Fe gyhoeddon ni bostiad blog yn gynharach yr wythnos hon yn eich cyflwyno i’n Llyfrgell Sgiliau Digidol newydd. Mae’r Llyfrgell Sgiliau Digidol yn cynnwys chwe chasgliad o adnoddau PA ac allanol i gefnogi myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ddatblygu ystod o sgiliau digidol newydd a presennol.
Rydym wedi bod yn lansio’r casgliadau hyn ar sianeli cyfryngau cymdeithasol GG drwy gydol yr wythnos hon, ond gallwch hefyd edrych ar y delweddau isod i ddarganfod yr ystod o sgiliau digidol y gallech chi eu dysgu ym mhob un o’r chwe chasgliad.
Bydd y Llyfrgell Sgiliau Digidol ar gyfer staff yn cael ei lansio ym mis Mehefin 2023. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu broblemau yn defnyddio’r Llyfrgell Sgiliau Digidol, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).
Rydym yn falch iawn o gael ein croesawu yn ôl gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (UDDA) i arwain ail sesiwn ar sgiliau digidol fel rhan o’u rhaglen Fforwm yr Academi y flwyddyn academaidd hon.
Mae Fforwm yr Academi yn rhoi llwyfan i staff a myfyrwyr rannu arferion da wrth ddysgu ac addysgu. Am gyhoeddiadau a mwy o wybodaeth am sesiynau sydd ar y gweill, gallwch ddilyn Blog Fforwm Academi’r UDDA.
Fe gyflwynom ni’r sesiwn gyntaf ar 7 Rhagfyr, a gallwch ddarllen crynodeb o’n trafodaeth. Yn ystod ein ail sesiwn, a fyddwn yn cynnal ar-lein ar Ddydd Mercher 19 Ebrill (10:00-11:30), byddwn yn adeiladu ar ein trafodaeth o’r sesiwn gyntaf ac yn archwilio ymhellach sut y gallwn gefnogi ein myfyrwyr i wneud y mwyaf o dechnoleg.
Gallwch dderbyn rhagor o wybodaeth a sicrhau eich lle drwy’r Wefan Hyfforddi Staff. Ar gyfer unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Tîm Sgiliau Digidol (digi@aber.ac.uk).
Ar Ddydd Mawrth 28.03.23 (12:00-14:00), bydd yr adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi yn cynnal seminar wyneb yn wyneb i helpu ymchwilwyr i benderfynu a yw eu syniad am ap yn ymarferol a sut i fynd ati i wneud iddo ddigwydd.
Bydd y seminar yn cael ei arwain gan yr Athro Chris Price o’r Adran Gyfrifiadureg.
Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched! Y thema eleni yw #CofleidioTegwch, ac mae’n rhoi cyfle pwysig i ni ddathlu cyflawniadau diwylliannol, gwleidyddol a chymdeithasol-economaidd menywod, ac mae hefyd yn alwad i ni weithredu gan gofleidio tegwch yn llawn.
Dyma ddetholiad o fideos LinkedIn Learning byr, i gyd dan 5 munud, sydd wedi’u hysbrydoli gan Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched. Gallwch gael mynediad i’r fideos hyn am ddim gyda’ch cyfrif LinkedIn Learning Prifysgol Aberystwyth.
Bydd y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth yn cynnal grwpiau ffocws awr o hyd ym mis Mawrth i gasglu adborth gan fyfyrwyr ar eu profiadau o ddefnyddio LinkedIn Learning.Byddwch yn derbyn taleb gwerth £10 am awr o’ch amser.
Cynhelir y grwpiau ffocws hyn ar-lein ar y dyddiadau canlynol:
Dewch i ddweud helo wrth ein Pencampwyr Digidol Myfyrwyr yfory, Ddydd Gwener 17 Chwefror, ar eu stondin “Sut mae eich sgiliau Digidol?” ar Lefel D o Lyfrgell Hugh Owen o 10:00-13:00!
Mae’r stondin yn rhan o raglen gyffrous o ddigwyddiadau’r Wŷl Yrfaoedd ’23, gan gynnwys gweithdai sgiliau, digwyddiadau cyflogwyr, gweminarau, cyfleoedd rhwydweithio a sesiynau adrannol.
A hoffech chi ddysgu sut i ddefnyddio marchnata digidol i hyrwyddo eich Busnes neu Fenter Gymdeithasol?
Bydd AberPreneurs, sy’n rhan o Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, yn cynnal digwyddiad ar-lein cyffrous, Digital Marketing Masterclass gyda Francesca Irving o ‘Lunax Digital’ ar Ddydd Mercher 8 Chwefror (2yh).
A oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu pa adnoddau sydd ar gael i’ch helpu i asesu a datblygu eich galluoedd digidol? Neu, efallai bod diddordeb gennych chi mewn dysgu mwy am sut y gallwch gefnogi’ch myfyrwyr i ddatblygu eu galluoedd digidol?
Byddwn ni’n cynnal nifer o sesiynau hyfforddi i staff drwy gydol mis Ionawr. Os nad oes modd ichi fynychu’r sesiynau, mae croeso mawr i chi e-bostio digi@aber.ac.uk a gallwn drefnu sgwrs i chi ag aelod o’n tîm.
Rydym yn prysur agosáu at ddiwedd semester 1 ac mae hynny hefyd yn nodi hanner ffordd amser y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr gyda ni eleni. Rydym yn dal i fyny heddiw gyda Laurie Stevenson a Jeffrey Clark i glywed am eu profiadau yn y rôl y semester hwn, i gael blas o’r adnoddau gwych y maent wedi’u cynhyrchu ac i ddysgu beth maent yn gobeithio ei gyflawni yn y flwyddyn newydd.
Yn gyntaf, gallwch chi esbonio beth yw Pencampwr Digidol Myfyrwyr?
Jeffrey: Mae Pencampwr Digidol Myfyrwyr yn rhywun sy’n gallu helpu eraill gyda’u dysgu digidol a chyda datblygu eu galluoedd digidol.
Laurie: Mae’n rhywun sy’n dod â’u profiadau eu hunain fel myfyriwr i hyrwyddo a chynorthwyo eraill gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar-lein.
Beth ydych chi wedi ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Laurie: Y gallu i fynegi fy hun yn greadigol a dysgu sgiliau newydd, tra hefyd yn helpu myfyrwyr eraill.
Beth yn eich barn chi yw eich cyflawniad mwyaf y semester hwn?
Jeffrey: Fy llwyddiant mwyaf y semester hwn oedd creu blogbyst o ansawdd uchel sydd wedi ennill cryn dipyn o sylw.
Laurie: Creu fy arddangosfa a llyfrnodau deg awgrym mwyaf poblogaidd y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth (gweler y blogpost admdano) a fydd, yn fy marn i, yn adnodd buddiol i fyfyrwyr nawr ac am flynyddoedd i ddod.
Pa sgiliau newydd ydych chi wedi eu dysgu o’r rôl hon?
Laurie: Rwyf wedi dysgu llawer, gan gynnwys creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau, sgiliau dylunio graffeg a sgiliau cyfathrebu.
Jeffrey: Rwyf wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu, sgiliau trefnu, dulliau ymchwil, a gwirio ffeithiau drwy’r rôl hon.
Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni y semester nesaf?
Jeffrey: Rwy’n gobeithio cyrraedd mwy o fyfyrwyr gyda fy mlogbyst er mwyn i mi allu helpu cymaint o fyfyrwyr â phosib.
Laurie: Rwy’n gobeithio parhau i gael yr ymdeimlad o gyflawniad a mwynhad yn y rôl, yn ogystal â dysgu mwy am sut y gall galluoedd digidol helpu myfyrwyr yn y brifysgol.
Diolch yn fawr i Laurie a Jeffrey am eu gwaith caled y semester hwn, ac edrychwn ymlaen at ddysgu rhagor ganddynt yn y flwyddyn newydd!
Mae ein Her Dysgu’r Nadolig yn dechrau yfory, Dydd Mercher 7 Rhagfyr! Rydym wedi casglu 12 cwrs byr, fideos, a chynnwys sain i chi weld a gwrando dros y 12 diwrnod nesaf o LinkedIn Learning. Mae’r cynnwys hyn yn amrywio o 2-8 munud a byddant yn eich helpu i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau – o ddysgu sut i ddefnyddio byrlwybrau bysellfwrdd yn MS Teams i ddatblygu eich hunanhyder.
Sut mae ymuno â’r her?
Mae dwy ffordd i chi ymuno â’r her:
Gallwch naill ai ddilyn y dolenni o’r calendr isod bob dydd o’r her
Neu gallwch ddilyn ein Llwybr Dysgu Her Dysgu’r Nadolig (sydd hefyd yn ymddangos ar frig dudalen gartref LinkedIn Learning pan fyddwch chi wedi mewngofnodi).
Ac yn olaf, os nad ydych chi wedi actifadu eich cyfrif LinkedIn Learning eto, cofiwch wneud hynny cyn 6 Ionawr 2023 a byddwn yn eich cynnwys yn awtomatig mewn raffl lle bydd gennych gyfle i ennill un o dair taleb rhodd gwerth £20. Am unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r her, e-bostiwch y Tîm Galluoedd Digidol (digi@aber.ac.uk), a gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich 12 diwrnod o ddysgu!