Rydym yn prysur agosáu at ddiwedd semester 1 ac mae hynny hefyd yn nodi hanner ffordd amser y Pencampwyr Digidol Myfyrwyr gyda ni eleni. Rydym yn dal i fyny heddiw gyda Laurie Stevenson a Jeffrey Clark i glywed am eu profiadau yn y rôl y semester hwn, i gael blas o’r adnoddau gwych y maent wedi’u cynhyrchu ac i ddysgu beth maent yn gobeithio ei gyflawni yn y flwyddyn newydd.
Yn gyntaf, gallwch chi esbonio beth yw Pencampwr Digidol Myfyrwyr?
Jeffrey: Mae Pencampwr Digidol Myfyrwyr yn rhywun sy’n gallu helpu eraill gyda’u dysgu digidol a chyda datblygu eu galluoedd digidol.
Laurie: Mae’n rhywun sy’n dod â’u profiadau eu hunain fel myfyriwr i hyrwyddo a chynorthwyo eraill gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar-lein.
Beth ydych chi wedi ei fwynhau fwyaf am eich rôl?
Laurie: Y gallu i fynegi fy hun yn greadigol a dysgu sgiliau newydd, tra hefyd yn helpu myfyrwyr eraill.
Jeffrey: Rwyf wedi mwynhau creu blogbyst ar y gwahanol agweddau ar alluoedd digidol, fel fy blogbost dwy ran ar Newyddion Ffug a Llên-ladrad – Trechu Newyddion Ffug (Rhan 1) ac Atal Llên-ladrad (Rhan 2).
Beth yn eich barn chi yw eich cyflawniad mwyaf y semester hwn?
Jeffrey: Fy llwyddiant mwyaf y semester hwn oedd creu blogbyst o ansawdd uchel sydd wedi ennill cryn dipyn o sylw.
Laurie: Creu fy arddangosfa a llyfrnodau deg awgrym mwyaf poblogaidd y Llyfrgell a Gwasanaethau Gwybodaeth (gweler y blogpost admdano) a fydd, yn fy marn i, yn adnodd buddiol i fyfyrwyr nawr ac am flynyddoedd i ddod.
Pa sgiliau newydd ydych chi wedi eu dysgu o’r rôl hon?
Laurie: Rwyf wedi dysgu llawer, gan gynnwys creu cynnwys ar gyfer y cyfryngau, sgiliau dylunio graffeg a sgiliau cyfathrebu.
Jeffrey: Rwyf wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu, sgiliau trefnu, dulliau ymchwil, a gwirio ffeithiau drwy’r rôl hon.
Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni y semester nesaf?
Jeffrey: Rwy’n gobeithio cyrraedd mwy o fyfyrwyr gyda fy mlogbyst er mwyn i mi allu helpu cymaint o fyfyrwyr â phosib.
Laurie: Rwy’n gobeithio parhau i gael yr ymdeimlad o gyflawniad a mwynhad yn y rôl, yn ogystal â dysgu mwy am sut y gall galluoedd digidol helpu myfyrwyr yn y brifysgol.
Diolch yn fawr i Laurie a Jeffrey am eu gwaith caled y semester hwn, ac edrychwn ymlaen at ddysgu rhagor ganddynt yn y flwyddyn newydd!