiw. Mae deall y persbectif hanesyddol hwn yn taflu goleuni ar ein heriau cyfoes.
Datrys cymhlethdodau Lles Digidol
Mae lles digidol yn cwmpasu pob agwedd ar fywyd sy’n cael ei effeithio gan dechnoleg. Mae ei gymhlethdod yn cael ei fwydo gan gyflymder yr esblygiad digidol a’r gwahaniaethau yn y ffordd yr ydym ni fel unigolion yn ymateb i dechnoleg ac amgylchiadau amrywiol. Er mwyn ffynnu yn y byd digidol mae gofyn addasu’n barhaus a mabwysiadu agwedd gynnil. Nid cyfyngu ar amser yn edrych ar sgrin yw’r unig ateb; yn wir, gallai herio elfen arwynebol cyfyngiadau o’r fath ein hannog i fod yn fwy ystyriol wrth ddefnyddio ein dyfeisiadau a chymryd camau i reoli ein defnydd.
Mae Ein Lles Digidol yn Bwysig
Mewn byd lle mae sgriniau’n hollbresennol a chysylltedd yn gyflwr parhaus, gall ein harferion digidol effeithio’n sylweddol ar ein hiechyd meddwl, emosiynol a chorfforol. Trwy osod ffiniau iach i harneisio’r manteision a geir o fyw mewn oes ddigidol gallwn sicrhau bod technoleg yn cyfoethogi yn hytrach na llethu ein bywydau. Mae blaenoriaethu lles digidol yn fuddsoddiad yn ein hansawdd bywyd yn gyffredinol, gan ein galluogi i fynd i’r afael â’r dirwedd ddigidol gyda gwydnwch, ymwybyddiaeth ofalgar, ac ymdeimlad o reolaeth.
Edrych ar Les Digidol Gyda’n Gilydd
Mae’r blog hwn yn cychwyn cyfres sy’n canolbwyntio ar les digidol. Yn y blogiau sydd ar ddod, byddwn yn ymchwilio i agweddau penodol, gan gynnwys cynnal arferion ergonomig wrth ddefnyddio dyfeisiau, deall effaith technoleg ar iechyd meddwl ac emosiynol, a strategaethau ar gyfer gwella cynhyrchiant mewn byd sy’n cael ei yrru’n ddigidol. Ein nod yw eich arfogi â dealltwriaeth ac offer a fydd yn eich cyfeirio ar eich taith bersonol.
Rydym yn gobeithio eich ysbrydoli i adnabod y meysydd lle mae gwelliannau’n bosibl a’r rhai lle rydych yn dod o hyd i fodlonrwydd. Gadewch i ni lywio’r dirwedd ddigidol hon gyda’n gilydd.
Blogbost gan Joel Williams (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Wrth i lawlyfrau modiwlau gael eu rhyddhau, gall gwaith a therfynau amser eich llethu’n gyflym iawn. Yn y blogbost hon, byddaf yn dangos rhai o’r rhaglenni yr wyf wedi’u defnyddio i helpu i reoli fy astudiaethau, ac fe ddylent eich cynorthwyo chi hefyd wrth reoli eich llwyth gwaith.
Mae’r ddwy raglen gyntaf, Microsoft–To-Do a Google Tasks, yn gymharol debyg ac yn hawdd i’w defnyddio. Fodd bynnag, mae hyn yn aberthu rhai o’r nodweddion a geir mewn rhaglenni mwy cymleth megis Notion.
Microsoft To Do
Un o’r rhaglenni mwyaf hygyrch i’w hintegreiddio i’ch astudiaethau yw Microsoft-To-Do; ar ei mwyaf sylfaenol, mae’n caniatáu ichi greu tasgau ac yna grwpio’r rhain yn ôl yr angen. Fodd bynnag, y rheswm fy mod yn dueddol o ddefnyddio hon yn amlach nag unrhyw raglen arall yw oherwydd y gallwch hefyd ei defnyddio ar y cyd â rhaglenni Office 365, sy’n ei gwneud yn arbennig o ddefnyddiol gan fod y Brifysgol eisoes yn darparu’r rhain (Gallwch lawrlwytho’r rhain yma).
Mae wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol yn ystod fy astudiaethau gan ei bod yn dangos unrhyw negeseuon e-bost rwyf wedi tynnu sylw atynt, sy’n golygu nad wyf yn anghofio amdanynt. Felly, rwy’n argymell creu cyfrif gyda’ch e-bost prifysgol, a fydd yn helpu i gysylltu’r cyfan â’i gilydd. Mae ar gael ar Storfa Google Play, Storfa Apiau Apple, ac fel gwefan.
Google Tasks
Dewis arall poblogaidd yw Google Tasks, sydd, fel y nodais yn gynharach, yn debyg i ddarpariaeth Microsoft. Fodd bynnag, mae wedi bod yn ddefnyddiol oherwydd ei bod yn integreiddio â Google Assistant, sy’n ei gwneud hi’n arbennig o hawdd gosod nodiadau atgoffa a thasgau yn gyflym wrth weithio ar rywbeth arall.
Hefyd, os yw’n well gennych ddefnyddio cyfres meddalwedd Google dros Microsoft neu weithio ar ddyfais Apple, mae’n debyg mai’r rhaglen hon fydd yr opsiwn gorau. Mae ar gael ar Storfa Google Play, Storfa Apiau Apple; gallwch ei chyrchu o fewn meddalwedd Google ar y Rhyngrwyd neu fel ategyn Chrome.
Rhaglenni Defnyddiol Eraill
Mae yna lawer o raglenni eraill a all helpu gydag amserlennu; Un o’r rhai mwyaf adnabyddus yw Notion, er ei bod hi’n werth ei chrybwyll mae cromlin ddysg fach. Fodd bynnag, mae’r elfennau sy’n gwneud Notion yn anodd i’w defnyddio yn deillio o ehangder yr opsiynau a’r addasiadau o fewn y rhaglen, sy’n galluogi ichi deilwra eich profiad eich hun.
Os ydych chi’n bwriadu cynllunio gwaith grŵp (ond nad ydych am ddefnyddio Notion), mae’n debyg mai Microsoft Teams yw un o’ch opsiynau gorau. Ynghyd â gallu cyfathrebu fel grŵp, gallwch hefyd greu tab tasgau, sy’n eich galluogi i osod tasgau i’w cwblhau gyda’ch gilydd yn ogystal â rhannu tasgau i bob unigolyn os oes angen.
Creu eich system eich hun
Yr agwedd hanfodol ar ddefnyddio’r holl raglenni hyn yw dod o hyd i’r un a all integreiddio orau i’ch llif gwaith, gan sicrhau bod pa bynnag opsiwn a ddewiswch yn helpu, nid llesteirio. I’r rhai a hoffai gael gwybodaeth fanylach am rai o’r rhaglenni hyn, gallwch ddod o hyd i gasgliad LinkedIn Learning yma.