Beth yw Lles Digidol?

Post blog gan Urvashi Verma (Pencampwr Digidol Myfyrwyr)

Banner with Student Digital Champion

Mae lles digidol yn ymwneud, yn syml, â’r effaith y mae technoleg yn ei chael ar les cyffredinol pobl. Os ydym yn chwilio am ddiffiniad manylach, lles digidol yw gallu unigolyn i ofalu am ei ddiogelwch, perthnasau, iechyd, a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith mewn cyd-destunau digidol. Yn y byd sydd ohoni, rydym wedi dod yn ddibynnol ar dechnoleg ar gyfer popeth. Er bod defnyddio technoleg yn beth llesol, ac er y gall defnyddio technoleg yn effeithlon ddatrys sawl problem, gall unrhyw fath o gamddefnydd neu orddefnydd ohoni arwain at sgil-effeithiau. Yn ôl rhai darnau o waith ymchwil, mae straen, ein cymharu ein hunain ag eraill a’n rheolaeth ar amser yn cael effaith ar ein lles yn gyffredinol. Mae’n arwain at waeth lles meddyliol, yn bennaf ymhlith pobl ifanc rhwng 15 a 24 oed. Mae’n fwy tebygol y bydd problemau iechyd meddwl yn datblygu, a’r rheini ar sawl ffurf, gan gynnwys unigrwydd, gorbryder ac iselder.

Myfyriwr yn gweithio ar eu gliniadur o flaen Llyfrgell Hugh Owen | Student working on their laptop outside the Hugh Owen Library.

Felly beth yw gormod? Does dim ateb cywir o ran hynny. Mae’n dibynnu ar natur swydd y person ac ar eu hiechyd corfforol a meddyliol ar y pryd. Mae angen inni gadw golwg arnom ni ein hunain er mwyn cadw ymdeimlad iach o bwy ydyn ni, gan fod hynny’n cyfrannu at iechyd meddyliol da. Fel y soniais yn gynharach, mae’n benderfyniad cwbl bersonol i’w wneud, ac mae angen i ni ddal ati i gadw golwg arnom ni ein hunain yn rheolaidd.

Mae sawl ap ar gael i helpu pobl i ofalu am eu lles digidol a chadw cysylltiad â thechnoleg ar yr un pryd. Dyma rai enghreifftiau (mae’r holl apiau ar gael i’w lawrlwytho ar Google Play):

  • Digital detox – Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio. Mae’n cynnig heriau amrywiol sy’n helpu i gynyddu eich gallu i ganolbwyntio. Mae hefyd yn defnyddio caniatâd gweinyddwr i wirio faint o ddefnydd a wnewch o bob ap.
  • Stayfree – Mae’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio, ac mae’n gwneud y pethau arferol fel dangos ystadegau am eich defnydd o’r sgrin a dweud pa apiau sy’n cael eu defnyddio. Mae ganddo dri modd sy’n canolbwyntio ar hunanreolaeth. Maent yn cynorthwyo mewn gwahanol ffyrdd, megis datgysylltu apiau pan fyddwch chi’n cysgu, eich helpu i ganolbwyntio pan nad oes angen i chi ddefnyddio’r ffôn, eich rhybuddio pan fyddwch yn defnyddio gormod ar ap ac ati.
  • Forest – Mae’n rhad ac am ddim ond gallwch dalu am ragor o nodweddion yn yr ap. Amserydd canolbwyntio yw hwn, ac mae’n eich cynorthwyo i ganolbwyntio a chadw draw o’r ffôn. Mae’n cynnwys modd amseru ac os cadwch ato, bydd coeden yn tyfu ar yr ap.

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ofalu am eich lles digidol, edrychwch ar y casgliad LinkedIn Learning hwn.

Leave a Comment

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *

*
*