Eich hoff flogiau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf 🥇

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Tîm Sgiliau Digidol gan gynnwys Hyrwyddwyr Digidol y Myfyrwyr wedi cyhoeddi llawer o bostiadau blog sy’n ymdrin â llawer o bynciau a materion digidol. Dyma’r 5 blogbost gorau o 2023/24!

  1. Fy mhrofiad gyda Code First Girls: Darllenwch am un o’n profiadau wrth ddilyn cwrs gyda Code First Girls a pham y dylech ystyried ymuno â chwrs hefyd!
  2. Dechrau pennod newydd – Apiau i helpu eich arferion darllen: Dysgwch fwy am y mathau o apiau sydd ar gael i helpu i annog eich arferion darllen yn ogystal â chynnal eich nodau darllen.
  3. Cymerwch reolaeth ar eich ffôn gyda ScreenZen: Darganfyddwch ScreenZen a sut y gall fod o fudd i chi gyda neges gan Hyrwyddwr Digidol y Myfyrwyr ar ôl eu dadwenwyniad digidol.
  4. Cyflwyno’r bot sgwrsio DA newydd yn LinkedIn Learning: Rhag ofn nad oeddech chi’n gwybod – mae nodwedd newydd ar LinkedIn Learning lle gall bot sgwrsio hyfforddi DA nawr ddarparu argymhellion a helpu i wella eich profiad LinkedIn Learning.
  5. Trefnu eich Gofod Digidol: Canllaw i Fyfyrwyr ar Drefnu eich Gofodau Digidol: Tacluswch eich gofodau digidol gyda rhai awgrymiadau a thriciau gan Hyrwyddwr Digidol y Myfyrwyr.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y Blog Sgiliau Digidol gwnewch yn siŵr eich bod yn tanysgrifio fel nad ydych yn colli unrhyw negeseuon! 

Wythnos Sgiliau Aber 2024 🎉

Yn rhan o gynefino estynedig Prifysgol Aberystwyth, wythnos nesaf yw wythnos SgiliauAber! Cynhelir nifer o ddigwyddiadau, gallwch weld yr holl ddigwyddiadau ar safle SgiliauAber ond bydd y tîm Sgiliau Digidol yn rhan o dair sesiwn! Sef: 

  • Offer DA bob dydd: Wedi’i gyflwyno gan Paddy Shepperd, Arbenigwr DA Uwch Jisc, bydd y sesiwn hon yn ystyried y defnydd ymarferol o DA ar gyfer tasgau dyddiol, gan ganolbwyntio ar offer gwella cynhyrchiant megis Microsoft Copilot, Google Docs, a ChatGPT. Byddwn yn edrych ar rôl DA mewn addysg trwy gymwysiadau megis Bodyswaps ac Anywize ac yn trafod sut y gellir integreiddio’r rhain i strategaethau dysgu i wella effeithlonrwydd, cywirdeb a chynhyrchiant cyffredinol. 
  • Getting Started with LinkedIn Learning: During this session, we will demonstrate how to: 
    • Navigate the platDechrau arni gyda LinkedIn Learning:  Yn ystod y sesiwn hon, byddwn yn dangos sut i: 
    • Lywio’r llwyfan a chwilio am gynnwys perthnasol 
    • Dangos tystysgrifau ar gyfer cyrsiau a gwblhawyd a’ch proffil LinkedIn personol. 
    • Grwpio cynnwys yn seiliedig ar bwnc penodol, neu gynnwys yr hoffech ei wylio ar adeg arall, fel casgliadau personol 
    • Gweld nodweddion a ychwanegwyd yn ddiweddar i LinkedIn Learning 
  • Gweithdy Sgiliau Digidol: Profiad ymarferol i fyfyrwyr rhyngwladol newydd yma yn Aber ar y systemau y byddwch yn eu defnyddio (e.e. Blackboard, Panopto, Turnitin, Cofnod Myfyriwr, Primo, ac ati) a rhai systemau allanol hefyd (e.e. meddalwedd Office 365 megis Word, PowerPoint, LinkedIn Learning ac ati). 

Gallwch archebu pob sesiwn trwy safle SgiliauAber, gallwch hefyd weld yr holl recordiadau ac adnoddau o Ŵyl Sgiliau Digidol 2023

Ymchwilio i Ddatblygiad: Dysgwch fwy am DA trwy LinkedIn Learning 🧠

Blogbost gan Shân Saunders (Cydlynydd Datblygu Sgiliau a Galluoedd Digidol)

Mae DA a DA cynhyrchiol wedi ymwreiddio fwyfwy i’n bywydau p’un ai trwy ddefnydd personol neu broffesiynol. Mae gan LinkedIn Learning amrywiaeth o wybodaeth i’ch helpu i ddysgu mwy am DA gan gynnwys sut i ddefnyddio DA yn gyfrifol. Gweler isod am y 10 cwrs gorau sydd ar gael ar DA a DA cynhyrchiol ar LinkedIn Learning. Noder nad yw LinkedIn Learning ar hyn o bryd yn cefnogi cyrsiau yn Gymraeg.  

