Ydych chi erioed wedi gweithio ar ddogfen Excel fawr ac wedi sgrolio i lawr i ddod o hyd i ffigur, ond wedyn wedi gorfod sgrolio’n ôl i fyny i’r brig eto i’ch atgoffa’ch hun beth oedd pennawd y golofn honno?!
Mae nodwedd hynod o ddefnyddiol yn Excel a all eich helpu gyda hyn, sy’n galluogi i chi rewi un neu fwy o resi a cholofnau. Gallwch ddefnyddio’r nodwedd yn Excel drwy glicio ar Gweld > Rhewi’r Cwareli.
Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae rhewi colofnau a rhesi:
I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!
Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Cyhoeddais Ran 1 o’r blogbost hwn yn gynharach yr wythnos hon, lle cyflwynais 5 syniad ac awgrymiad i’ch helpu i wneud y gorau o Excel, ac mae’r blogbost hyn yn cynnwys 5 awgrym pellach! Os ydych chi eisiau dysgu mwy am Excel, ewch i’m casgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning.
Awgrym 6: Ychwanegu nifer o resi neu golofnau ar yr un pryd
Os hoffech chi ychwanegu mwy nag un rhes neu golofn ar yr un pryd bydd yr awgrym hwn yn arbed yr amser o orfod gwneud hyn fesul un.
Amlygwch nifer y rhesi neu’r colofnau yr hoffech eu hychwanegu
Cliciwch fotwm de’r llygoden arnynt
Dewiswch Mewnosod o’r gwymplen sy’n ymddangos
Awgrym 7: Ychwanegu pwyntiau bwled
Nid yw dod o hyd i’r botwm i ychwanegu’r rhain mor hawdd ag y mae ar Microsoft Word ond yn ffodus mae yna gwpwl o ffyrdd i wneud hyn.
Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Ydych chi’n cael ymdeimlad o arswyd bob tro y mae’n rhaid i chi ddefnyddio Excel yn ystod eich gradd? Wel, rydyn ni yma i helpu! Bydd angen defnyddio Excel ar ryw adeg ar gyfer nifer o gynlluniau gradd er mwyn dadansoddi data, gwneud cyfrifiadau mathemateg, creu graff neu siart, rheoli prosiectau a llawer mwy.
Gall Excel ymddangos yn gymhleth ac yn frawychus i rai, yn enwedig os ydych chi’n gymharol newydd iddo, felly rydw i wedi llunio rhestr o syniadau ac awgrymiadau yn ogystal â chasgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning i’ch rhoi ar ben ffordd.
Cadwch lygad ar ein blog ddiwedd yr wythnos, gan y byddaf yn cyhoeddi ail ran y blogbost hwn, a fydd yn cynnwys 5 o syniadau ac awgrymiadau eraill ar ddefnyddio Excel!
