Dyma eich TipDigidol olaf ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, ond gallwch ddal i fyny ar ein holl TipiauDigidol blaenorol o’r dudlaen hon. Gobeithio bod yr awgrymiadau wedi bod yn ddefnyddiol a byddwn yn ôl ym mis Medi ’24 lle byddwn yn parhau i feithrin eich hyder gyda thechnoleg, un TipDigidol ar y tro!
Ydych chi weithiau’n cael trafferth mewn cyfarfodydd mwy i wybod pwy sy’n siarad ar y pryd? …..”Ai Ffion neu Bethan oedd yn siarad?!” Efallai eich bod yn gweithio mewn amgylchedd swnllyd ac yn cael trafferth clywed eraill yn y cyfarfod yn siarad? Efallai eich bod wedi ymuno â chyfarfod lle nad eich iaith gyntaf yw’r iaith a siaradir? Neu efallai eich bod yn gwerthfawrogi’r hygyrchedd o gael is-deitlau?
Os oes unrhyw un o’r uchod yn wir, mae’n debygol y byddwch yn gweld y nodwedd i alluogi capsiynau byw yn MS Teams yn ddefnyddiol. Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae galluogi capsiynau byw:
Mae’n werth nodi ychydig o bethau os ydych chi’n defnyddio’r nodwedd hon:
Mae capsiynau byw ond yn weladwy i’r rhai sydd wedi galluogi’r nodwedd yn y cyfarfod, sy’n golygu na fyddant yn ymddangos yn awtomatig i bawb os byddwch yn eu troi ymlaen!
Mae data capsiynau byw yn cael ei ddileu’n barhaol ar ôl cyfarfod, felly ni fydd unrhyw un yn cael mynediad at yr wybodaeth hon.
Ewch i’r dudalen we hon am gefnogaeth ac arweiniad pellach wrth ddefnyddio MS Teams.
Yn y farchnad swyddi gystadleuol sydd ohoni, mae’n bwysig i fyfyrwyr prifysgol sefyll ar allan. Un ffordd o wneud hyn yw drwy ennill tystysgrifau ar gyfer cyrsiau a gwblhawyd ar eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth a’u hychwanegu at eich proffil LinkedIn personol.
Ond pam mae hyn yn bwysig? Mae ychwanegu tystysgrifau yn cynyddu eich siawns o gael eich canfod gan recriwtwyr sy’n chwilio am sgiliau penodol, gan ddangos eich ymrwymiad i ddysgu parhaus a datblygu gyrfa, gan eich gwneud yn ymgeisydd mwy apelgar.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut i ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol ⬇
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ychwanegu tystysgrifau LinkedIn Learning i’ch proffil LinkedIn personol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk) neu edrychwch ar y dudalen Tystysgrif LinkedIn Learning swyddogol.
Yn aml gall hysbysiadau a negeseuon gan ffrindiau a theulu dynnu eich sylw a’ch cadw’n effro. Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi osod amserlen “Peidiwch â Tharfu” fel nad ydych bellach yn cael eich rhybuddio am hysbysiadau neu alwadau sy’n dod i mewn er eu bod yn dal i gael eu derbyn?
Gallwch wneud hyn trwy fynd i:
Settings
Focus
Do Not Disturb
Set a Schedule
Gallwch hefyd bersonoli’r ‘Focus’ i ganiatáu rhai galwadau neu hysbysiadau gan gysylltiadau allweddol.
Mae yna hefyd fathau eraill o ffocws megis gyrru.
Edrychwch ar y clip byr isod i weld sut i osod yr amserlen.
Bob wythnos byddwn yn postio TipDigidol defnyddiol i’ch helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg. I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Mae hyn yn awgrym cyflym iawn, ond gobeithio ei fod yn ddefnyddiol! Efallai y bydd adegau lle bydd angen i chi leihau’r holl ffenestri ac apiau sydd ar agor ar sgrin eich cyfrifiadur neu liniadur. Efallai eich bod ar fin dechrau cyflwyno ac eisiau cael gwared ar yr holl ffenestri agored? Neu efallai eich bod eisiau cael gwared ar yr holl annibendod a mynd yn ôl i’ch bwrdd gwaith?
Gallwch chi bwyso’r bysellau Windows + D i leihau pob ap a ffenestr sydd ar agor a bydd yn mynd â chi’n ôl i’r bwrdd gwaith. Os ydych chi am ailagor pob ffenestr ac ap, pwyswch yr un bysellau eto!
