Awgrymiadau Ardderchog: 5 TipDigidol o 2024/25🏆

Cyn i ni symud i’r flwyddyn academaidd newydd ac at gyfres TipDigidol newydd – blog wythnosol i dynnu sylw at gyngor defnyddiol y gallwch ei ddefnyddio i wneud eich bywyd digidol bob dydd yn haws – gadewch i ni edrych yn Ă´l ar y 5 TipDigidol mwyaf poblogaidd o 2024/25!

  1. TipDigidol 34: Gwneud sgyrsiau MS Teams yn haws i’w darllen gyda phwyntiau bwled 💬

Ydych chi erioed wedi bod mewn cyfarfod MS Teams lle mae angen i chi anfon rhestr gyflym sy’n hawdd i eraill ei darllen? Mae dwy ffordd gyflym o greu pwyntiau bwled neu restrau wedi’u rhifo mewn unrhyw sgwrs MS Teams.

  1. TipDigidol 36: Ymatebion i e-byst yn Outlook 👍🎉

Efallai y bydd adegau pan fydd rhywun wedi anfon e-bost atoch, a hoffech gydnabod ei dderbyn heb anfon ateb arall. Nodwedd wych i’w defnyddio yn yr achos hwn yw’r nodwedd ymateb yn Outlook, sy’n gweithio’n debyg i’r rhai yn MS Teams neu ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol amrywiol. 

  1. TipDigidol 42: Mireinio eich canlyniadau chwilio yn MS Teams 🔎

Mae gan Teams adnodd chwilio defnyddiol, ond weithiau gall gynhyrchu gormod o ganlyniadau. Er mwyn arbed amser diangen yn chwilio, gallwch ddefnyddio hidlwyr. 

Mae’r hidlwyr hyn yn caniatáu ichi chwilio gan ddefnyddio meini prawf penodol fel dyddiad, anfonwr a math o ffeil, gan eich helpu i nodi’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym!

  1. TipDigidol 45: Mae Shift + F3 ar y gweill! Llwybr byr priflythrennu ⌨

Os ydych chi wedi dechrau ysgrifennu brawddeg a sylweddoli eich bod yn defnyddio priflythrennau/llythrennau bach i gyd – dyma’r TipDigidol i chi! Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi newid o briflythrennau i lythrennau bach ac fel arall yn Office 365 trwy ddewis y testun ac yna defnyddio Shift + F3?

  1. TipDigidol 49: Graffiau diddorol yn MS Excel 📈

Ydych chi eisiau ychwanegu ffyrdd diddorol o gyflwyno’ch data yn MS Excel? Gall TipDigidol 49 helpu gyda hynny trwy gyflwyno Sparklines. Mae Sparklines yn graffiau bach sydd ond yn cymryd un gell mewn dalen Excel ac yn ffordd effeithiol o gyflwyno data heb orfod cael graff sy’n llenwi dalen gyfan.

Ymunwch â ni ym mis Medi 2025 am fwy o’r TipDigidol, i ddilyn ein TipDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu fel arall, gallwch lyfrnodi’r dudalen we hon, lle ychwanegir TipDigidol newydd bob wythnos gan ddechrau o fis Medi! 

TipDigidol 57: Cyfrif Data Penodol yn Excel 🔢

Ydych chi eisiau cyfrif sawl gwaith mae enw’n ymddangos mewn colofn ochr yn ochr ag amodau eraill yn Excel? Gyda TipDigidol 57 gallwn ddangos y fformiwla i chi wneud hyn. 

Yn gyntaf bydd angen data tebyg i’r hyn a ddangosir yn y sgrinlun lle mae gennych chi sawl colofn o wybodaeth a lle’r hoffech chi gyfrif faint o feini prawf penodol sy’n bodoli megis enwau neu ddyddiadau er enghraifft

I wneud hyn bydd angen i ni ddefnyddio’r nodwedd COUNTIFS yn y tab fformiwla, dangosir hyn yn y sgrinlun isod.  

Mae hyn yn cymryd yr ystod meini prawf sef y golofn enwau yn yr enghraifft ac yna’r meini prawf ei hun, sef yr enw Chris yn E2 yn yr enghraifft. Hefyd wedi’i gynnwys yn yr enghraifft y mae ystod meini prawf arall o’r golofn o anrhegion a’r meini prawf Siocled. Bydd hyn wedyn yn mynd trwy’r holl wybodaeth ac ond yn cyfrif pan fydd y ddau faen prawf hyn yn cael eu bodloni.  

