Cyflwyno’r sgwrsfot hyfforddi DA newydd yn LinkedIn Learning 🤖

Oes gennych chi sgiliau penodol rydych chi am eu datblygu, ond angen rhywfaint o arweiniad ar ble i ddechrau? Mae LinkedIn Learning, llwyfan dysgu ar-lein y mae gan bob myfyriwr ac aelod o staff PA fynediad am ddim iddo, newydd ryddhau sgwrsfot hyfforddi newydd a allai helpu i ddatrys y broblem hon!

Beth mae’r sgwrsfot hyfforddi yn ei wneud?

Mae’r sgwrsfot newydd, sydd wedi’i bweru gan DdA (Ddeallusrwydd Artiffisial), yn darparu cyngor ac adnoddau wedi’u teilwra i chi, ac mae’r rhain i gyd wedi’u tynnu’n uniongyrchol o gynnwys LinkedIn Learning.

Gallwch ofyn am gyngor ar heriau rydych chi’n eu hwynebu, neu argymhellion ar sut i ddatblygu sgiliau penodol, a bydd y sgwrsfot yn aml yn gofyn cwestiynau dilynol i chi i sicrhau eich bod yn derbyn yr argymhellion a’r adnoddau gorau.

Awgrymiad Defnyddiol: I gael yr ymateb gorau, cysylltwch eich cyfrif LinkedIn Learning gyda’ch cyfrif LinkedIn personol (sut mae gwneud hynny?), gan bydd y sgwrsfor yn ystyried eich teitl swydd neu lefel eich astudiaethau cyn cynnig argymhellion i chi.

Sut mae cael mynediad at y sgwrsfot hyfforddi?

Gallwch gael mynediad at y sgwrsfot hyfforddi mewn dau le, naill ai o’r brif ddewislen (ar yr ochr chwith), neu o’r dudalen gartref.

Cymorth bellach?

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y nodwedd newydd hon, neu am LinkedIn Learning yn gyffredinol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*