I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Jia Ping Lee (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Rwy’n cofio dod ar draws Code First Girls trwy eu cyfryngau cymdeithasol yn ystod haf 2023, ac yna nes i ddysgu am bartneriaeth newydd Prifysgol Aberystwyth gyda nhw. Er nad oedd gen i unrhyw brofiad blaenorol o godio ac nad oedd gennyf lawer o wybodaeth am fyd technoleg, cefais fy synnu pa mor hawdd oedd hi i edrych trwy’r cyrsiau yr oedd Code First Girls yn eu cynnig ac ni waeth pa lefel o godio sydd gennych – mae cwrs priodol ar gael i chi.
Gan fy mod yn ddechreuwr llwyr gyda ieithoedd codio, cefais gipolwg ar eu cyrsiau rhagarweiniol o’r enw MOOC (cyrsiau ar-lein agored enfawr Code First Girls). Cynlluniwyd y cyrsiau hyn i gyflwyno a darparu sgiliau technoleg lefel dechreuwyr a helpu i feithrin hyder mewn maes o’ch dewis. Yr hyn yr oeddwn i’n meddwl oedd yn wych am y cyrsiau hyn oedd sut yr oeddent yn cael eu trefnu a’u cyflwyno. Gyda MOOC Sprints, roeddent yn rhedeg dros 4 wythnos gydag 1 sesiwn fyw awr o hyd yr wythnos ac ar ôl i’r Sprint ddod i ben, roedd cyfle i brofi eich gwybodaeth a phrofi datrys problemau’r byd go iawn gyda Heriau MOOC a chael tystysgrif cwblhau ar ôl pasio cwisiau’r sesiwn. Profais amrywiaeth o’r cyrsiau cyflwyno a gynigir gan gynnwys codio, datblygu gwe a datrys problemau gyda Python. Gan fy mod yn gallu adolygu’r hyn a ddysgais ar fy nghyflymdra fy hun ar ôl dosbarthiadau, nid oedd mor llethol ag yr oeddwn i’n ei feddwl i ddechrau, ac roedd tiwtoriaid y cwrs bob amser ar gael i gysylltu â nhw pe bai angen cymorth neu arweiniad ychwanegol arnaf.
Ar ôl mwynhau cymryd y camau cyntaf tuag at feithrin rhywfaint o hyder technolegol, rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r sgiliau rwyf wedi’u dysgu o’r cyrsiau rhagarweiniol a symud ymlaen i’r lefel nesaf. Rwy’n credu mai’r wers bwysicaf yr wyf wedi’i dysgu o’r profiad hwn yw peidio byth â bod ofn rhoi cynnig ar rywbeth newydd sydd y tu allan i’ch cilfan gysurus. I ddechrau, gall y byd codio ymddangos yn frawychus ac yn anodd ei ddeall, yn enwedig os nad ydych wedi dysgu amdano o’r blaen. Ond gyda Code First Girls, maen nhw yma i helpu i’n harwain a’n cefnogi i gyflawni’r sgiliau gorau sydd eu hangen arnom i gael cyfleoedd cyffrous yn y dyfodol!
Cymerwch olwg ar y blogbost hyn lle dewch o hyd i 5 reswm pam y dylech fanteisio ar bartneriaeth Prifysgol Aberystwyth gyda Code First Girls. Gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am yr holl gyfleoedd ar wefan Code First Girls.
Nodwch fod Code First Girls yn agored i fenywod a phobl anneuaidd. Os nad ydych yn gymwys i ymgymryd â’r cyrsiau a gynigir trwy Code First Girls, mae llawer o gyfleoedd eraill am ddim ar gael, gan gynnwys heriau a chyrsiau codio gyda CoderPad a GitHub yn LinkedIn Learning.
Wrth i ni agosáu at ddechrau cyfnod yr arholiadau, rydym wedi rhestri amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i wneud y gorau o dechnoleg wrth i chi baratoi ac adolygu ar gyfer eich arholiadau.
Ydych chi’n aml yn cael eich llethu gan yr holl annibendod ac apiau nad ydynt yn cael eu defnyddio sy’n adeiladu ar eich ffôn?
Gyda Tip Digidol 30, gallwn edrych ar sut i greu ffolderi ar eich ffôn a chategoreddio eich apiau yn ôl math i’ch helpu i gadw trefn. Gallai categorïau ffolder enghreifftiol gynnwys teithio, cyllid, ffordd o fyw, adloniant, cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy!