Gallai hyn fod yn ddefnyddiol ar raddfa fwy ar gyfer olrhain unrhyw gyfanswm o bethau sy’n digwydd ar daenlen. 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Prif Sgiliau ein Graddedigion 🎓

Yn 2024, cynhaliodd ein Hyrwyddwyr Digidol gyfweliadau gydag wyth o raddedigion Prifysgol Aberystwyth i ddeall pa sgiliau y maent bellach yn eu defnyddio ar Ă´l graddio a sgiliau yr hoffent fod wedi’u dysgu a’u datblygu yn y brifysgol. Isod ceir y pum prif sgil ar draws yr holl broffiliau y mae’r graddedigion yn eu defnyddio nawr a sut y gallwch ddatblygu’r sgiliau hyn: 

  1. Microsoft Excel 
  1. Microsoft Teams/Llwyfannau Cyfarfod Ar-lein 
  1. Photoshop a Meddalwedd Golygu 
  1. Outlook 
  1. Microsoft PowerPoint 

Os hoffech chi ddarllen y Proffiliau Sgiliau Digidol Graddedigion, gallwch eu gweld yma neu gallwch eu lawrlwytho yma. 

TipDigidol 52: Llwyddo gyda llinell drwodd! ➖

Ydych chi erioed wedi bod eisiau croesi rhywbeth allan yn Excel? Weithiau nid ydych am ddileu neu guddio’r celloedd. Mae gan Dipdigidol 52 lwybr byr cyflym i’ch helpu! 

Yn syml, dewiswch y gell/celloedd perthnasol a defnyddiwch y llwybr byr: Ctrl + 5 

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 49: Graffiau diddorol yn MS Excel 📈

Ydych chi eisiau ychwanegu ffyrdd diddorol o gyflwyno’ch data yn MS Excel? Gall TipDigidol 49 helpu gyda hynny trwy gyflwyno Sparklines. Mae Sparklines yn graffiau bach sydd ond yn cymryd un gell mewn dalen Excel ac yn ffordd effeithiol o gyflwyno data heb orfod cael graff sy’n llenwi dalen gyfan. Gallai hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer cyflwyno data sy’n bwysig ond nad yw’n hanfodol i gyflwyniad.

  • Yn gyntaf, mae angen i chi gael cyfanswm priodol o ddata fel y dangosir.
  • Yna dewiswch y Celloedd rydych chi am eu defnyddio i gyflwyno’r data a mynd i ‘mewnosod’ yn y tabiau a dewis y math o graff yr hoffech ei gael gan Sparklines.
  • Dewiswch yr ystod ddata yr hoffech ei defnyddio, sef B2; F4 yn yr enghraifft.
  • A dyna ni; dylech gael graff sy’n cyflwyno’r data i gyd mewn un gell.

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 48: Dewiswch lwybr byr! 🖥️ 

Amser i ddysgu llwybr byr newydd gyda ThipDigidol 48! 

Llwybr byr hawdd i ddewis rhes gyfan yn Excel. Yn y rhes yr hoffech ei dewis, defnyddiwch y llwybr byr: Shift + bar gofod.  

I ddilyn ein TipiauDigidol, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigidol newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

TipDigidol 24: Gwneud defnyddio Excel yn haws drwy rewi colofnau a rhesi 📊

Ydych chi erioed wedi gweithio ar ddogfen Excel fawr ac wedi sgrolio i lawr i ddod o hyd i ffigur, ond wedyn wedi gorfod sgrolio’n ôl i fyny i’r brig eto i’ch atgoffa’ch hun beth oedd pennawd y golofn honno?!

Mae nodwedd hynod o ddefnyddiol yn Excel a all eich helpu gyda hyn, sy’n galluogi i chi rewi un neu fwy o resi a cholofnau. Gallwch ddefnyddio’r nodwedd yn Excel drwy glicio ar Gweld > Rhewi’r Cwareli.


Gwyliwch y fideo isod i ddysgu sut mae rhewi colofnau a rhesi:

I ddilyn ein TipiauDigi, tanysgrifiwch i’n Blog Sgiliau Digidol. Neu, gallwch hefyd ddilyn y dudalen hon, lle bydd TipDigi newydd yn cael ei ychwanegu bob wythnos!

Syniadau ac Awgrymiadau Microsoft Excel (Rhan 2)💡

Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Cyhoeddais Ran 1 o’r blogbost hwn yn gynharach yr wythnos hon, lle cyflwynais 5 syniad ac awgrymiad i’ch helpu i wneud y gorau o Excel, ac mae’r blogbost hyn yn cynnwys 5 awgrym pellach! Os ydych chi eisiau dysgu mwy am Excel, ewch i’m casgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning.

Awgrym 6: Ychwanegu nifer o resi neu golofnau ar yr un pryd

Os hoffech chi ychwanegu mwy nag un rhes neu golofn ar yr un pryd bydd yr awgrym hwn yn arbed yr amser o orfod gwneud hyn fesul un.

  • Amlygwch nifer y rhesi neu’r colofnau yr hoffech eu hychwanegu
  • Cliciwch fotwm de’r llygoden arnynt
  • Dewiswch Mewnosod o’r gwymplen sy’n ymddangos

Awgrym 7: Ychwanegu pwyntiau bwled

Nid yw dod o hyd i’r botwm i ychwanegu’r rhain mor hawdd ag y mae ar Microsoft Word ond yn ffodus mae yna gwpwl o ffyrdd i wneud hyn.

Read More

Syniadau ac Awgrymiadau Microsoft Excel (Rhan 1)💡

Blogbost gan Laurie Stevenson (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Ydych chi’n cael ymdeimlad o arswyd bob tro y mae’n rhaid i chi ddefnyddio Excel yn ystod eich gradd? Wel, rydyn ni yma i helpu! Bydd angen defnyddio Excel ar ryw adeg ar gyfer nifer o gynlluniau gradd er mwyn dadansoddi data, gwneud cyfrifiadau mathemateg, creu graff neu siart, rheoli prosiectau a llawer mwy.

Gall Excel ymddangos yn gymhleth ac yn frawychus i rai, yn enwedig os ydych chi’n gymharol newydd iddo, felly rydw i wedi llunio rhestr o syniadau ac awgrymiadau yn ogystal â chasgliad Excel newydd yn LinkedIn Learning i’ch rhoi ar ben ffordd.

Cadwch lygad ar ein blog ddiwedd yr wythnos, gan y byddaf yn cyhoeddi ail ran y blogbost hwn, a fydd yn cynnwys 5 o syniadau ac awgrymiadau eraill ar ddefnyddio Excel!

Awgrym 1: Llwybrau byr defnyddiol ar y bysellfwrdd

Mae llwybrau byr bysellfwrdd yn golygu pwyso mwy nag un fysell ar yr un pryd a thrwy eu cofio, gall arbed llawer iawn o amser i chi, er enghraifft defnyddio CTRL+A i ddewis yr holl gelloedd mewn taenlen. Cymerwch olwg ar y rhestr ganlynol o’r rhai da i’w dysgu:

Ctrl + NCreu llyfr gwaith (workbook) newydd
Ctrl + OAgor llyfr gwaith sy’n bodoli eisoes
Ctrl + SCadw’r llyfr gwaith gweithredol
F12Cadw’r llyfr gwaith gweithredol o dan enw newydd – Bydd hyn yn dangos y blwch deialog Save As
Ctrl + WCau’r llyfr gwaith gweithredol
Ctrl + CCopĂŻo cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + XTorri cynnwys y celloedd a ddewiswyd i’r Clipfwrdd
Ctrl + VGludo/mewnosod cynnwys y Clipfwrdd yn y celloedd a ddewiswyd
Ctrl + ZDadwneud eich gweithred ddiwethaf
Ctrl + PAgor y dialog argraffu
Alt + HAgor y tab cartref
Alt + NAgor y tab mewnosod
Alt + PAgor y tab cynllun tudalen
Ctrl + SArbed y llyfr gwaith
Ctrl + 9Cuddio’r rhesi a ddewiswyd
Ctrl + 0Cuddio’r colofnau a ddewiswyd

Read More