Awgrym 1: Llwybrau byr defnyddiol ar y bysellfwrdd
Mae llwybrau byr bysellfwrdd yn golygu pwyso mwy nag un fysell ar yr un pryd a thrwy eu cofio, gall arbed llawer iawn o amser i chi, er enghraifft defnyddio CTRL+A i ddewis yr holl gelloedd mewn taenlen. Cymerwch olwg ar y rhestr ganlynol o’r rhai da i’w dysgu:
Ctrl + N
Creu llyfr gwaith (workbook) newydd
Ctrl + O
Agor llyfr gwaith sy’n bodoli eisoes
Ctrl + S
Cadw’r llyfr gwaith gweithredol
F12
Cadw’r llyfr gwaith gweithredol o dan enw newydd – Bydd hyn yn dangos y blwch deialog Save As
Ctrl + W
Cau’r llyfr gwaith gweithredol
Ctrl + C
Copïo cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + X
Torri cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + V
Gludo/mewnosod cynnwys y Clipfwrdd yn y celloedd a ddewiswyd
Blog-bost gan Jeffrey Clark (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)
Cyflwyniad i Primo
Gall fod yn anodd mynd i unrhyw lyfrgell a dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano. Mae’r rhan fwyaf o lyfrgelloedd yn cynnwys cannoedd o lyfrau, ac mae llyfrgell Hugh Owen yn cynnwys MILOEDD o lyfrau. Os ydych chi eisiau dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano gyda manylder clinigol, rwy’n argymell eich bod yn rhoi cynnig ar Primo. Catalog llyfrgell digidol a ddefnyddir gan Brifysgol Aberystwyth yw Primo. Mae’n gronfa ddata enfawr sy’n fodd i fyfyrwyr chwilio am lyfrau i’w benthyg gan y Brifysgol, gwneud rhestrau o lyfrau i gofio amdanynt, a manteisio ar fersiynau ar-lein o ddeunyddiau darllen. Mae’n cynnwys llond lle o nodweddion sydd wedi gwneud fy amser yn Aberystwyth yn llawer rhwyddach. Er y gellid ei ystyried fel ‘chwiliad Google ar gyfer y llyfrgell’, mae’n llawer mwy na hynny. O arbed rhestrau o lyfrau i wneud cais am lyfrau sydd eu hangen arnaf ar gyfer fy nghwrs, mae Primo wedi arbed amser a’m helpu i osgoi aml i gur pen yn ystod fy astudiaethau. Yn y blog-bost hwn, fe fyddaf yn edrych ar Primo, yr hyn mae’n ei wneud a sut y gall fod yn fuddiol i chi.
Chwilio am eitem
Mae’n hawdd chwilio am eitem ar Primo. Teipiwch yr eitem rydych chi eisiau dod o hyd iddi a bydd Primo yn rhoi gwybod i chi lle bydd i’w gael yn llyfrgell Hugh Owen neu os yw ar gael ar-lein (mae copïau papur a chopïau ar-lein o rai eitemau). Mae nodwedd chwilio primo wedi ei gosod ar ‘pob eitem’ yn ddiofyn, a gall hynny amharu ar eich canlyniadau i raddau os cynigir gormod o opsiynau.
Ar waelod y bar chwilio, mae tair cwymplen sy’n cynnwys opsiynau i’ch helpu i ddod o hyd i’r UNION eitem rydych chi’n chwilio amdani. Er enghraifft, beth am ddweud fy mod i eisiau chwilio am lyfrau gan John Steinbeck yn unig. O waelod y bar chwilio, fe fyddwn i’n dewis ‘Llyfrau’, yna ‘gyda fy union ymadrodd’, gan ddewis ‘fel awdur/crëwr’ ac yn olaf chwilio am ‘John Steinbeck’
Peidiwch â chopïo! Croeso i ran 2 o’n cyfres ar newyddion ffug a llên-ladrad. Y tro diwethaf fe fuon ni’n trafod byd camarweiniol newyddion ffug. Y tro hwn, byddwn ni’n ystyried sawl math o lên-ladrad, sut i osgoi llên-ladrad damweiniol, a ffyrdd o ymdopi â gweithredoedd llên-ladrad bwriadol.
Beth yw llên-ladrad? Llên-ladrad yw’r weithred o gyflwyno gwaith rhywun arall fel pe bai’n eiddo i chi heb gydnabod awdur neu awduron gwreiddiol y gwaith. Mewn geiriau eraill, mae llên-ladrad yn ffurf ar ladrata ond yn lle dwyn eiddo personol, mae’n weithred o ddwyn syniad neu eiddo deallusol rhywun arall. Mae sawl ffordd o gyflawni llên-ladrad, llawer yn ddamweiniol ac eraill yn fwriadol. Yn ffodus, mae bron pob cwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn astudio hanfodion uniondeb academaidd yn ogystal â’r cynllun cyfeirnodi priodol i’w ddefnyddio ar gyfer eich cwrs. Ceir mwy o wybodaeth am lên-ladrad drwy’r dudalen LibGuides ar lên-ladrad.