Gwyliwch y fideos isod am arddangosiad byr:
D.S. Bydd y fideos yn cynnwys enghraifft ar gyfer dyfeisiau IOS ac enghraifft ar gyfer dyfeisiau Android.
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)
Sylwer mai dim ond trwy gyfrwng y Saesneg y ceir holl ddarpariaethau LinkedIn ar hyn o bryd.
Wrth i ddiwedd y flwyddyn academaidd agosáu, efallai eich bod yn dechrau meddwl am ragolygon swyddi a’ch gyrfaoedd yn y dyfodol a ble i ddechrau ar y daith hon. Mae LinkedIn bellach yn cynnig gweminarau “Rock your Profile” i’ch helpu i ddysgu sut i adeiladu proffil diddorol sy’n apelio at eich cynulleidfa ddelfrydol yn ogystal â thynnu sylw at nodweddion allweddol ac arferion gorau ar gyfer adeiladu proffil atyniadol. Mae’r gweminarau hyn ar gael ar wahanol adegau o’r dydd, cofrestrwch yma nawr: Rock Your Profile (linkedin.com).
Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn cynnig adolygu proffiliau CV a LinkedIn a rhoi cyngor ar eu gwella. Gallwch ddefnyddio’r gwasanaethau hyn drwy alw heibio yn bersonol i Lyfrgell Hugh Owen Lefel D yn ystod y tymor. Mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd ar gael drwy e-bost yn: gyrfaoedd@aber.ac.uk. Fel arall, mae’r tîm Gyrfaoedd hefyd yn cynnal sesiynau ar sut i greu CV a phroffil LinkedIn yn llwyddiannus. Mae’r sesiynau hyn yn cael eu hysbysebu ar y porth gyrfaoedd: www.aber.ac.uk/gyrfaoeddABER. Cawsom hefyd sesiwn am sut i ddefnyddio LinkedIn yn ein Gŵyl Sgiliau Digidol y gallwch ei weld yma: Sut i ddefnyddio LinkedIn – Gŵyl Sgiliau Digidol 2023 (6 – 10 Tachwedd) (aber.ac.uk). Gallwch weld rhagor o adnoddau ar LinkedIn drwy’r fideos isod:
P’un a ydych chi’n gweithio ar un sgrin neu ddwy, mae’n debygol iawn fod gennych chi sawl ffenestr ar agor ac o’r herwydd, rwy’n siŵr eich bod wedi canfod eich hun yn ceisio dod o hyd i’r ffenestr yr ydych chi’n chwilio amdani.
Mae gan TipDigidol 29 yr ateb!
Gallwch weld a chyfnewid rhwng eich holl ffenestri agored trwy ddefnyddio bysellWindows + Tab.
Edrychwch ar y clip byr isod i weld y llwybr byr ar waith.
Bob wythnos byddwn yn postio TipDigidol defnyddiol i’ch helpu i wneud y defnydd gorau o dechnoleg. I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Nôl ym mis Hydref 2023, fe wnaethom ni ysgrifennu am bartneriaeth gyffrous newydd rhwng LinkedIn Learning a CoderPad, a gyflwynodd ychwanegiad Heriau Cod i LinkedIn Learning. Mae’r heriau hyn wedi’u teilwra i gynorthwyo dysgwyr, o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch, i ddatblygu eu sgiliau codio drwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real. Gallwch ailymweld â’n blogbost blaenorol yma i ddysgu mwy.
Mae DA (Deallusrwydd Artiffisial) a DA Cynhyrchiol yn prysur ddod yn gonglfeini arloesedd. I gefnogi eich datblygiad yn y sgiliau hyn, mae LinkedIn Learning wedi ehangu eu casgliad i gynnwys 73 o gyrsiau ymarferol ar gyfer sgiliau DA a DA Cynhyrchiol. Mae’r cyrsiau hyn i gyda ar gael ar y dudalen we hon neu edrychwch ar ddetholiad ohonynt isod.
Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff fynediad at yr holl gyrsiau ar LinkedIn Learning, gan gynnwys y rhai ymarferol hyn, drwy eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth rhad ac am ddim. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning neu am gael mynediad i unrhyw gynnwys a grybwyllwyd yn y blogbost hwn, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu dewch â’ch cwestiynau i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol!