Awgrymiadau Da a Thechnoleg i Gefnogi Myfyrwyr sy’n Byw’n Annibynnol

Post Blog gan Urvashi Verma (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Wrth i’r Wythnos Groeso ddod i ben yn ddiweddar, gobeithio bod pawb wedi ymgyfarwyddo â’u hamserlenni newydd. Mae hyn yn golygu newid arferion a ffordd o fyw i gyd-fynd ag amserlen y brifysgol. I fyfyriwr sy’n byw yn annibynnol am y tro cyntaf, gall y newidiadau hyn fod yn anoddach fyth. O reoli arian i fyw gyda phobl newydd, nid yw bob amser yn chwarae plant. Er enghraifft, pan ddechreuais i fyw yn annibynnol am y tro cyntaf, fe wnes i droi fy holl ddillad gwyn yn binc llachar!

Drwy’r post blog hwn, rydw i’n mynd i rannu gyda chi awgrymiadau defnyddiol o fy mhrofiadau fy hun, ac yn enwedig yr apiau a thechnolegau gwahanol sydd wedi fy helpu i deimlo’n fwy cyfforddus yn byw’n annibynnol.

Cael digon o gwsg

Gall sicrhau eich bod chi’n cael digon o gwsg tra hefyd yn jyglo eich bywyd rhwng dosbarthiadau, aseiniadau a gwaith beri straen mawr ar y dechrau a gall gymryd rhywfaint o amser i ddod i arfer â hyn. Ceisiwch gynnal cylch cysgu gyson drwy fynd i gysgu ar yr un amser bob nos.

Technoleg: Byddwn yn argymell ap am ddim o’r enw Sleep Cycle: Sleep Recorded. Bydd yr ap hwn yn eich helpu i gofnodi eich patrwm cysgu, a gallwch ei ddefnyddio i’ch deffro ar yr adeg gywir yn unig drwy ddefnyddio cloc larwm deallus.

Olrhain eich gwariant

Gwnewch restr gyllideb ar gyfer yr holl gostau ac yna eu categoreiddio i bethau hanfodol a phethau nad ydynt yn hanfodol.

Technoleg: Rhowch gynnig ar Lumio, ap a fydd yn eich helpu i ychwanegu eich holl gyfrifon ariannol a bydd hefyd yn eich helpu i gadw golwg ar eich gwariant.

Cynlluniwch eich dyddiau

Bydd gwella eich sgiliau rheolaeth amser o gymorth mawr i chi yn eich bywydau yn gyffredinol, ac nid yn unig drwy gydol eich amser yn y brifysgol. Mae’n bwysig eich bod chi’n blaenoriaethu eich gwaith, gan sicrhau hefyd eich bod yn caniatáu digon o amser i gwblhau tasgau gwahanol. Pan mae’n dod i wneud y tasgau mwy diflas fel golchi’r llestri, mynd â’r sbwriel allan, ceisiwch beidio ag oedi, a chadwch yr ymadrodd “nawr nid wedyn” ar flaen eich meddwl!

Technoleg: Gall ap am ddim o’r enw Clockify eich helpu i gadw golwg ar faint o amser rydych chi’n ei wario ar wahanol dasgau drwy gydol y dydd. Neu gallech hefyd ddefnyddio’ch Calendr yn eich app Microsoft Teams (y bydd gennych fynediad ato drwy eich e-bost a chyfrinair PA) i’ch helpu i gynllunio’ch diwrnod yn well.

Screenshot of MS Teams calendar showing how it can be used to plan your days

Cael digon o Ymarfer Corff

Mae’n hanfodol eich bod chi’n gofalu am eich lles meddyliol a chorfforol tra eich bod yn y brifysgol. Gall fynd am dro byr hyd yn oed eich helpu i gael ymarfer corff a hefyd i glirio’ch pen. Gallwch chi hefyd wneud defnydd o’r cyfleusterau gwych sydd gan Ganolfan Chwaraeon y Brifysgol.

Technoleg: Gall yr ap Fitnet helpu i’ch ysgogi i wneud ymarfer corff drwy ddarparu dros 200 o fideos ymarfer corff am ddim i chi.

Cadw llygaid ar eich defnydd o ynni

Mae diffodd goleuadau nid yn unig yn dda i’r amgylchedd, ond mae hefyd yn helpu i gwtogi’r biliau. Fel myfyriwr annibynnol sy’n talu eich biliau eich hun, dylai lleihau ynni fod yn un o’ch prif flaenoriaethau.

Technoleg: Mae’n werth gweld os oes gan eich darparwr ynni ap ar gyfer eu defnyddwyr, e.e. Ap EDF Energy, Ap Octopus Energy. Bydd yr apiau hyn yn aml yn gadael i chi weld eich hanes bilio a byddwch yn gallu gweld darlleniadau plot ar gyfer eich defnydd o ynni.

Dysgu sut i goginio

Mae coginio yn sgil gwerthfawr a bydd dysgu ei wneud nawr yn bendant o gymorth mawr i chi yn y tymor hir. Fel myfyriwr, gallech arbed arian a bwyta bwyd maethlon drwy goginio eich hun.

Technoleg: Mae sawl fideo ar YouTube neu LinkedIn Learning a fydd yn eich helpu i wella eisiau sgiliau coginio, a byddant hefyd yn darparu amryw awgrymiadau fel sut i gymryd llai o amser i gynhyrchu gwahanol brydau.

Gosod rota gyda’ch cyd-letywyr

Mae byw gyda nifer o bobl yn gallu bod yn hectig a gall arwain at anghytuno o ran tasgau yn eich llety. Fel myfyriwr yn Aberystwyth, roedd fy nghyd-letywyr a minnau’n dilyn rota a oedd yn helpu i gadw’r fflat yn lân. Er efallai nad oes gan bawb yr un safonau glanhau, mae rota yn rhoi cyfrifoldeb i bawb.

Technoleg: Ap yr oedd fy nghyd-letywyr a minnau’n defnyddio llawer ohono oedd Notion. Mae’n cylchdroi tasgau yn y cartref pob wythnos, a gallwch nodi yn yr ap unwaith fydd tasgau wedi cael eu cwblhau.

Rwy’n gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu i deimlo’n fwy hyderus yn byw’n annibynnol drwy gydol y flwyddyn. Gallwch hefyd edrych ar fy nghasgliad LinkedIn Learning newydd a fydd yn rhoi fideos a chyrsiau byr i chi sy’n gysylltiedig â’r nifer o’r awgrymiadau uchod.

Screenshot of LinkedIn Learning collection cover

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*