Ail gyfle i weld ein Trafodaeth Banel – ‘Cefnogi datblygiad galluoedd digidol myfyrwyr’

Daeth degfed Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol Prifysgol Aberystwyth, a gynhaliwyd rhwng 12 a 14 Medi 2022, â’r gymuned dysgu ac addysgu at ei gilydd o bob rhan o’r Brifysgol i ddathlu, rhannu, a rhoi llwyfan i’r dulliau cyffrous ac arloesol sy’n cael eu defnyddio wrth addysgu.

Fe wnaethom ni gynnal trafodaeth banel (Cefnogi datblygiad galluoedd digidol myfyrwyr) ar ddiwrnod olaf y gynhadledd, gyda Saffron Passam (Yr Adran Seicoleg), Megan Williams (Ysgol Fusnes Aberystwyth) a Panna Karlinger (Ysgol Addysg), sef y staff academaidd gwych a oedd yn rhan o gynllun peilot yr Offeryn Darganfod Digidol gyda myfyrwyr y llynedd.

Aelodau’r Panel: Megan Williams (chwith-uchaf), Saffron Passam (dde-uchaf), Panna Karlinger (gwaelod-ganol). Hwylusydd y Panel: Sioned Llywelyn (gwaelod-chwith)

Os na welsoch chi ein trafodaeth banel, gallwch wylio recordiad ohoni yma. Fe wnaethom roi crynodeb byr o’r cynllun peilot a rhannodd Saffron, Megan a Panna sylwadau gwerthfawr ar yr hyn a weithiodd yn dda, a ddim cystal, iddynt yn ystod y cynllun peilot. Fe wnaethon nhw hefyd rannu eu cynghorion gorau i helpu myfyrwyr i ddefnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol, a buom hefyd yn trafod yr heriau a’r llwyddiannau ehangach wrth geisio gwreiddio sgiliau megis galluoedd digidol o fewn y cwricwlwm.

Adnoddau a Chefnogaeth Bellach:

Os byddwch chi’n cefnogi myfyrwyr i ddefnyddio’r Offeryn Darganfod Digidol eleni, gweler y gronfa newydd o Adnoddau Addysgu i Staff (bydd angen mewngofnodi). Gallwch hefyd drefnu ymgynghoriad gydag aelod o’n tîm drwy anfon e-bost at digi@aber.ac.uk.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*