  1. Understanding the Impact of Deepfake videos (48m) 
  2. What is Generative AI? (1a 3m) 
  3. Introduction to Prompt Engineering for Generative AI (44m) 
  4. Introduction to Artificial Intelligence (1a 34m) 
  5. Get Ready for Generative AI (5m 26e) 
  6. Digital Marketing Trends (2a 30m) 
  7. Ethics in the Age of Generative AI (39m) 
  8. Generative AI: The Evolution of Thoughtful Online Search (26m) 
  9. Artificial Intelligence Foundations: Thinking Machines (1a 36m) 
  10. Generative AI for Business Leaders (57m) 

Mae LinkedIn Learning yn adnodd rhad ac am ddim sydd ar gael i holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Aberystwyth. Os oes angen cymorth arnoch i gael mynediad i’ch cyfrif LinkedIn, edrychwch ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin neu gallwch anfon e-bost atom yn digi@aber.ac.uk.    

Datblygwch eich sgiliau DA yn ymarferol yn LinkedIn Learning 👩‍💻

Nôl ym mis Hydref 2023, fe wnaethom ni ysgrifennu am bartneriaeth gyffrous newydd rhwng LinkedIn Learning a CoderPad, a gyflwynodd ychwanegiad Heriau Cod i LinkedIn Learning.  Mae’r heriau hyn wedi’u teilwra i gynorthwyo dysgwyr, o ddechreuwyr i ddysgwyr uwch, i ddatblygu eu sgiliau codio drwy ymarferion rhyngweithiol ac adborth amser real. Gallwch ailymweld â’n blogbost blaenorol yma i ddysgu mwy.

Mae DA (Deallusrwydd Artiffisial) a DA Cynhyrchiol yn prysur ddod yn gonglfeini arloesedd. I gefnogi eich datblygiad yn y sgiliau hyn, mae LinkedIn Learning wedi ehangu eu casgliad i gynnwys 73 o gyrsiau ymarferol ar gyfer sgiliau DA a DA Cynhyrchiol. Mae’r cyrsiau hyn i gyda ar gael ar y dudalen we hon neu edrychwch ar ddetholiad ohonynt isod.

Dechreuwyr

Dysgwyr Canolradd

Dysgwyr Uwch

Mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff fynediad at yr holl gyrsiau ar LinkedIn Learning, gan gynnwys y rhai ymarferol hyn, drwy eich cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth rhad ac am ddim. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am LinkedIn Learning neu am gael mynediad i unrhyw gynnwys a grybwyllwyd yn y blogbost hwn, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk), neu dewch â’ch cwestiynau i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol!

Profwch eich dealltwriaeth o DdA gyda Offeryn Darganfod Digidol Jisc!

Mae holiadur ‘Sgiliau Digidol mewn DA a DA Cynhyrchiol’ newydd ar gyfer myfyrwyr a staff bellach ar gael yn Offeryn Darganfod Digidol Jisc. Bydd yr holiadur newydd hwn yn eich helpu i hunanasesu a datblygu eich gwybodaeth am Ddeallusrwydd Artiffisial (DA) yn y saith maes canlynol:

  1. DA a Hyfedredd Digidol
  2. DA Cyfrifol
  3. DA a Chynhyrchiant Digidol
  4. DA a Llythrennedd Gwybodaeth a Data
  5. DA a Chyfathrebu Digidol
  6. DA a Chydweithio a Chyfranogiad
  7. DA a Chreadigrwydd Digidol

Ar ôl ateb cyfres o gwestiynau, a fydd yn cymryd tua 10-15 munud, byddwch chi’n derbyn adroddiad personol a fydd yn cynnwys:

  • Trosolwg o’ch hyder â Deallusrwydd Artiffisial
  • Camau a awgrymir i’w cymryd
  • Dolenni at adnoddau defnyddiol, wedi’u curadu gan Ganolfan Genedlaethol DA Jisc, i’ch helpu i ddatblygu eich gwybodaeth am DdA.

Cliciwch yma i gael mynediad at blatfform yr Offeryn Darganfod Digidol, a gwyliwch y fideo byr isod i ddysgu sut i gael mynediad i’r holiadur newydd hwn ⬇

Cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk) os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr holiadur newydd hwn, neu dewch â’ch cwestiynau i un o’n sesiynau galw heibio wythnosol!